{"id":605,"date":"2025-11-21T17:09:49","date_gmt":"2025-11-21T17:09:49","guid":{"rendered":"http:\/\/185.53.59.222\/~burtonbont\/story\/capeli-eglwysi-a-chrefydd\/"},"modified":"2025-11-27T12:09:49","modified_gmt":"2025-11-27T12:09:49","slug":"capeli-eglwysi-a-chrefydd","status":"publish","type":"story","link":"https:\/\/burtonbontfestival.wales\/cy\/storiau\/capeli-eglwysi-a-chrefydd\/","title":{"rendered":"Capeli, Eglwysi a Chrefydd"},"content":{"rendered":"\n<p>Mae hanes y capeli yng Nghymru wedi&#8217;i gysylltu&#8217;n agos \u00e2 chynnydd anghydffurfiaeth a dyfodd yn sylweddol o&#8217;r 17eg ganrif ymlaen gan gyrraedd uchafbwynt yn y 19eg ganrif gyda nifer fawr o gapeli&#8217;n cael eu hadeiladu. Doedd Pontrhydyfen ddim yn wahanol. Gellid dod o hyd i sawl capel o wahanol enwadau yn y pentref a&#8217;r cyffiniau ac roeddent yn darparu ymdeimlad cryf o gymuned, gan ddarparu digwyddiadau cymdeithasol ac addysgol. Fel rheol, cynhaliwyd y gwasanaethau yn y Gymraeg yn hytrach nag yn Saesneg.    <\/p>\n\n\n\n<p>Yn aml, roedd capeli&#8217;n rhoi cyfle i oedolion a phlant ddod yn llythrennog drwy gyfarfodydd y Beibl ac ysgolion Sul yn ogystal \u00e2&#8217;r cyfle i gymryd rhan mewn cystadlaethau canu a llythrennedd ac eisteddfodau. <\/p>\n\n\n\n<p>Fel y gwelwch chi o sawl adroddiad papur newydd, roedd gan ddiaconiaid y capeli lawer o ddylanwad a ph\u0175er yn y gymuned a gellid eu canfod yn gwneud sylwadau ar ymddygiad a thueddiadau gwleidyddol eu praidd, a oedd yn cael eu hadrodd yn y papur newydd yn aml! Dim ond amlinelliad byr o eglwysi a chapeli crefyddol y pentref a&#8217;r cyffiniau yw hwn.  <\/p>\n\n\n\n<p>Unwaith eto, os oes gennych chi ragor o wybodaeth, rhowch wybod i ni gan ddefnyddio\u2019r ffurflen \u2018cysylltu \u00e2 ni\u2019.<\/p>\n\n\n<script src=\"https:\/\/unpkg.com\/masonry-layout@4\/dist\/masonry.pkgd.min.js\"><\/script>\n<section class=\"snippets mb-3 mb-md-5\">\n\n            \n                    <div class=\"row masonry-grid\" data-masonry='{\"percentPosition\": true }'>\n                                    <div class=\"col-sm-6 col-lg-4 mb-4 masonry-grid-item\">\n                        <div class=\"card\">\n                            <div class=\"card-img-top\">\n                                <img decoding=\"async\" width=\"700\" height=\"520\" src=\"https:\/\/burtonbontfestival.wales\/wp-content\/uploads\/2025\/11\/who-lived-in-my-houseEfail-Fach-Mill-and-Sardis-Chapel-700x520.jpg\" class=\"w-100\" alt=\"who lived in my house Efail Fach Mill and Sardis Chapel\" \/>                            <\/div>\n                            <div class=\"card-body\">\n                                <h3 class=\"mt-3\">Capel Annibynwyr Cymreig Sardis:<\/h3>\n                                <div class=\"\">Dechreuwyd cynnal cyfarfodydd gweddi yn Efail Fach a\u2019r cyffriniau gan nifer o aelodau Capel y Graig, Cwmafan a Fforchdwm, Tonmawr. Fodd bynnag, gan fod yr aelodau\u2019n cwyno am y pellter yr oedd raid iddynt ei deithio i addoli, aethant ati i ddechrau cwblhau gwaith adeiladu eu hunain, gan ddefnyddio cerrig o afon Pelenna yn aml i adeiladu eu capel eu hunain. Dechreuwyd adeiladu y tu allan i ffin y plwyf yn 1856 a chwblhawyd y gwaith yn 1859.\r\nAgorodd y capel ar 3-4ydd Awst y flwyddyn honno. Credir iddo gael ei addasu neu ei newid yn 1896 ac yn 1905. Gyda lle i 400, mae Sardis bellach yn rhoi ei enw i\u2019r bryn serth uwchben safle\u2019r hen felin yn Efail Fach. Caeodd yn y 1980au a symudwyd llawer o\u2019i du mewn a\u2019i osod yng nghapel Macpelah.\r\n<\/div>\n                            <\/div>\n                        <\/div>\n                    <\/div>\n                                    <div class=\"col-sm-6 col-lg-4 mb-4 masonry-grid-item\">\n                        <div class=\"card\">\n                            <div class=\"card-img-top\">\n                                <img decoding=\"async\" width=\"700\" height=\"520\" src=\"https:\/\/burtonbontfestival.wales\/wp-content\/uploads\/2025\/11\/Jerusalem-chapel-Pontrhydyfen-700x520.jpg\" class=\"w-100\" alt=\"Jerusalem chapel Pontrhydyfen\" \/>                            <\/div>\n                            <div class=\"card-body\">\n                                <h3 class=\"mt-3\">Capel Jerusalem:<\/h3>\n                                <div class=\"\">Safle&#8217;r capel a&#8217;r fynwent hynaf ym mhentref Pontrhydyfen. Capel Methodistaidd Calfinaidd oedd Jerwsalem. Mae adeiladau olynol wedi&#8217;u hadeiladu ar y safle hwn (1845 a 1876). Mae&#8217;r adeilad presennol yn adeilad rhestredig Gradd II ac roedd 800 o bobl yn gallu eistedd ynddo. Cafodd ei gynllunio yn yr arddull glasurol gan y pensaer o&#8217;r Rhondda, W. Jones, ac fe&#8217;i adeiladwyd gan E. Evans, Llangynwyd. Caeodd yn y 1990au ac mae bellach yn breswylfa breifat.<\/div>\n                            <\/div>\n                        <\/div>\n                    <\/div>\n                                    <div class=\"col-sm-6 col-lg-4 mb-4 masonry-grid-item\">\n                        <div class=\"card\">\n                            <div class=\"card-img-top\">\n                                <img decoding=\"async\" width=\"700\" height=\"520\" src=\"https:\/\/burtonbontfestival.wales\/wp-content\/uploads\/2025\/11\/chapel--700x520.jpeg\" class=\"w-100\" alt=\"Bethel chapel\" \/>                            <\/div>\n                            <div class=\"card-body\">\n                                <h3 class=\"mt-3\">Capel Bedyddwyr Bethel: <\/h3>\n                                <div class=\"\">Adeiladwyd y capel cyntaf ar safle Capel Bethel yn 1850 ond gwnaed gwaith ailadeiladu ac addasiadau yn 1903. Credir bod rhywfaint o&#8217;r adeilad cynharach wedi&#8217;i ymgorffori mewn wal derfyn. Mae&#8217;n adeilad Rhestredig Gradd II a daeth i sylw byd-eang pan gynhaliwyd gwasanaeth coffa Richard Burton yno ym mis Awst 1984. Er bod y capel wedi cau ers hynny, mae wedi ailagor bellach ac yn gweithredu fel caffi a lleoliad cerddoriaeth. Mae llawer o&#8217;r tu mewn wedi cael ei gadw ac mae&#8217;r bedyddfaen wedi&#8217;i gadw a gellir dod o hyd iddo o dan y llwyfan.<\/div>\n                            <\/div>\n                        <\/div>\n                    <\/div>\n                                    <div class=\"col-sm-6 col-lg-4 mb-4 masonry-grid-item\">\n                        <div class=\"card\">\n                            <div class=\"card-img-top\">\n                                                            <\/div>\n                            <div class=\"card-body\">\n                                <h3 class=\"mt-3\">Capel Gyfylchi: <\/h3>\n                                <div class=\"\">Mae&#8217;n debyg bod capel neu eglwys wedi sefyll ar y safle hwn ers yr Oesoedd Canol, ond erbyn canol y 18fed ganrif roedd yn adfeilion. Dechreuodd clerigwr Methodistaidd, William Davies, ei ailadeiladu tua 1775. Daeth Gyfylchi yn ganolfan bwysig i&#8217;r mudiad Methodistaidd a Diwygiadol. Daeth llawer o bregethwyr i gyfarfodydd yng Ngyfylchi a gallai&#8217;r rhain ddenu torfeydd o gannoedd. Er mwyn darparu ar gyfer nifer mawr o bobl, dechreuwyd adeiladu capel Methodistaidd newydd (Jerwsalem) yn 1824 a chwblhawyd yr adeilad yn 1826.<\/div>\n                            <\/div>\n                        <\/div>\n                    <\/div>\n                                    <div class=\"col-sm-6 col-lg-4 mb-4 masonry-grid-item\">\n                        <div class=\"card\">\n                            <div class=\"card-img-top\">\n                                                            <\/div>\n                            <div class=\"card-body\">\n                                <h3 class=\"mt-3\">Capel Macpelah (Sardis-Macpelah bellach): <\/h3>\n                                <div class=\"\">Agorodd yn 1896 a defnyddiwyd ef fel festri ac ysgol Sul ar gyfer capel Annibynwyr Sardis. Wedi&#8217;i leoli wrth ymyl mynwent Macpelah, daeth hwn yn brif gapel yr Annibynwyr pan gaeodd Sardis yn y 1980au. Cymerodd Cyngor Cymuned Pelenna yr awenau i redeg y fynwent yn 2015. Dyma&#8217;r unig gapel sy&#8217;n cynnig gwasanaethau ym Mhontrhydyfen.<\/div>\n                            <\/div>\n                        <\/div>\n                    <\/div>\n                                    <div class=\"col-sm-6 col-lg-4 mb-4 masonry-grid-item\">\n                        <div class=\"card\">\n                            <div class=\"card-img-top\">\n                                <img decoding=\"async\" width=\"700\" height=\"520\" src=\"https:\/\/burtonbontfestival.wales\/wp-content\/uploads\/2025\/11\/who-lived-in-my-houseOakwood-Row-and-St-Johns-Church-1930s-AM-700x520.jpg\" class=\"w-100\" alt=\"who lived in my house Oakwood Row and St Johns Church 1930s AM\" \/>                            <\/div>\n                            <div class=\"card-body\">\n                                <h3 class=\"mt-3\">Eglwys Sant Ioan yr Efengylwr, Oakwood: <\/h3>\n                                <div class=\"\">Cynhaliwyd gwasanaethau Anglicanaidd yn wreiddiol yn yr hen ystafell ysgol yn Oakwood. Rhoddwyd y tir a&#8217;r arian i adeiladu&#8217;r eglwys a&#8217;r ysgol gan deulu Talbot. Agorwyd yr eglwys yn 1882 (edrychwch ar yr erthygl papur newydd) ac roedd yn fam-eglwys i drigolion Oakwood, Tonmawr, Bryn a Phontrhydyfen.\r\nWedi&#8217;i chynllunio a&#8217;i hadeiladu gan Feistri Kent &amp; Co, Llundain, gallai ddal tua 300 o bobl. Ar un adeg roedd yn gartref i gofeb ryfel y pentref a ddadorchuddiwyd yn 1924. Cynhaliwyd llawer o wasanaethau ysgol yn yr eglwys. Caewyd yr eglwys yn y 1990au a gwnaeth y plwyfolion lleol gais am ganiat\u00e2d cynllunio i adeiladu un yn ei lle, ond gwrthodwyd y cais.\r\n<\/div>\n                            <\/div>\n                        <\/div>\n                    <\/div>\n                                    <div class=\"col-sm-6 col-lg-4 mb-4 masonry-grid-item\">\n                        <div class=\"card\">\n                            <div class=\"card-img-top\">\n                                                            <\/div>\n                            <div class=\"card-body\">\n                                <h3 class=\"mt-3\">Neuadd Genhadaeth Eglwys Sant Teilo, Tonmawr: <\/h3>\n                                <div class=\"\">Codwyd yr adeilad presennol pan ddaeth y trigolion at ei gilydd a chodi arian i adeiladu Eglwys Sant Teilo newydd pan gaewyd eglwys Sant Ioan ym Mhontrhydyfen. Cafodd ei chysegru ym mis Awst 2003.<\/div>\n                            <\/div>\n                        <\/div>\n                    <\/div>\n                                    <div class=\"col-sm-6 col-lg-4 mb-4 masonry-grid-item\">\n                        <div class=\"card\">\n                            <div class=\"card-img-top\">\n                                                            <\/div>\n                            <div class=\"card-body\">\n                                <h3 class=\"mt-3\">Capel Annibynnol Shiloh \/ Capel Annibynwyr Bryn Seion Tonmawr: <\/h3>\n                                <div class=\"\">Mae cofnodion cynnar yn dangos bod cyfarfodydd annibynwyr yn cael eu cynnal mewn t\u0177 o&#8217;r enw Shiloh yn Nhonmawr. Nid yw&#8217;n sicr ai hwn oedd rhagflaenydd Capel Annibynwyr Bryn Seion, y cyfeiriwyd ato yn 1847 a bod yr adeilad wedi&#8217;i addasu yn 1883, 1895 ac eto yn 1910. Roedd y cofnodion yn nodi bod lle i 350 o bobl eistedd yn yr adeilad.<\/div>\n                            <\/div>\n                        <\/div>\n                    <\/div>\n                            <\/div>\n                    \n<\/section>\n\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae hanes y capeli yng Nghymru wedi&#8217;i gysylltu&#8217;n agos \u00e2 chynnydd anghydffurfiaeth a dyfodd yn sylweddol o&#8217;r 17eg ganrif ymlaen gan gyrraedd uchafbwynt yn<\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":599,"parent":0,"template":"","meta":{"_acf_changed":false,"inline_featured_image":false,"footnotes":""},"media-type":[],"topic":[45],"class_list":["post-605","story","type-story","status-publish","has-post-thumbnail","hentry","topic-chrefydd"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/burtonbontfestival.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/story\/605","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/burtonbontfestival.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/story"}],"about":[{"href":"https:\/\/burtonbontfestival.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/story"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/burtonbontfestival.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"version-history":[{"count":5,"href":"https:\/\/burtonbontfestival.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/story\/605\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":714,"href":"https:\/\/burtonbontfestival.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/story\/605\/revisions\/714"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/burtonbontfestival.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/599"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/burtonbontfestival.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=605"}],"wp:term":[{"taxonomy":"media-type","embeddable":true,"href":"https:\/\/burtonbontfestival.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media-type?post=605"},{"taxonomy":"topic","embeddable":true,"href":"https:\/\/burtonbontfestival.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/topic?post=605"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}