{"id":975,"date":"2025-11-16T14:49:34","date_gmt":"2025-11-16T14:49:34","guid":{"rendered":"http:\/\/185.53.59.222\/~burtonbont\/story\/wynebaur-rhai-sydd-wedi-marw\/"},"modified":"2025-11-30T15:47:13","modified_gmt":"2025-11-30T15:47:13","slug":"wynebaur-rhai-sydd-wedi-marw","status":"publish","type":"story","link":"https:\/\/burtonbontfestival.wales\/cy\/storiau\/wynebaur-rhai-sydd-wedi-marw\/","title":{"rendered":"Wynebau&#8217;r rhai sydd wedi marw"},"content":{"rendered":"\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Bywgraffiadau&#8217;r dynion a wasanaethodd o bentrefi Bryn, Pontrhydyfen a Thonmawr.<\/h2>\n\n\n<script src=\"https:\/\/unpkg.com\/masonry-layout@4\/dist\/masonry.pkgd.min.js\"><\/script>\n<section class=\"snippets mb-3 mb-md-5\">\n\n            \n                    <div class=\"row masonry-grid\" data-masonry='{\"percentPosition\": true }'>\n                                    <div class=\"col-sm-6 col-lg-4 mb-4 masonry-grid-item\">\n                        <div class=\"card\">\n                            <div class=\"card-img-top\">\n                                                            <\/div>\n                            <div class=\"card-body\">\n                                <h3 class=\"mt-3\">Merchant Seaman Hassan Ali (?1885\u20131918)<\/h3>\n                                <div class=\"\">Ganwyd Hassan Ali (neu Alli) yn Aden, Yemen, tua 1885. Mae Aden yn ddinas borthladd a leolir yn\r\nrhan ddeheuol Penrhyn Arabia, gan wasanaethu fel porth rhwng M\u00f4r Arabia a\u2019r M\u00f4r Coch. Yn \u00f4l ei\r\ndystysgrif priodas, roedd ei dad Mohammed yn ffermwr. Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw wybodaeth\r\nychwanegol ar gael yngl\u0177n \u00e2 theulu Hassan. Mae cyfrifiad 1911 yn cofnodi bod Hassan yn byw yn\r\n52 Ruby Street, y Rhath, Caerdydd, ac yn cael ei gyflogi fel morwr \u2013 yn \u00f4l pob tebyg yn gweithio ar\r\nlongau a oedd yn cyrraedd Dociau Caerdydd. Roedd yn byw gyda Florence Margaret (n\u00e9e\r\nMargetson), a nodwyd fel ei wraig, ynghyd \u00e2\u2019i nith hi. Mae\u2019r amgylchiadau o ran sut y bu iddyn nhw\r\ngyfarfod yn parhau i fod yn aneglur, yn yr un modd sut y daeth Florence i ymgartrefu yng\r\nNghaerdydd, o ystyried cefndir ei theulu fel llafurwyr amaethyddol yn Tivertshall, Norfolk. Ym 1911,\r\ncofnodwyd aelodau o deulu Margetson yn y Goetre ac yn Efail-fach, Pontrhydyfen. Wedi hynny,\r\npriododd y cwpl ym 1914 yn Swyddfa Gofrestru Castell-nedd, er bod y dystysgrif briodas yn eu\r\nrhestru mewn cyfeiriadau ar wah\u00e2n yn y Goetre ar y pryd. Nodir bod Hassan yn gweithio fel\r\ndiffoddwr t\u00e2n yn y gwaith dur. Erbyn hyn, roedd eisoes ganddynt ferch, Zina, a aned yng\r\nNghaerdydd ym 1912. Credir bod y teulu wedi symud i Curwen Terrace, Pontrhydyfen, lle ganed\r\neu mab Arthur ym 1915. Yn y blynyddoedd canlynol, ailymunodd Hassan \u00e2\u2019r Llynges Fasnachol,\r\ngan wasanaethu\u2019n \u00f4l pob tebyg fel diffoddwr t\u00e2n a storiwr llong. Mae\u2019r union amgylchiadau sy\u2019n\r\nymwneud \u00e2 marwolaeth Hassan yn parhau i fod yn ansicr. Erbyn 1921, cofnodwyd Florence fel\r\ngweddw, yn byw gyda\u2019i phlant yn Tonmawr Road ac yn cael ei chyflogi fel gweithiwr domestig.\r\nAilbriododd yn ystod y 1930au ac, yn \u00f4l cofrestr 1939, roedd hi\u2019n byw gyda\u2019i hail \u0175r (signalwr\r\nrheilffordd wedi ymddeol) a\u2019i mab Arthur yn 1 Wern View, Pontrhydyfen. Roedd Arthur, a oedd\r\nbellach yn oedolyn, yn cael ei gyflogi fel cloddiwr glo ac yn anffodus bu farw yn 28 oed ym 1944.\r\nPriododd Zina, merch Hassan a Florence, yn ddiweddarach a symudodd yn gyntaf i Lansawel ac\r\nwedi hynny i Albion Road, Port Talbot.\r\nNodyn: Cyflwynwyd yr wybodaeth ganlynol i Gomisiwn Beddau Rhyfel y Gymanwlad i\u2019w\r\nhadolygu:\r\nAr Fai 9fed, 1918, roedd yr SS Baron Ailsa, a weithredwyd gan y Kelvin Shipping Co., yn\r\ncludo glo ar gyfer yr ymdrech ryfel pan gafodd ei tharo gan dorpido a\u2019i suddo gan SMS\r\nUB-72 oddi ar arfordir Sir Benfro, gan arwain at golli deg o fywydau. Mae adroddiad papur\r\nnewydd o gwest y crwner yn manylu ar suddo cyflym y llong mewn llai na munud ac yn\r\ndisgrifio goroeswyr yn cael eu hachub gan yr USS Fanning (DD-37). Soniodd yr adroddiad\r\nfod &#8220;an Ali Hasan (28), diffoddwr t\u00e2n Arabaidd,&#8221; ymhlith y rhai a achubwyd o\u2019r d\u0175r ond iddo\r\nfarw yn fuan ar \u00f4l ei achub. Er bod yr oedran bum mlynedd yn wahanol i Hassan Alli a\r\ngoffeir ar gofeb ryfel Pontrhydyfen, claddwyd y corff yn Aberdaugleddau mewn bedd heb\r\nfarc. Cyflwynwyd yr wybodaeth hon i\u2019r Comisiwn i ganfod a oedd yr unigolyn hwn yn \u0175r i\r\nFlorence. Waeth beth fo\u2019r canlyniad, gwnaed cais i osod carreg fedd ar y bedd yn unol \u00e2\r\nchoff\u00e1u milwyr eraill y Rhyfel Byd Cyntaf. Rydym yn dal i aros am benderfyniad y Comisiwn.<\/div>\n                            <\/div>\n                        <\/div>\n                    <\/div>\n                                    <div class=\"col-sm-6 col-lg-4 mb-4 masonry-grid-item\">\n                        <div class=\"card\">\n                            <div class=\"card-img-top\">\n                                <img decoding=\"async\" width=\"668\" height=\"520\" src=\"https:\/\/burtonbontfestival.wales\/wp-content\/uploads\/2025\/11\/2nd-Lt.-Thomas-Green-1887-\u2013-1916-DCM-668x520.png\" class=\"w-100\" alt=\"Llun sepia o&#039;r 2il Is-gapten Thomas Green (1887 \u2013 1916) DCM\" \/>                            <\/div>\n                            <div class=\"card-body\">\n                                <h3 class=\"mt-3\">2nd Lt. Thomas Green (1887 \u2013 1916) DCMDCM 22489, Royal Garrison Artillery, 10th Siege Bty<\/h3>\n                                <div class=\"\">Dim ond o un cofnod papur newydd, a gyhoeddwyd ar Dachwedd 17eg, 1916, y bu\u2019n bosibl\r\ncadarnhau manylion yn bendant. Mae\u2019n nodi bod &#8220;cydymdeimlad wedi\u2019i estyn i Mrs Green, a oedd\r\nwedi cael gwybod yn ddiweddar am farwolaeth ei g\u0175r Is-gapten Green, Magnelau Garsiwn Ysgafn.\r\nCyn y rhyfel roedd wedi bod yn gweithio fel llyfrgellydd yn Llyfrgell ac Ystafell Ddarllen Bryn&#8221;.\r\nAgorodd Llyfrgell Bryn ym 1909, ond nid oes unrhyw gofnod o T. Green yn byw yn y Bryn ar\r\ngyfrifiad 1911. Ni all cofnodion ei gysylltu\u2019n bendant \u00e2\u2019r Thomas Green o Abertawe a grybwyllir isod\r\nac nid oes unrhyw adroddiad papur newydd am wobr DCM yn yr erthygl uchod. Byddai\u2019r erthygl yn\r\ncyd-fynd \u00e2\u2019r amserlen a roddir, gan mai dim ond un Is-gapten T (Thomas) Green sydd ar wefan\r\nCWGC.2il Is-gapten Thomas Green (1887 \u2013 1916) DCM\r\n22489, Magnelau Garsiwn Brenhinol, 10fed Bataliwn Gwarchae\r\nGanwyd Thomas yn Abertawe, roedd ei rieni Thomas ac Ann yn wreiddiol o Swydd Gaerloyw, ond\r\nsymudon nhw gyda\u2019u teulu ifanc i Abertawe lle gweithiai Thomas fel garddwr i deuluoedd Dillwyn a\r\nVivian yn Nh\u0177 Parc-wern, Sgeti. Ym 1911, cofnodwyd bod Thomas yn gwasanaethu fel Magnelwr\r\ndros dro, Barics Magnelau Brenhinol Great Yarmouth. Dyfarnwyd DCM iddo ddechrau 1916 am\r\nddewrder amlwg. Mae ei gofnod Beddau\u2019r Gymanwlad yn ei gysylltu \u00e2\u2019i wraig Kate. oedd yn byw\r\nyn Great Yarmouth, a\u2019i dad Thomas, yn Abertawe.<\/div>\n                            <\/div>\n                        <\/div>\n                    <\/div>\n                                    <div class=\"col-sm-6 col-lg-4 mb-4 masonry-grid-item\">\n                        <div class=\"card\">\n                            <div class=\"card-img-top\">\n                                                            <\/div>\n                            <div class=\"card-body\">\n                                <h3 class=\"mt-3\">Sgt. W. Berry<\/h3>\n                                <div class=\"\">Fe gredir fod gan y person hwn gysylltiadau \u00e2 Bryn. Ar safle w\u00ea y Commonwealth War Graves\r\nCommission (CWGC) mae tri Rhingyll Berry sydd \u00e2 chyswllt gyda De Cymru. Mae un adroddiad\r\npapur newyddion yn unig o Ionawr 16eg 1915 yn cysylltu un o\u2019r dynion hyn \u00e2 chofnodion cyfarfod\r\nCyngor Dosbarth Margam a oedd yn trafod materion a oedd yn berthnasol i Fryn a Mynydd\r\nBychan.\r\nMae llythyr a\u2019i ysgrifenwyd gan Lance-Corporal William Berry, 6536 C. Company, Bataliwn 1af y\r\nSomerset Light Infantry, yn diolch y Cyngor am barsel a\u2019i dderbynodd: wrth ysgrifennu o\u2019r ffosydd,\r\nmae William yn dweud ei fod yn ddiolchgar iawn am yr is-ddillad newydd.\r\nSymudodd y teulu i\u2019r Bari, Morgannwg. Fe recordir William yn dal i fyw yn y Bari ym 1911, cyn iddo\r\nymrestru. Nid yw wedi bod yn bosibl cadarnhau os oes ganddo gysylltiadau eraill \u00e2 Bryn, nag os\r\nmai ef yw\u2019r dyn a\u2019i goff\u00e1u ar y gofeb rhyfel, ond ym 1916 roedd William wedi cael ei ddyrchafu i\r\nreng Rhingyll. Ar Hydref 21ain roedd ei gatrawd yn ymladd yng Ngillement yn y Somme, a fe\r\ngofnodir ei farwolaeth ar y diwrnod hwnnw.\r\nAnfonwyd dros 114 miliwn o barseli i filwyr yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf \u2013 rhai gan deuluoedd a\r\nffrindiau, eraill gan y Red Cross, cymdeithasoedd bwrdeisiol a hyd yn oed y Teulu Brenhinol\r\nPrydeinig. Amcan y rhain oedd hyrwyddo mor\u00e2l da, a fe gynnwysant eitemau \u2018pob dydd\u2019 fel sebon,\r\nis-ddillad a bwyd nad yw yn pydru\u2019n rhwydd.\r\n* Os oes gennych wybodaeth am Rhingyll W. Berry, a wnewch chi adael sylw yn ein llyfr\r\nsylwadau, os gwelwch yn dda.<\/div>\n                            <\/div>\n                        <\/div>\n                    <\/div>\n                                    <div class=\"col-sm-6 col-lg-4 mb-4 masonry-grid-item\">\n                        <div class=\"card\">\n                            <div class=\"card-img-top\">\n                                <img decoding=\"async\" width=\"176\" height=\"245\" src=\"https:\/\/burtonbontfestival.wales\/wp-content\/uploads\/2025\/11\/gt.-Sidney-Thomas-Chatham-1889\u20131918.png\" class=\"w-100\" alt=\"Sgt. Sidney Thomas Chatham (1889\u20131918)\" \/>                            <\/div>\n                            <div class=\"card-body\">\n                                <h3 class=\"mt-3\">Sgt. Sidney Thomas Chatham (1889\u20131918)18801, Royal Welch Fusiliers, 14th Btn.<\/h3>\n                                <div class=\"\">Ganwyd Sidney yn Llanelli, Sir Gaerfyrddin, ac roedd yn byw gyda\u2019i rieni (Stephen a Sarah) a\u2019i\r\nfrodyr a\u2019i chwiorydd. Erbyn 1911, roedd y teulu\u2019n byw yn 19 Heol Maesteg, Bryn. Roedd Sidney yn\r\ngweithio fel gosodwr brics. Ymunodd \u00e2\u2019r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig, glaniodd yn Ffrainc ar 2\r\nRhagfyr 1915 ac ymhen amser cafodd ei ddyrchafu\u2019n Rhingyll.\r\nYm mis Awst 1918, cafwyd cyfres o ymosodiadau milwrol cydlynol gan y cynghreiriaid ar Ffrynt y\r\nGorllewin. Roedd y cyfnod hwn, a alwyd yn \u2018Ymosodiad Can Diwrnod\u2019, yn nodi cam olaf y\r\ngwrthdaro yn erbyn Byddin yr Almaen, oedd yn gwanhau. Ni ddaeth y fuddugoliaeth heb bris,\r\ngyda\u2019r Cynghreiriaid yn dioddef dros filiwn o golledion, a\u2019r Almaenwyr dros 1.1 miliwn.\r\nAr Hydref 20fed, 1918, cofnododd y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig 42 o golledion. Cofnodir bod\r\nSydney wedi\u2019i ladd mewn brwydr, yn 29 oed, yn Charlton J. Chedzoy, Fflandrys, prin 3 wythnos cyn\r\ni\u2019r rhyfel ddod i ben. Mae wedi\u2019i goff\u00e1u ar Gofeb Vis-en-Artois, Pas de Calais, Ffrainc. Enwir ei fam\r\nSarah ar gofnodion ei bensiwn rhyfel ac fel ysgutor ei ewyllys. Yng nghyfrifiad 1921, mae Sarah yn\r\nweddw, yn dal i fyw yn Bryn. Arhosodd rhai o\u2019i frodyr a\u2019i chwiorydd yn Bryn ac aeth ei frawd iau\r\nEdgar ymlaen i enwi ei fab ar \u00f4l Sidney.<\/div>\n                            <\/div>\n                        <\/div>\n                    <\/div>\n                                    <div class=\"col-sm-6 col-lg-4 mb-4 masonry-grid-item\">\n                        <div class=\"card\">\n                            <div class=\"card-img-top\">\n                                <img decoding=\"async\" width=\"176\" height=\"245\" src=\"https:\/\/burtonbontfestival.wales\/wp-content\/uploads\/2025\/11\/m-Frederick-Crees_-1886\u20131915-13986-Royal-Engineers-17th-Field-Coy_.png\" class=\"w-100\" alt=\"m Frederick Crees_ (1886\u20131915) 13986, Royal Engineers, 17th Field Coy_\" \/>                            <\/div>\n                            <div class=\"card-body\">\n                                <h3 class=\"mt-3\">Bertram Frederick Crees* (1886\u20131915) 13986, Royal Engineers, 17th Field Coy <\/h3>\n                                <div class=\"\">Ganwyd Bertram yn Ashwick, Dulverton, Gwlad yr Haf a bu\u2019n byw yn yr Orsaf Heddlu gyda\u2019i rieni\r\n(John Frederick ac Emily) a nifer o\u2019i frodyr a chwiorydd. Roedd ei dad John hefyd yn Gwnstabl\r\nHeddlu a byddai Bertram yn dilyn ei dad i yrfa gyda\u2019r heddlu.\r\nPriododd \u00e2 Winifred, merch leol o Wlad yr Haf, ym mis Ebrill 1913 lle nodwyd bod Bertram eisoes\r\nyn byw yn Nyffryn Afan, De Cymru. Fe\u2019i cofnodir mewn sawl adroddiad papur newydd lleol yng\r\nNghymru ar y pryd, weithiau fel \u201cPC C REES\u201d, yn delio \u00e2 glowyr ar streic, digwyddiadau lleol yn\r\nNhon-mawr a Phontrhydyfen a dyffryn Afan.\r\nCymerodd y Peirianwyr Brenhinol yn ran flaenllaw yn yr ymladd dwys o amgylch Ypres a welodd\r\nhefyd y defnydd cyntaf o nwy ar raddfa fawr gan yr Almaenwyr ddiwedd mis Ebrill 1915. Adroddir\r\nbod Bertram wedi\u2019i ladd mewn brwydr yn Fflandrys ar Ebrill 30ain, 1915, yn 30 oed. Mae wedi\u2019i\r\ngoff\u00e1u ar Borth Menin. Adroddodd papur newydd fod Winifred wedi derbyn portread o\u2019i g\u0175r ar ran y\r\npentref. Aeth ymlaen i fyw ym Mryste, ailbriododd a chafodd fab.\r\n*Sylwch fod Bertram wedi\u2019i gofnodi ar ein cofeb fel PC CRYS.<\/div>\n                            <\/div>\n                        <\/div>\n                    <\/div>\n                                    <div class=\"col-sm-6 col-lg-4 mb-4 masonry-grid-item\">\n                        <div class=\"card\">\n                            <div class=\"card-img-top\">\n                                                            <\/div>\n                            <div class=\"card-body\">\n                                <h3 class=\"mt-3\">Roger Curtis (1887\u20131918) 81074 East Surrey Regiment, 2nd Btn <\/h3>\n                                <div class=\"\">Teulu mawr oedd y teulu Curtis, a oedd yn byw yn Efail Fach o\u2019r 1850au ymlaen. Roedd rhieni\r\nDavid yr h\u0177n (gl\u04e7wr a wedyn ffarmwr) a Mary, yn byw yn Efail Fach ac ar Ffarm Tonygregas ym\r\n1901. Bu David Roger yr unig un o blant y teulu i gael ei eni y tu allan i Bontrhydyfen, yn Onllwyn,\r\ner i ochr ei fam o\u2019r teulu yn dod o Gwm Dulais. T\u04e7wr \u00e2 gwellt oedd ei dad-cu, Thomas. Un o dri\r\nbrawd wnaeth ymuno \u00e2\u2019r fyddin yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf oedd David Roger. (Gweler Llewellyn\r\nCurtis).\r\nPriododd David Roger Mary Jane Davies, yr oedd ei theulu yn byw yn Nheras Blaenavon,\r\nTonmawr. Cafodd y cwpl fab, Richard Arthur, a mae Cyfrifiad (Census) 1911 yn eu dangos yn byw\r\nyn 9, Teras Blaenavon. Rhannodd y teulu bach gyda chwaer briod Mary, Ester Alice a\u2019i g\u0175r, John\r\nFisher, a\u2019u mab bach. Mae John Fisher hefyd yn cael ei goff\u00e1u ar y Bwrdd. Yn drist iawn, mae\u2019r\r\nteulu wedi dioddef cyfanswm o dri cholled: mae\u2019r ddwy chwaer wedi colli eu gw\u0177r, a mae eu\r\nmeibion wedi colli tad yn ogystal ag ewythr.\r\nMae papur newyddion yn cofnodi marwolaeth David Roger o lid yr ysgyfaint (pneumonia) ar Fedi\r\n26ain, 1918 yn Salonica yng Ngroeg. Mae\u2019n debygol ei fod yn un o\u2019r nifer mawr o ddioddefwyr a fu\r\nfarw yn ystod yr epidemig ffliw byd-eang o 1918-1919 (y \u2018Spanish Flu\u2019), sydd wedi llad dros 25\r\nmiliwn. Fe gladdwyd David Roger ym Mynwent Brydeinig Mialo, Groeg. Ym 1921, fe gofnodir Mary,\r\nbellach yn weddw, yn byw gyda\u2019i fab yn 14, Teras Blaenavon, ac yn gweithio fel gofalwraig yn\r\nYsgol Tonmawr.<\/div>\n                            <\/div>\n                        <\/div>\n                    <\/div>\n                                    <div class=\"col-sm-6 col-lg-4 mb-4 masonry-grid-item\">\n                        <div class=\"card\">\n                            <div class=\"card-img-top\">\n                                                            <\/div>\n                            <div class=\"card-body\">\n                                <h3 class=\"mt-3\">Ri\ufb02eman. Llewellyn Curtis (1893\u20131915) Y\/1724 Kings Royal Rifles, Corps, 3rd Btn <\/h3>\n                                <div class=\"\">Cafodd Llewellyn ei eni ym Mhontrhydyfen, yn frawd i David Roger Curtis. Cafodd ei rieni, David\r\n(gl\u04e7wr a wedyn ffarmwr) a Mary deulu mawr, a wedi byw yn Efail Fach ac ar Ffarm Tonygregas\r\nerbyn 1901. Ym 1911, roedd Llewellyn yn byw gyda\u2019i frawd h\u0177n, Jenkin, a\u2019i deulu mawr yng\r\nNghrynant, Castell Nedd.\r\nMae ei bapurau ardystiad a\u2019i record milwrol yn bod o hyd, ac yn cynnig amrywiaeth o ffeithiau\r\namdano. Ymunodd \u00e2\u2019r fyddin ym Medi, 1914 a fe ei ddisgrifir fel 5\u02b96\u02ba, yn pwyso 9 st\u00f4n, gyda phryd\r\ngolau, llygaid glas a gwallt brown-golau. Yn Ionawr, 1915, cafodd ddirwy o gyflog pum-diwrnod am\r\nfod yn absennol heb ganiat\u00e1d.\r\nFe gofnodir ei farwolaeth a achoswyd gan anafiadau a gafwyd ar Ebrill 9fed, 1915, yn 22 blwydd\r\noed, yn Ypres, Flanders. Bu\u2019r diwrnod hwn yn arwyddocaol fel y tro cyntaf i\u2019r fyddin Almaeneg\r\nlansio ymosodiad mawr gan ddefnyddio nwy gwenwynol. Fe enwir yr ymosodiad yn Ail Frwydr\r\nYpres.\r\nBu ei frawd iau, Thomas, yr unig frawd o\u2019r tri dyn i oroesi\u2019r Rhyfel Byd Cynraf. Ym 1921, fe gofnodir\r\nThomas a\u2019i wraig newydd, Gladys\u2019 yn byw ym Mrynderi, Efail Fach, gyda\u2019i rieni, David a Mary.<\/div>\n                            <\/div>\n                        <\/div>\n                    <\/div>\n                                    <div class=\"col-sm-6 col-lg-4 mb-4 masonry-grid-item\">\n                        <div class=\"card\">\n                            <div class=\"card-img-top\">\n                                                            <\/div>\n                            <div class=\"card-body\">\n                                <h3 class=\"mt-3\">Sapper Eli Davies (1881\u20131916) 156072, Royal Engineers, Tunnelling Cpy.<\/h3>\n                                <div class=\"\">Ganwyd Eli ym Mhen-rhiw-fer, Tonyrefail, yn fab i Daniel (gl\u00f6wr) ac Elizabeth. Roedd gan y teulu\r\nnifer o blant ac roeddent yn byw ym Mhen-rhiw-fer drwy gydol plentyndod Eli. Priododd \u00e2\u2019i wraig\r\nElizabeth Ann (o Lantrisant) tua 1904 ac erbyn 1911, roedd y cwpl yn byw yn 39 Mill St, Cwmfelin,\r\nger Maesteg. Roedd yn gweithio fel gl\u00f6wr. Dengys eu cofnod cyfrifiad eu bod eisoes wedi colli\r\nplentyn erbyn hyn. Mae papurau ardystio Eli wedi goroesi, ond maent yn codi ychydig o\r\ngwestiynau ynghylch sut yr ymddengys i\u2019r cwpl briodi yn Wigan. Maent yn dangos iddo ymuno \u00e2\u2019r\r\nfyddin ddechrau mis Medi 1914, brin 6 wythnos wedi i\u2019r rhyfel ddechrau. Disgrifir ef fel un oedd yn\r\npwyso 11 st\u00f4n a 3 pwys, yn 5\u2019 5\u201d, gyda gwallt brown, llygaid glas a chroen gl\u00e2n.\r\nErbyn mis Ionawr 1916, roedd Eli wedi trosglwyddo i gwmn\u00efau Twnelu\u2019r Peirianwyr Brenhinol a\r\noedd wedi\u2019u ffurfio i gloddio twneli ymosodol o dan linellau\u2019r gelyn. Roedd Byddin Prydain yn\r\ngyflym i recriwtio dynion medrus, fodd bynnag, roedd cyfradd marwolaethau uchel ymhlith y gr\u0175p\r\nhwn o ddynion a oedd yn aml yn gweithio dan olau cannwyll mewn amodau oer a chyfyng.\r\nAdroddir ei fod wedi marw o\u2019i glwyfau ar 21 Mai 1916, yn 35 oed. Mae wedi\u2019i gladdu ym Mynwent\r\nGymunedol Noeux-Les-Mines, Pas de Calais, Ffrainc. Mae ei bapurau milwrol yn nodi bod\r\nElizabeth Ann yn byw yn 13 Station Tce, Bryn, a phryd y derbyniodd fedalau rhyfel ei diweddar \u0175r.\r\nDengys cyfrifiad 1921 ei bod hi\u2019n dal i fyw yn y cyfeiriad hwn, a bod eu mab Daniel yn gweithio, yn\r\n16 oed, fel gwas drws mewn pwll glo.<\/div>\n                            <\/div>\n                        <\/div>\n                    <\/div>\n                                    <div class=\"col-sm-6 col-lg-4 mb-4 masonry-grid-item\">\n                        <div class=\"card\">\n                            <div class=\"card-img-top\">\n                                                            <\/div>\n                            <div class=\"card-body\">\n                                <h3 class=\"mt-3\">Corp. James Davies (1886\u20131918) MM Deal. \/3477 (S), Royal Marines, RM Medical Unit, RN Div<\/h3>\n                                <div class=\"\">Ganwyd James yng Nghwmafan, yn fab i Sarah a Samuel (Llafurwr), symudodd James a\u2019i frodyr a\r\nchwiorydd yn fuan i Bontrhydyfen lle ganed mwy o blant yn y blynyddoedd canlynol. Bu\u2019r teulu\u2019n\r\nbyw yn Nh\u0177 Herbert, Pontrhydyfen yn gyntaf ac yna yn 4 Pontycymer, ger y draphont. Ym 1911,\r\nroedd James yn gweithio fel Gl\u00f6wr, gan gynnal ei fam weddw a\u2019i ddwy chwaer a oedd yn gweithio\r\nfel gweithwyr tun.\r\nPriododd ag Elizabeth Rees yn Felinfoel, Llanelli, ond nid ydym yn gwybod sut y cyfarfu\u2019r cwpl.\r\nYmunodd \u00e2\u2019r fyddin ym 1915, gan ymuno ag uned feddygol y Morfilwyr Brenhinol. Dyfarnwyd y\r\nFedal Filwrol iddo yn Ancre ac adroddir yn y London Gazette ym mis Chwefror 1917 ei fod wedi\r\n\u201cdangos dewrder ac egni mawr wrth symud cleifion o safle a oedd wedi\u2019i fomio\u2019n drwm i un o\r\nddiogelwch mawr.\u201d (gweler y copi). Mae\u2019r cofnod hwn yn disgrifio\u2019n union pryd y bu farw James ar\r\n20 Tachwedd 1920, yn 32 oed, prin 11 diwrnod ar \u00f4l i\u2019r rhyfel ddod i ben. Mae\u2019n bosibl mai James\r\noedd un o nifer o ddioddefwyr y ffliw, neu Bandemig y Ffliw \u2018Sbaenaidd\u2019 ym 1918, a aeth ymlaen i\r\nhawlio miliynau o fywydau. Mae wedi\u2019i gladdu ym Mynwent Filwrol Etaples, Ffrainc. Galluogodd\r\nsawl adroddiad papur newydd wedi dilyn ei farwolaeth ni i olrhain James a\u2019i wraig Elizabeth, a aeth\r\ni fyw yn 2 Glyncelyn, Felinfoel ym 1921. Bu farw yn 82 oed ac mae wedi\u2019i chladdu gyda\u2019i rhieni yn\r\nFelinfoel. Parhaodd nifer o frodyr a chwiorydd James i fyw yn y pentref, gan gynnwys Stryd y\r\nFrenhines, Pontrhydyfen.<\/div>\n                            <\/div>\n                        <\/div>\n                    <\/div>\n                                    <div class=\"col-sm-6 col-lg-4 mb-4 masonry-grid-item\">\n                        <div class=\"card\">\n                            <div class=\"card-img-top\">\n                                                            <\/div>\n                            <div class=\"card-body\">\n                                <h3 class=\"mt-3\">William Richard Davies (1896\u20131917) 202819, Oxford &amp; Bucks Light Infantry 1st \/ 4th Bn <\/h3>\n                                <div class=\"\">Cafodd William ei eni ym Mhontrhydyfen, er i\u2019w rieni, plant eraill y teulu a\u2019i dad-cu a mam-gu fyw I\r\nddechrau yng Ngherrigllwyd, cyn i\u2019w rieni (David Francis a Mary) symud i Fryn Mayrig, Efail Fach.\r\nDaeth y teulu Davies yn wreiddiol o ardal Llansteffan, Sir Gaerfyrddin, cyn symud i Fryn a wedyn I\r\nBontrhydyfen yn y 1850au. Gweithiodd ei dad fel gl\u04e7wr, yn debyg i sawl o\u2019i frodyr ac ewyrthredd.\r\nAr Dachwedd 25ain, 1917, bu ei fataliwn yn ymladd yn y ffosydd llinell flaen ger Le Sars. Roedd yr\r\nardal wedi gweld rhai o\u2019r gwrthdrawiadau mwyaf gwaedlyd ar y Somme. Dioddefodd y bataliwn\r\nanafiadau trwm a chafodd William ei ladd y diwrnod hwn \u2013 bu\u2019n 21 blwydd oed. Fe gladdwyd ef ym\r\nMynwent Brown Copse, Rouex, Pas de Calais, France. Parhaodd ei dad gweddw i fyw yn yr un\r\ncyfeiriad yn Efail Fach a fe welir ei enw yng Nghyfrifiad 1921 a Chofrestr 1939. Mae enw William\r\nyn ymddangos hefyd ar fedd ei rieni ym Mynwent Capel Macpelah.<\/div>\n                            <\/div>\n                        <\/div>\n                    <\/div>\n                                    <div class=\"col-sm-6 col-lg-4 mb-4 masonry-grid-item\">\n                        <div class=\"card\">\n                            <div class=\"card-img-top\">\n                                                            <\/div>\n                            <div class=\"card-body\">\n                                <h3 class=\"mt-3\">Pte. Thomas Fielding (1885\u20131916) 8931, South Wales Borderers <\/h3>\n                                <div class=\"\">Cafodd Thomas ei eni yng Nghwmbr\u00e2n a thrigodd yn ardal Llantarnam a Chwmbr\u00e2n gyda\u2019i rieni,\r\nJohn Fielding ac Elizabeth Murphy a sawl o\u2019u plant eraill. Daeth y Fieldings yn wreiddiol o Cork,\r\nIwerddon. Mae\u2019n debygol bod o leiaf tri brawd Fielding wedi dod i ardal Y Fenni ar \u00f4l Newyn\r\nGwyddelig y 1840au. Bu tad Thomas yn filwr proffesiynol a fe welir ei hanes ar ddiwedd y\r\nbywgraffiad hwn.\r\nMae cofnodion Cyfrifiad yn dangos ei fod yn arferol i\u2019r teulu estynedig fyw gyda\u2019i gilydd. Ym 1901\r\nroedd Thomas yn gweithio fel llafurwr ffwrnais dawdd, ac yn byw gyda\u2019i rieni a theulu yn 10,\r\nPritchard Terrace, Llantarnam. Dilynodd Thomas ei dad gan ymrestru \u00e2\u2019r South Wales Borderers\r\nym Mawrth, 1904. Symudodd sawl o\u2019i geraint i Bontrhydyfen ac erbyn 1911 roedd ewythr Thomas,\r\nWilliam Fielding a\u2019i deulu yn byw yn 1, Queen Street. Roedd ei gefnder, Michael Fielding a\u2019i deulu\r\nyn byw yn The Huts, Pontrhydyfen. Nid yw wedi bod yn bosibl cadarnhau bod Thomas ei hun wedi\r\nbyw yn y pentref, gan fod cofnodion Cyfrifiad ond yn dangos enwau trigolion ar ddyddiad penodol.\r\nErbyn 1911, mae\u2019r Cyfrifiad yn dangos bod Thomas wedi derbyn \u2018posting\u2019 i Bretoria, De Affrica. Ar\r\ngychwyn y rhyfel, aeth y Bataliwn 1af gan reilffordd i Southampton, a wedi cyrraedd Le Havre ar\r\nAwst 13eg, 1914. Ei fedydd t\u00e2n cyntaf oedd Brwydr yr Aisne. Cafodd y bataliwn ei leoli ger pentref\r\nVendresse rhwng Rhagfyr 18fed a\u2019r 20fed, a wedi dioddef mwy o adnafiadau yn ystod y frwydr hon\r\nwrth pentref cyfagos, Chivy, ar Ragfyr 26ain. Fe nodir y frwydr hon fel y trawsfudiad o ryfel\r\nsymudol at ryfel y ffosydd statig a fyddai\u2019n diffinio\u2019r \u2018Western Front\u2019 am flynyddoedd.\r\nCofnodir marwolaeth Thomas wrth ymladd ar Fedi 26fed, 1914. Bu\u2019n 29 blwydd oed. Ni chafodd ei\r\ngorff ei adeunill, ond mae\u2019n cael ei goff\u00e1u ar gofeb La Fert\u00e9-sous-Jouarre, Seine-et-Maine, France.\r\nParhaodd y teulu Fielding i fyw ym Mhontrhydyfen, a pharhaodd rhieni Thomass i fyw yn ardal\r\nLlantarnam ar \u00f4l y rhyfel.<\/div>\n                            <\/div>\n                        <\/div>\n                    <\/div>\n                                    <div class=\"col-sm-6 col-lg-4 mb-4 masonry-grid-item\">\n                        <div class=\"card\">\n                            <div class=\"card-img-top\">\n                                <img decoding=\"async\" width=\"700\" height=\"520\" src=\"https:\/\/burtonbontfestival.wales\/wp-content\/uploads\/2025\/11\/John-Williams-Fielding.1-700x520.jpeg\" class=\"w-100\" alt=\"\" \/>                            <\/div>\n                            <div class=\"card-body\">\n                                <h3 class=\"mt-3\">John Williams VC (born John Fielding 1857 \u2013 1932). <\/h3>\n                                <div class=\"\">Fe gofnodir bywyd John yn dda iawn. Mab rhieni Catholig Gwyddelig yn Y Fenni, Sir Fynwy, rhoddodd y cyfenw ffug \u2018Williams\u2019 pan ymunodd \u00e2\u2019r fyddin \u2013 nid yw yn hysbys yn union pam. Bu yn 21 blwydd oed pan gafodd ei anfon i Dde Affrica yn ystod y Rhyfel Eingl-Zulu, yn aelod o 2nd Battalion, 24th Regiment of Foot (Hwyrach y South Wales Borderers). Ar Ionawr 22ain \u2013 23ain, 1879, bu John yn Rorke\u2019s Drift, pan gyda Henry Hook symudodd sawl claf o\u2019r ysbyty. Derbyniodd y Victoria Cross am ei weithredoedd.     \r\nAtodiad i\u2019r London Gazette, Mai 2il, 1879., Rhif 24717, Tudalennau 3177-3178 \r\nHis citation reads: \u201cPrivate John Williams was posted with Private Joseph Williams, and Private William Horrigan, 1st Battalion 24th Regiment, in a distant room of the hospital, which they held for more than an hour, so long as they had a round of ammunition left: as communication was for the time cut off, the Zulus were enabled to advance and burst open the door; they dragged out Private Joseph Williams and two of the patients, and assegaied them. Whilst the Zulus were occupied with the slaughter of these men a lull took place, during which Private John Williams, who, with two patients, were the only men now left alive in this ward, succeeded in knocking a hole in the partition, and in taking the two patients into the next ward, where he found Private Hook. These two men together, one man working whilst the other fought and held the enemy at bay with his bayonet, broke through three more partitions, and were thus enabled to bring eight patients through a small window into the inner line of defence. and two other men held a hospital room from attackers.\u201d John had a full military funeral in 1932 which can be seen in Pathe news reel on YouTube.Many people from Pontrhydyfen will be familiar with the film Zulu, which depicts \u2018cinematic representation\u2019 of events at Rorke\u2019s Drift. By co-incidence, it stars two of Pontrhydyfen-born celebrities, Ivor Emmanuel and the voice of Richard Burton in the film.  <\/div>\n                            <\/div>\n                        <\/div>\n                    <\/div>\n                                    <div class=\"col-sm-6 col-lg-4 mb-4 masonry-grid-item\">\n                        <div class=\"card\">\n                            <div class=\"card-img-top\">\n                                <img decoding=\"async\" width=\"700\" height=\"520\" src=\"https:\/\/burtonbontfestival.wales\/wp-content\/uploads\/2025\/11\/John-Fisher.1-700x520.jpeg\" class=\"w-100\" alt=\"\" \/>                            <\/div>\n                            <div class=\"card-body\">\n                                <h3 class=\"mt-3\">Gnr. John Fisher (1886\u20131918) 282526, Royal Garrison Artillery  <\/h3>\n                                <div class=\"\">Cafodd John ei eni ym Mhontcymer, Cwm Garw, a thrigodd gyda\u2019i rieni (Noah ac Elizabeth) a sawl eraillo\u2019u plant. Priododd Ester Alice Davies, a oedd yn byw yn Nheras Blaenavon, Tonmawr o gwmpas 1908. Roedd gan Ester chwaer, Mary Jane, gwraig David Roger Curtis (sydd hefyd yn cael ei gofio ar y Gofeb). Ym 1911, roedd y ddwy chwaer yn byw gyda\u2019i gilydd gyda\u2019u gw\u0177r a\u2019u plant yn 9, Teras Blaenavon. Fe gofnodir John yn gweithio fel Torrwr Glo Tanddaearol. Mae ei bapurau ardystiad yn bod o hyd: ymrestrodd \u00e2\u2019r fyddin ar Awst 20fed, 1914 \u2013 16 diwrnod ar \u00f4l i Prydain ymuno \u00e2\u2019r Rhyfel Byd Cyntaf, a chafodd ei \u2018posting\u2019 ar Fedi 9fed. Fe ddisgrifir ef fel 5\u02b9 8\u02ba, yn pwyso 11 st\u00f4n 11 pwys, gyda phryd golau, gwallt brown a llygaid glas. Erbyn hyn roedd ganddo ddau fab, David John (Ganwyd 1909) a Richard Arthur (Ganwyd 1912), a roedd y teulu yn byw yn 5, Upper Fforchdwm, Pontrhydyfen.        \r\nYn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf bu\u2019r Eidal yn gynghreiriad (ally), ac yn Nhachwedd 1917 roeddent wedi dioddef gorchfygiadau trwm ar \u00f4l Brwydr Caporetto. Ail-drefnwyd y Royal Garrison Artillery er mwyn atgyfnerthu\u2019r milwyr Eidaleg yn y theatr rhyfel llai-hysbys yma. Mae recordiau yn dangos bod John wedi cael ei ladd wrth ymladd yn 32 blwydd oed ar Ionawr 1af, 1918 a bod ei fedd ym Mynwent Brydeinig Giavera, Arcade, yr Eidal.. Erbyn 1921 roedd Alice wedi ail-briodi a roedd yn byw gyda\u2019i meibion a\u2019I llysblant yn 5, Teras Blaenavon.    <\/div>\n                            <\/div>\n                        <\/div>\n                    <\/div>\n                                    <div class=\"col-sm-6 col-lg-4 mb-4 masonry-grid-item\">\n                        <div class=\"card\">\n                            <div class=\"card-img-top\">\n                                                            <\/div>\n                            <div class=\"card-body\">\n                                <h3 class=\"mt-3\">e Bmb. John Helson (1885\u20131918) 606238, Royal Field Artillery, \u2018B\u2019 Bty, 293rd Bde  <\/h3>\n                                <div class=\"\">Ganwyd John yn Braunton, Dyfnaint, ac roedd yn byw gyda\u2019i dad Robert (llafurwr fferm), ei fam, Eliza a\u2019i frodyr a chwiorydd. Erbyn Awst 1902, mae wedi\u2019i gofnodi fel gl\u00f6wr platiau, yn byw yn Level Crossing, Llanilltud Castell-nedd pan briododd ag Elizabeth Barnes. Erbyn 1911, roedd y cwpl yn byw yn 1 Blaenafon Tce, Ton-mawr gyda nifer o blant. Erbyn hyn, cofnodwyd John fel gl\u00f6wr, torrwr. Lladdwyd ef mewn brwydr ym Mrwydr Beaumetz, Fflandrys, ar Fawrth 21ain 1918, yn 34 oed. Mae cofnod catrawd o ymladd y diwrnod hwnnw sy\u2019n nodi bod \u201cy gelyn wedi ymosod o dan farglawdd trwm o 5:00am.\u201d Lladdwyd nifer o ddynion y diwrnod hwnnw, a chofnodwyd hyd yn oed ragor fel rhai ar goll (gweler y llun am y cyfrif llawn). Noda adroddiad papur newydd am ei farwolaeth ei fod wedi gadael gwraig a saith o blant. Mae wedi\u2019i gladdu ym Mynwent Croesffordd Beaumetz, Beaumetz-Les-Cambrai, Ffrainc. Erbyn 1921, roedd Elizabeth wedi ailbriodi ac yn byw yng Ngorsaf Heddlu Pontrhydyfen gyda\u2019i phlant iau a\u2019i llysblant. Roedd eu mab hynaf John erbyn hyn wedi priodi ac yn byw gyda theulu ifanc yng Nghlun, tra bo\u2019u merch Florence yn gweithio ac yn byw fel morwyn yng Ngorsaf Heddlu Pontrhydyfen.           <\/div>\n                            <\/div>\n                        <\/div>\n                    <\/div>\n                                    <div class=\"col-sm-6 col-lg-4 mb-4 masonry-grid-item\">\n                        <div class=\"card\">\n                            <div class=\"card-img-top\">\n                                <img decoding=\"async\" width=\"700\" height=\"520\" src=\"https:\/\/burtonbontfestival.wales\/wp-content\/uploads\/2025\/11\/David-Hopkins.1-700x520.jpeg\" class=\"w-100\" alt=\"David Hopkins\" \/>                            <\/div>\n                            <div class=\"card-body\">\n                                <h3 class=\"mt-3\">Pte. David Morgan Hopkins (1890\u20131915) 16931, South Wales Borderers, 6th Btn.  <\/h3>\n                                <div class=\"\">Ganwyd ym Mynydd Cynffig ym 1890, mab Hugh (dyn Rholer Haearn) a Margaret Leyshon. Daeth David o deulu mawr gyda nifer o frodyr a chwiorydd h\u0177n. Roedd brawd h\u0177n, Hugh Leyshon Hopkins, ei wraig Eleanor a\u2019i deulu yn byw yn 2 Station Road, Pontrhydyfen yng Nghyfrifiad 1911. Roedd aelodau eraill o\u2019r teulu yn byw yng Nghymer ar yr adeg hon gan gynnwys rhieni David a oedd yn byw yn Sunnyside, Cymer. Fodd bynnag, nid oedd David yn y naill gyfeiriad na\u2019r llall ar noson y cyfrifiad.     \r\nPriododd ym 1913 \u00e2 Margaret Jane Jenkins*, a oedd yn byw yn 3 Horseshoe Cott, Lewis Street, Pontrhydyfen. Nid oes gennym unrhyw wybodaeth am wasanaeth milwrol David, pryd na ble y cafodd ei anafiadau, ond mae wedi\u2019i gofnodi fel un a fu farw o\u2019i glwyfau yn Ysbyty Milwrol Brenhinol Victoria, Netley, Hampshire ar 17 Tachwedd 1915 yn 25 oed. Mae wedi\u2019i gladdu ym Mynwent Macpelah. Mae Margaret wedi\u2019i chofnodi fel perthynas agosaf David ac ar ei gofnodion pensiwn rhyfel. Erbyn 1921, roedd ei frawd Hugh a\u2019i deulu yn dal i fyw yn Station Terrace. Roedd Margaret hefyd yn byw yn yr un stryd \u00e2\u2019i brawd iau. *NODYN: Bu farw brawd iau Margaret, James, y flwyddyn ganlynol (1916) ac mae hefyd yn cael ei goff\u00e1u ar y gofeb.      <\/div>\n                            <\/div>\n                        <\/div>\n                    <\/div>\n                                    <div class=\"col-sm-6 col-lg-4 mb-4 masonry-grid-item\">\n                        <div class=\"card\">\n                            <div class=\"card-img-top\">\n                                <img decoding=\"async\" width=\"700\" height=\"520\" src=\"https:\/\/burtonbontfestival.wales\/wp-content\/uploads\/2025\/11\/James-Jenkins.1-700x520.jpeg\" class=\"w-100\" alt=\"Pte. James Jenkins (1892\u20131916)\n17579, Royal Welsh (Welch) Fusiliers\" \/>                            <\/div>\n                            <div class=\"card-body\">\n                                <h3 class=\"mt-3\">Pte. James Jenkins (1892\u20131916) 17579, Royal Welsh (Welch) Fusiliers  <\/h3>\n                                <div class=\"\">Ganwyd James ym Mhontrhydyfen, yn fab i William (gl\u00f6wr) a Mary Jane. Ym 1911, roedd y teulu mawr yn byw yn Horseshoe Tce (Lewis St) ac roeddent yn gymdogion drws nesaf i deulu Thomas (gweler Morgan Thomas). Gweithiodd James fel Gl\u00f6wr (Torrwr). Ar Orffennaf 1af 1916, dechreuodd Brwydr y Somme, y frwydr fwyaf yn y Rhyfel Byd Cyntaf, gyda Brwydr Albert wrth i luoedd Prydain gipio Gommecourt, Mountauban a Mametz. Roedd yn un o\u2019r dyddiau mwyaf gwaedlyd mewn hanes gyda dros 57,000 o anafiadau Prydeinig a 19,240 wedi\u2019u lladd. Rhestrir James fel un a laddwyd mewn brwydr yn Fflandrys ar 6ed Gorffennaf 1916 pan gollodd 9,850 o ddynion eu bywydau ar y diwrnod hwn. Roedd James yn 24 oed. Mae wedi\u2019i goff\u00e1u ar Gofeb Thiepval, Ffrainc. Parhaodd ei deulu i fyw yn Lewis Street ar \u00f4l y rhyfel, mae ei dad William wedi\u2019i gofnodi fel gweithiwr ym Mhwll Glo Merthyr Llanilltud, Ton-mawr ond roedd allan o waith oherwydd yr anghydfod diwydiannol parhaus. Roedd ei chwaer iau Sarah Jane yn gweithio fel clerc nwyddau i Gwmni Rheilffordd Bae Rhondda ac Abertawe. *NODYN: Priododd chwaer hynaf James, Margaret Jane, \u00e2 David Morgan Hopkins ym 1913. Ymunodd \u00e2\u2019r South Wales Borderers a bu farw o\u2019i glwyfau ym 1915. Mae hefyd yn cael ei goff\u00e1u ar y gofeb.            <\/div>\n                            <\/div>\n                        <\/div>\n                    <\/div>\n                                    <div class=\"col-sm-6 col-lg-4 mb-4 masonry-grid-item\">\n                        <div class=\"card\">\n                            <div class=\"card-img-top\">\n                                <img decoding=\"async\" width=\"700\" height=\"520\" src=\"https:\/\/burtonbontfestival.wales\/wp-content\/uploads\/2025\/11\/Daniel-John.1-700x520.jpeg\" class=\"w-100\" alt=\"Pte. Daniel John (1894\u20131916)\n26283, Royal Welsh (Welch) Fusiliers, 17th Bn\" \/>                            <\/div>\n                            <div class=\"card-body\">\n                                <h3 class=\"mt-3\">Pte. Daniel John (1894\u20131916) 26283, Royal Welsh (Welch) Fusiliers, 17th Bn  <\/h3>\n                                <div class=\"\">Cafodd Daniel ei eni yn Nhonmawr, gyda\u2019i rieni, David (Pontrhydyfen) a Mary (Tonmawr), hefyd yn dod o\u2019r ardal. Ym1911 roedd David yn byw gyda\u2019i deulu mawr yn 5, Abergwenffrwd Row, Tonmawr: roedd ganddo saith brawd a thair chwaer. Bu\u2019r holl oedolion gwrywaidd yn gweithio fel glowyr. Ymrestrodd Daniel ym 1915 a mae ei bapurau milwrol yn dangos roedd y teulu yn byw yn 5, Chapel Row, Tonmawr. Mae rhan o\u2019i ardystiad yn yn bod o hyd ac yn dangos ei fod wedi derbyn dirwy o gyflog tridiau am fod ar bar\u00ead gyda dryll budr yn fuan ar \u00f4l iddo ymrestru, ac eto am ddychwelyd yn hwyr o wyliau.     \r\nErbyn Rhagfyr 1915, glaniodd ei fataliwn yn Ffrainc ac erbyn mis Ebrill buon nhw yn Laventie, ardal a welodd ymladd trwm. Oherwydd lefel uchel o dd\u0175r yn y tir, diogelwyd hen amddiffynfeydd gyda gwifren bigog. Mae sawl cerdd ac eitemau celf sydd yn darlunio rhyfela yn yr ardal i\u2019w gweld mewn casgliadau yr Imperial War Museum. Erbyn Mehefin, bu bataliwn Daniel yn ffosydd y Western Front, ac ar Fehefin 8fed, 1916, fe wnaethon nhw baratoi i symud i\u2019r ffosydd blaen. Cafodd Daniel ei ladd ar y diwrnod hwn, a fe gladdwyd ef ym Mynwent y Royal Irish Rifles yn Laventie, Pas-de-Calais, France. Roedd rhieni Daniel yn dal i fyw yn yr un cyfeiriad ym 1921, gyda thri o\u2019u meibion ieuaf, tra i sawl o\u2019u plant eraill fyw ym Mhontrhydyfen a Thonmawr. Marwodd tad Daniel, David, ym 1934 .           <\/div>\n                            <\/div>\n                        <\/div>\n                    <\/div>\n                                    <div class=\"col-sm-6 col-lg-4 mb-4 masonry-grid-item\">\n                        <div class=\"card\">\n                            <div class=\"card-img-top\">\n                                                            <\/div>\n                            <div class=\"card-body\">\n                                <h3 class=\"mt-3\">Sgt. David Thomas Jones (1879\u20131916) 1111, East Surrey Rgt, 7th Bn <\/h3>\n                                <div class=\"\">Cafodd David ei eni yn Llan-Fair-Nant-Gwyn, Sir Benfro, yn fab i John James Jones, llafurwr ffarm, a\u2019i wraig Rachel. Gweithiodd y teulu fel ffermwyr deiliad yn ystod eiblentyndod a fel plentyn bywiodd gyda phlant eraill ei rieni yn ardal St. Dogmaels. Priododd ei wraig Ann Hopkins, a oedd yn wreiddiol o Lanelly, ym 1903. Roedd y teuluHopkins wedi bod yn byw yn Ffochdwm, Tonmawr, cyn 1891. Erbyn 1911, roedd y cwpl ynbyw gyda\u2019u mab a\u2019u tair merch yn 3, Blaenavon Road, Tonmawr, gyda David yn gweithio fel\u2018Torrwr Glo\u2019.       \r\nAr Chwefror 12fed, 1916, symudwyd 7fed Bataliwn yr East Surrey Regiment i Loos, a oeddwedi gweld sawl mis o ymladd yn ystod y flwyddyn gynt. Ni does gennym unrhywwybodaeth am David yr amser yna, ond fe gofnodir ef yn marw o\u2019i anafiadau ar Chwefror22ain, 1916, yn 37 blwydd oed. Fe gladdwyd ef ym Mynwent y Dref, Bethune, Pas-de-Calais, France. Mae ei recordiau milwrol yn dangos ei fod wedi gadael weddw a phedwar o blant ifanc. Erbyn 1921 roedd Ann wedi ail-briodi (John George), a roedd yn byw gyda dau o\u2019i phlant iaua\u2019i llysblant yn Old School Cottage, Tonmawr. Roedd ei dau blentyn h\u0177n, Archibald ac Elizabeth, yn byw gyda rhieni Ann yn Nhonmawr. Roedd tad David yn dal i weithio ar FfarmHendy, Blaenffos, Sir Benfro, a marwodd ym 1933.       <\/div>\n                            <\/div>\n                        <\/div>\n                    <\/div>\n                                    <div class=\"col-sm-6 col-lg-4 mb-4 masonry-grid-item\">\n                        <div class=\"card\">\n                            <div class=\"card-img-top\">\n                                                            <\/div>\n                            <div class=\"card-body\">\n                                <h3 class=\"mt-3\">L. Corp Thomas Henry Jones (1896\u20131917) 11361, Dorset Rgt, 6th Btn <\/h3>\n                                <div class=\"\">Cafodd Thomas ei eni yn Nhreharris, yn fab i Henry a Rose Hannah Jones. Gl\u04e7wr oedd Henry, yn wreiddiol o Ferthyr, tra i Rose ddod o Brierly Hill, Stafford. Symudodd y teulu mawr i Fryn, Port Talbot, ac ym 1911 roeddent yn byw yn 3, Coal Yard, Bryn. Ar y pryd roedd Thomas, a oedd yn 15 blwydd oed, yn gweithio fel cynorthwywr Torrwr Glo. Ymrestrodd yn Aberafan a chyrhaeddodd y gradd o Lance Corporal; ychydig iawn o wybodaeth sydd gennym am ei yrfa filwrol, ond fe wyddom fod 6ed Bataliwn ei gatrawd wedi cael ei anfon i Flanders erbyn 1917, a fe gredir eu bod nhw wedi cymeryd rhan ym Mrwydr Arras fel rhan o\u2019r British Expeditionary Force.       \r\nFe gofnodir ei farwolaeth wrth ymladd ar Ebrill 2il, 1917, yn 21 blwydd oed. Fe gladdwyd ef ym Mynwent Prydeinig Tilloy, Tilloy-les-Moufflaines, Pas-de-Calais, Ffrainc. Ym 1921 fe gofnodir ei deulu yn byw yn Varteg Row, Bryn.   <\/div>\n                            <\/div>\n                        <\/div>\n                    <\/div>\n                                    <div class=\"col-sm-6 col-lg-4 mb-4 masonry-grid-item\">\n                        <div class=\"card\">\n                            <div class=\"card-img-top\">\n                                <img decoding=\"async\" width=\"149\" height=\"198\" src=\"https:\/\/burtonbontfestival.wales\/wp-content\/uploads\/2025\/11\/Pte-William-Maddock-Jones-1895\u20131917-55684-Royal-Welsh-Fusiliers-15th-Btn.-.jpg\" class=\"w-100\" alt=\"\" \/>                            <\/div>\n                            <div class=\"card-body\">\n                                <h3 class=\"mt-3\">Pte William Maddock Jones (1895\u20131917) 55684, Royal Welsh Fusiliers, 15th Btn. <\/h3>\n                                <div class=\"\">Cafodd William ei eni yn aelod o deulu ffermio hysbys iawn ym Mryn. Er bod genddi sawl frawd a chwaer, ei fam, Ester Maddock, a etifeddodd y ffarm deuluol fawr (Ffarm Drysiog) cyn iddi briodi ei dad, John Jones. Roedd y ffarm wedi bod yn eiddo i\u2019r teulu ers sawl genhedlaeth a roedd llawer dros 300 erw ei maint. Fe gofnodir William a\u2019i frodyr yn byw ar y ffarm ym 1911. Ychydig iawn o wybodaeth sydd gennym am yrfa filwrol William oherwydd nid yw yn ymddangos ar y rhestr arferol o gwympedigion rhyfel, nag yng nghofnodion pensiynau rhyfel. Fe gofnodir ef ar safle w\u00ea y Royal Welsh Fusiliers a hefyd mewn un adroddiad papur newyddion, yn marw ar Orffennaf 31ain, 1917, oddeutu 22 blwydd oed. Y diwrnod hwnnw fe gofnodir y Royal Welsh Fusiliers fel rhan o 38ain Adran (Cymreig) yn ymosod ar Pilckem Ridge yn ystod dechreuad Brwydr Passchendaele (a\u2019i elwir hefyd \u2018Trydydd Brwydr Ypres\u2019). Marwodd y bardd Cymreig Hedd Wyn hefyd yn ystod yr ymosodiad hwn. Gan ddefnyddio\u2019r wybodaeth hon, fe wyddom bod William wedi cael ei gladdu yn y Mynwent Cymreig (Caesar\u2019s Nose), West Vlaanderen, Gwlad y Belg. Parhaodd ei deulu i ffermio eu tir ar \u00f4l y rhyfel, ond ar fesur llai. Page           <\/div>\n                            <\/div>\n                        <\/div>\n                    <\/div>\n                                    <div class=\"col-sm-6 col-lg-4 mb-4 masonry-grid-item\">\n                        <div class=\"card\">\n                            <div class=\"card-img-top\">\n                                                            <\/div>\n                            <div class=\"card-body\">\n                                <h3 class=\"mt-3\">Sgt. Obs. Sidney Edward Lewis (1899\u20131917) 317179, RAF, 55th Sqdn.  <\/h3>\n                                <div class=\"\">Ganwyd ym Mhontrhydyfen, mab John a Mary. Roedd y teulu\u2019n byw yn Station Road, gan redeg y siop gigydd a\u2019r King\u2019s Head. Ym 1911, roedd yn dal yn yr ysgol ac yn byw gyda\u2019i deulu. Ymunodd Sidney \u00e2\u2019r RAF ar Fai 4ydd 1917. Mae wedi\u2019i gofnodi ar wefan yr Amgueddfa Ryfel Ymerodrol fel myfyriwr meddygol pan ymunodd. Hedfanodd ei sgwadron (y 55fed) deithiau bomio dros yr Almaen.      \r\nAt Awst 13eg 1918, yn ystod cyrch yn targedu Mannheim, cawsant eu dal mewn cwmwl trwchus dros Pfalzburg. Golygai hyn nad oeddent yn gallu cyrraedd eu targed a rhyddhawyd eu bomiau dros faes awyr Bhul yn lle. Wrth ddychwelyd adref ymosodwyd arnynt gan chwe awyren y gelyn. Yn ystod y frwydr a ddilynodd, collwyd awyrennau o\u2019r ddwy ochr gan gynnwys awyren Sidney. Cafodd ei beilot, EP Critchley, ei anafu ond fe oroesodd, ond bu farw Sidney yn y ddamwain. Roedd yn 19 oed. Mae wedi\u2019i gladdu ym Mynwent Filwrol Charmes, Essegney, Ffrainc. Yng nghyfrifiad 1921, mae ei dad wedi\u2019i gofnodi fel tafarnwr trwyddedig yn byw gyda\u2019r teulu yn y Colliers Arms yn Efail-fach.        \r\nYm 1928, mae adroddiad papur newydd yn dangos bod ei frawd iau Thomas Morgan Lewis wedi ennill gradd feddygol o Brifysgol Caerdydd gyda rhagoriaeth mewn anatomeg ddynol. <\/div>\n                            <\/div>\n                        <\/div>\n                    <\/div>\n                                    <div class=\"col-sm-6 col-lg-4 mb-4 masonry-grid-item\">\n                        <div class=\"card\">\n                            <div class=\"card-img-top\">\n                                                            <\/div>\n                            <div class=\"card-body\">\n                                <h3 class=\"mt-3\">Pte. Rees Price George Maggs (1895\u20131916) 36493, Royal Welsh Fusiliers, 1st Btn  <\/h3>\n                                <div class=\"\">Ganwyd Rees yn Gilfach Goch, ond symudodd yn fuan i Don-mawr gyda\u2019i rieni Henry ac Elizabeth a oedd yn wreiddiol o Sir Fynwy. Ganwyd gweddill brodyr a chwiorydd Rees yn Nhon-mawr yn y blynyddoedd canlynol. Roedd y teulu\u2019n byw yn Ffordd Fforchdwm, ac ym 1911, roedd Rees yn gweithio fel Gl\u00f6wr Glo, Naddwr. Ym mis Medi 1915, cyhuddwyd ei frawd iau Robert o \u2018ddiraddio Gwisg y Brenin\u2019 tra\u2019n feddw. Yn \u00f4l pob golwg, roedd wedi &#8220;benthyca&#8221; gwisg filwrol i brynu alcohol yn14 oed, a derbyniodd ddirwy o 30 swllt. Adroddwyd yn yr erthygl ei fod yn dweud ei fod &#8220;dim ond yn cael ychydig o hwyl&#8221;.      \r\nCymerodd y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig ran ym Mrwydr y Somme, gan gynnwys Mametz. Ar 3ydd Mehefin 1916, lleolwyd bataliwn Rees yn y ffosydd gyferbyn \u00e2 Fricourt. Bu farw Rees mewn brwydr yn 21 oed ar y diwrnod hwnnw. Mae wedi\u2019i gladdu ym Mynwent Delville Wood, Longueval, Somme.    \r\nYm 1921, roedd y teulu\u2019n byw yn John\u2019s Terrace, Ton-mawr a gellir dod o hyd i\u2019w berthnasau yn byw yn y pentref hyd heddiw. <\/div>\n                            <\/div>\n                        <\/div>\n                    <\/div>\n                                    <div class=\"col-sm-6 col-lg-4 mb-4 masonry-grid-item\">\n                        <div class=\"card\">\n                            <div class=\"card-img-top\">\n                                                            <\/div>\n                            <div class=\"card-body\">\n                                <h3 class=\"mt-3\">Gnr Josiah Marston* (1882\u20131917) W\/1280, Royal Horse Artillery and Royal Field Artillery RFA B\/162 Brigade <\/h3>\n                                <div class=\"\">Ganwyd Josiah yn Amwythig. Mae wedi bod yn anodd bod yn bendant am ei rieni, ei deulu a\u2019i fywyd cynnar, ond credwn ei fod yn gweithio fel glanhawr 17 oed yng ngorsaf GWR Amwythig. Erbyn 1910, mae cofresrau etholiadol yn dangos ei fod yn byw yn 1 Bryn Zion Tce, Bryn gyda\u2019i wraig Katherine Violet a\u2019i ddau o blant. Mae\u2019n gweithio fel Cloddiwr Glo. Erbyn 1911, roedd y teulu\u2019n byw yn 4 Meadow Row, Bryn. Cyn iddo ef ymuno, aeth y cwpl ymlaen i gael trydydd plentyn.      \r\nO fis Ebrill i fis Mai 1917, roedd yr RHA a\u2019r RFA yn rhan o Frwydr Arras ar Ffrynt y Gorllewin. Ond roedd yn ddrud, dioddefodd y Prydeinwyr 160,000 o anafiadau a Chweched Byddin yr Almaen tua 125,000. Cofnodir bod Josiah wedi marw o\u2019i glwyfau ar Fai 16eg, 1917, yr un diwrnod ag y daeth y frwydr i ben. Mae Josiah wedi\u2019i gladdu ym Mynwent Faubourg D\u2019Amiens, Arras, Pas De Calais, Ffrainc. Erbyn 1921, roedd Katherine yn dal i fyw yn yr un t\u0177 ond roedd wedi ailbriodi.     \r\n*Sylwch ar yr amrywiadau sillafu ar gyfenw Josiah (MARSTON \/ MARSDEN) a\u2019i lythrennau cyntaf ar y gofeb ac ar wefan Comisiwn Beddau Rhyfel y Gymanwlad (CWGC). Rydym wedi cyflwyno ffurflen ddiwygio i\u2019r CWGC yn llwyddiannus ar gyfer ei garreg fedd i newid ei lythrennau cyntaf. Bydd ei garreg fedd yn cael ei hamnewid maes o law.  \r\n<\/div>\n                            <\/div>\n                        <\/div>\n                    <\/div>\n                                    <div class=\"col-sm-6 col-lg-4 mb-4 masonry-grid-item\">\n                        <div class=\"card\">\n                            <div class=\"card-img-top\">\n                                <img decoding=\"async\" width=\"103\" height=\"156\" src=\"https:\/\/burtonbontfestival.wales\/wp-content\/uploads\/2025\/11\/Pte.-David-Thomas-Miles-1895\u20131915-16592-Welsh-Rgt-_-N.-Staffs-7th-Batn_.png\" class=\"w-100\" alt=\"Pte. David Thomas Miles (1895\u20131915) 16592, Welsh Rgt _ N. Staffs, 7th Batn_\" \/>                            <\/div>\n                            <div class=\"card-body\">\n                                <h3 class=\"mt-3\">Pte. David Thomas Miles (1895\u20131915) 16592, Welsh Rgt \/ N. Staffs, 7th Batn  <\/h3>\n                                <div class=\"\">Cafodd David ei eni ym Mhontrhydyfen a bywiodd gyda\u2019i fam, Jennett, mam-gu Ester a\u2019u teulu estynedig yng Ngherriglwydon, gan symud wedyn am gyfnod i Bridge Row. Roedd y teulu Miles wedi byw ym Mhontrhydyfen ers y 1870au. Mae recordiau yn awgrymu mai unig blentyn Jennett oedd David.   \r\nErbyn 1911 roedd ei fam wedi priodi John Henry Roberts, a roedd David yn byw gyda nhw yng Nghwm Ifan Bach, yn gweithio fel Torrwr Glo ym mhwll glo Cynon. Yn wreiddiol ymunodd \u00e2\u2019r Welsh regiment, cyn trosglwyddo i\u2019r North Staffs Regiment. Ar Awst 7fed, 1915, glaniodd y 7fed Bataliwn ym Mae Sulva ar \u00f4l iddynt gael eu lleoli ynghynt ar safle glanio Helles, wedi cael eu hanfon yn benodol i Gallipoli, Twrci. Cynllunodd yr Allies gyfres o ymosodiadau i dorri trwy\u2019r llinellau Ottoman a dal gorynys Gallipoli. Fe fuasai gorchfygiad yr Ymerodaeth Ottoman yn rhoi mynediad i borthladdoedd strategol Rwsiaid, yn ogystal \u00e2 rheolaeth dros Gamlas Suez. Yn anffodus, fe gynllunwyd yr ymgyrch yn wael, a dioddefodd y Prydeinwyr golledigion trwm (fe amcangyfrir 213,000) \u2013 y mwyafrif o\u2019r rhain oherwydd saldra a\u2019i achoswyd gan amodau aflan (gwres, heidiau o gl\u00ear, llau corf, prinder mawr d\u0175r ac annigonedd adnoddau). Ymladdodd hefyd milwyr o Awstralia a Seland Newydd yng Ngallipoli. Mae recordiau yn dangos bu David farw o glwyfau ar Awst 23ain, 1915, yn 21 blwydd oed. Fe goffir ef ar Gofeb Rhyfel Helles. Nid yw yn hysbys os cafodd David unrhyw gyswllt gyda, nag os cafodd triniaeth gan Dr. P.T.Warren, meddyg o Donmawr a Bryn a oedd hefyd yng Ngallipoli ac oedd wedi marw y diwrnod cynt. (Cewch ddarllen amdano fe hefyd yn yr arddangosfa hon). Mae methiant ymgyrch Gallipoli wedi gorfodi ciliant milwrol yn gynnar ym 1916, a achosodd effeithiau politicaidd a milwrol ym Mhrydain, gan gynnwys rhai i\u2019r Winston Churchill ifanc. Fe gyhoeddodd marwolaeth David gyda ffoto yn The Herald of Wales a\u2019r Monmouthshire Recorder. Fe restrir ei fam, Jennett, ar ei recordiau pensiwn; erbyn 1921 roedd hi yn weddw ac yn byw gyda\u2019i llysfab yng Nghwm Ifan Bach.              <\/div>\n                            <\/div>\n                        <\/div>\n                    <\/div>\n                                    <div class=\"col-sm-6 col-lg-4 mb-4 masonry-grid-item\">\n                        <div class=\"card\">\n                            <div class=\"card-img-top\">\n                                                            <\/div>\n                            <div class=\"card-body\">\n                                <h3 class=\"mt-3\">Co. Sgt. Mjr. William Mitchener DCM (1881\u20131918) 13906, South Wales Borderers, 5th Btn   <\/h3>\n                                <div class=\"\">Wrth ymchwilio cefndir William mae wedi bod yn anodd dod o hyd i unrhyw wybodaeth bendant am ei rieni a theulu. Mae ei recordiau milwrol yn datgan ei fod wedi cael ei eni yn Lewes, Sussex a\u2019i fod wedi ymrestru yn Aberafan ym 1914. Mae adroddiad papur newyddion yn dangos bod ganddo gysylltiadau ag ardal Bryn ym 1916, pan dderbyniodd gyflwyniad o dybaco, pib a phwrs. Er hyn, nid oes gennym wybodaeth bellach amdano yn byw nag yn gweithio yn yr ardal. Fe gasglwyd mwyafrif y wybodaeth amdano o adroddiadau papurau newyddion, sydd yn cofnodi William yn cael ei glwyfo ym 1917. Rydym yn meddwl ei fod yn cael ei gofnodi yn priodi ei wraig, Rachel, ym 1917. Dyfarnwyd y Distinguished Service Medal iddo am drefnu acubiaeth 15 dyn a gladdwyd ar \u00f4l bomio mortar, a chafodd ei enwi mewn erthygl yn y London Gazette.       \r\nYm Mawrth 1918, fe welwyd rhyfel symudol yn dychwelyd i\u2019r Western Front, ar \u00f4l blynyddoedd o ryfel statig, wrth i\u2019r Almaenwyr lansio ei ymgyrch y Gwanwyn, neu y \u2018Kaiserschlacht\u2019 (Brwydr y Kaiser). Taniodd o gwmpas 10,000 gwn dros filiwn o belennau magnel yn ystod pump awr. Ar Fai 10fed, 1918, roedd 5ed bataliwn y South Wales Borderers yn symud ymlaen yn ardal yr Afon Aisne, ger tref Chambrecy, pan gafodd William ei ladd. Bu yn 37 blwydd oed. Fe gladdwyd ef ym Mynwent Prydeinig Chambrecy, Ffrainc.     \r\nMae adroddiadau papurau newyddion yn dweud bod Rachel yn byw yn Mary Street, Bedwas, Caerffili adeg ei farwolaeth. Mae un adroddiad yn datgan y gallai William fod yn filwr proffesiynol ynghynt yn Ne Affrica, ond nid yw wedi bod yn bosibl cadarnhau\u2019r hyn. Mae Rhestri Etholiadol a Chyfrifiad 1921 yn dangos bod Rachel wedi parhau i fyw yn yr ardal. Fe goffir William ar gofeb rhyfel Caerffili.    <\/div>\n                            <\/div>\n                        <\/div>\n                    <\/div>\n                                    <div class=\"col-sm-6 col-lg-4 mb-4 masonry-grid-item\">\n                        <div class=\"card\">\n                            <div class=\"card-img-top\">\n                                                            <\/div>\n                            <div class=\"card-body\">\n                                <h3 class=\"mt-3\">Sapper Lionel Walter Oliver (1884\u20131917) 6705, Royal Monmouth Engineers, 3rd Railway Convoy <\/h3>\n                                <div class=\"\">Cafodd Lionel Walter ei eni yn Salisbury, Wiltshire, ond ni wyddom lawer am ei fywyd cynnar. Credir bod ei fam, Henrietta, wedi marw pan roedd ef yn ifanc iawn a bod ei dad, John (gwneuthurwr oriorau) wedi marw ychydig o flynyddoedd wedyn. Yn ystod y blynyddoedd dilynol mae recordiau cyfrifiadau yn dangos bod Lionel Walter wedi symud yn aml yn Ne Cymru, gan fyw fel lletywr mewn sawl gyfeiriad, ac yn gweithio i ddechrau fel llafurwr a wedyn mewn swyddi tanddaearol.   \r\nYm 1904 fe briododd Margaret Jane Harris a chawson nhw fab, David. Nid yw\u2019r cwpl yn ymddangos i fyw gyda\u2019i gilydd yng Nghyfrifiad 1911: mae Lionel Walter yn byw yn Bridge Street, Kenfig Hill, tra i Margaret a\u2019u mab fyw gyda\u2019i brawd hi yn Nhrecynon, Aberd\u00e2r. Ym 1915, fe gofnodir Lionel Walter yn priodi Mary Lily Fitzpatrick yng Nghastell Nedd ar \u00f4l genedigaeth eu mab, Francis, ym 1914. Ym 1915, mae un cofnod papur newyddion yn cadarhau bod \u2018Sapper W. Oliver, y Royal Engineers\u2019 wedi derbyn cyflwyniad o sawl eitem, gan gynnwys tybaco.     \r\nYn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, lleolwyd y Royal Monmouth Engineers yn bennaf ar y Western Front, lle cwblhaon nhw dasgau hanfodol fel adeiladu rheilffyrdd, pontydd a ffyrdd er mwyn sicrhau i\u2019r seilwaith angenrheidiol aros yn weithredol. Ni does gennym wybodaeth am Lionel Walter, nag am ei uned ar y diwrnod y bu farw (Chwefror 13eg, 1917), ond fe wyddom fod cyrch Almaeneg ar luoedd Prydeinig yng Nghwm Ancre wedi achosi 382 o anafiadau Prydeinig yr amser yna. Fe gladdwyd Lionel Walter yn Estyniad Mynwent Sever, Rouen, Ffrainc. Bu yn 34 blwydd oed.    \r\nYng Nghyfrifiad a Chofrestr Lloegr a Chymru 1921 fe gofnodir dwy wraig Lionel Walter fel gweddwon, ac yn byw gyda\u2019u meibion a theuluoedd estynedig yn Abercynon a Stryd Bryngurnos, Bryn. <\/div>\n                            <\/div>\n                        <\/div>\n                    <\/div>\n                                    <div class=\"col-sm-6 col-lg-4 mb-4 masonry-grid-item\">\n                        <div class=\"card\">\n                            <div class=\"card-img-top\">\n                                                            <\/div>\n                            <div class=\"card-body\">\n                                <h3 class=\"mt-3\">Gnr. James Parker (?1882\u20131918) 54625, Royal Garrison Artillery, 31st Heavy Bty.  <\/h3>\n                                <div class=\"\">Cafodd James ei eni yn Nhonmawr ym 1882, yn fab i Edward (gl\u04e7wr) a Mary. Er i\u2019w rieni ddod o Gastell Nedd a Baglan y naill y llall, am gyfnod byr yn ystod 1861 bywiodd y teulu yn Aberd\u00e2r cyn symud i Donmawr \u2013 i ddechrau i Tonmawr Row a wedyn i Tonmawr Cottages. Ym 1906 priododd James Maria Lewis, yr oedd ei theulu hi hefyd yn dod o Donmawr. Bu farw tad James, Edward, ym 1908 a mae ei ewyllys yn dangos ei fod yn dafarnwr y Railway Inn, Tonmawr. Ym 1911, fe gofnodi\u2019r teulu ifanc yn byw ym Marborough House, Tonmawr, gyda\u2019u dau mab ifanc. Yn ystod y blynyddoedd dilynol cawsant drydydd mab.      \r\nRoedd bateri trwm y Royal Garrison Artillery (RGA) yn uned y Fyddin Brydeinig oedd wedi ei ddarparu \u00e2 gynnau trigain pwys a\u2019u defnyddwyd ar gyfer bomio parhaus. Mae recordiau milwrol James yn cofnodi ei flwyddyn geni fel 1879, yn dair blynedd ynghynt nag ei flwyddyn geni wirioneddol (1882). Ar Fedi 15fed, 1918, bu bateri James ar y Western Front, yn ystod cyfnod terfynol yr Rhyfel Byd Cyntaf. Fe cofnodir ei farwolaeth wrth ymladd ar y diwrnod hwn, yn 39 blwydd oed (er iddo fodd mewn girionedd yn 36), a fe gladdwyd ef ym Mynwent Queant Road, Buissy, Ffrainc. Erbyn 1921, bu Emily a\u2019u meibion yn byw yn 4, Chapel Road, Tonmawr.     <\/div>\n                            <\/div>\n                        <\/div>\n                    <\/div>\n                                    <div class=\"col-sm-6 col-lg-4 mb-4 masonry-grid-item\">\n                        <div class=\"card\">\n                            <div class=\"card-img-top\">\n                                                            <\/div>\n                            <div class=\"card-body\">\n                                <h3 class=\"mt-3\">Pte John Thomas Savage (1885\u20131915) 32828, Welsh Rgt, 8th Btn. <\/h3>\n                                <div class=\"\">Cafodd John ei eni a thyfodd yn ardal Aston, Birmingham, a bywiodd gyda\u2019i fam, Elizabeth, a\u2019i dad, Francis (gweithiwr haearn), a\u2019u plant eraill. Ym 1901, yn 15 blwydd oed, roedd yn gweithio fel Gweithiwr Tyllu Haearn. Priododd ei wraig, Maud Stubbs, ym Mirmingham ym 1908; yn fuan ar \u00f4l hyn, symudodd y cwpl i Fryn ac erbyn 1910 cafodd eu merch, Winifred, ei geni, gyda John yn gweithio fel Dyn Bwyler yn Bryn Navigation Colliery. Y flwyddyn hon, adroddodd papur newyddion fod John wedi derbyn dirwy am beidio cadw lefelau d\u0175r digonol yn y bwyleri. Ym 1911 mae\u2019r Cyfrifiad yn dangos y teulu ifanc yn byw yn 7, Station Terrace, Bryn.      \r\nYmrestrodd John yn Aberafan, a hwyliodd ei fataliwn o Avonmouth ar Fehefin 15fed, 1915, gan lanio yng Nghilan ANZAC ar Awst 5ed; derbyniodd y lleoliad ei enw oherwydd y nifer mawr o luoedd o Awstralia a Seland Newydd a glaniodd ac ymladdodd yn yr ardal. Ar fore Awst 8fed, gyda chefnogaeth yr 8fed Welch Regiment, bu\u2019r Bataliwn Wellington yn arwain ymosodiad newydd ar Chunuk Bair ar \u00f4l bomio magnelau a thanio dryllau peiriannol trwm sydd wedi dechrau am 03:30.    \r\nDechreuodd y Wellingtons i geisio cadarnhau eu safleoedd; y tu \u00f4l iddynt, dioddefodd y Welch Regiment llawer mwy gan wrth gyrraedd y copa roeddent yn agored i effeithiau marwol tanio \u2018enfilade\u2019 \u2013 sef tanio gynnau ar hyd llinell o un pen i\u2019r llall. Cofnodir John yn marw wrth ymladd (tybiedig) ar y diwrnod hwnnw. Bu yn 30 blwydd oed. Ni chafodd ei gorff erioed ei adennill, ond fe goffir ef ar Gofeb Helle, Gallipoli, Twrci. Fe yw\u2019r dyn cyntaf ar y gofeb hon a gafodd ei ladd yng Ngallipoli yn Awst 1915. Erbyn 1921 roedd Maud wedi dychwelyd i Firmingham gyda\u2019u merched, Winifred a Sylvia, a oedd wedi cael eu geni ym Mryn. Parhaodd y teulu i fyw gyda\u2019i gilydd a mae Cofrestr Lloegr a Chymru 1939 yn eu dangos yn byw yn yr un cyfeiriad, 12, Eldon Terrace, Sparkbrook.        <\/div>\n                            <\/div>\n                        <\/div>\n                    <\/div>\n                                    <div class=\"col-sm-6 col-lg-4 mb-4 masonry-grid-item\">\n                        <div class=\"card\">\n                            <div class=\"card-img-top\">\n                                                            <\/div>\n                            <div class=\"card-body\">\n                                <h3 class=\"mt-3\">Pte Arthur James Stevens (1889\u20131917) 43279, Royal Inniskilling Fusiliers, 7th Btn. <\/h3>\n                                <div class=\"\">Cafodd Arthur ei eni yn Llantwit, Castell Nedd. Daeth ei rieni, Samuel a Harriet, yn wreiddiol o Ubley, yn ymyl Bath, Gwlad-yr-Haf. Roeddent wedi dechrau teulu yn barod cyn symud i Lantwit. Yn wreiddiol, gweithiodd Samuel fel ffarmwr deiliad yn ardal Cimla, gan fyw yng Nghefn Saeson Fawr a Chaebryn. Yng Nghyfrifiad 1911, roedd y teulu yn byw ar Ffarm Tynywaun (y bythynnod yn agos at y Level Crossing). Gweithiodd Arthur a sawl o blant eraill y teulu ar y ffarm dros y blynyddoedd.       \r\nNi wyddom pryd ymrestrodd Arthur, ond fe wyddom fod y 7fed Bataliwn wedi cymeryd rhan ym Mrwydr Langemarck ar Awst 16eg, 1917. Ail Frwydr Ypres oedd y brwydr hwn. Bu ymladd ffyrnig a dioddefodd bataliwn Arthur golledigion trwm, gan ddioddef llawer o farwoliaethau oherwydd bomio trwm ac ymosodiadau nwy gan yr Almaenwyr. Fe gofnodir Arthur yn marw wrth ymladd y dirwnod hwn, yn 28 blwydd oed. Mae llawer o ddynion y bataliwn heb fedd hysbys; fe gofnodir enw Arthur ar Gofeb Tyne Cot, Gwlad Belg. Parhaodd ei deulu i fyw yn yr un ardal, ac erbyn 1921 roedd ei dad wedi ymddeol, gyda fe a\u2019i wraig yn byw gyda\u2019u plant ieuengaf yn 3, Woodland Road, Castell Nedd.       \r\nD.S. Rydym wedi anfon ffurflen newidiadau i\u2019r Commonwealth Graves Commision oherwydd camgymeriadau cop\u00efon yn enw Arthur (\u2018Archer\u2019) James Stevens (\u2018Stephens\u2019) ac yn disgwyl ymateb.       \r\nNi wyddom pryd ymrestrodd Arthur, ond fe wyddom fod y 7fed Bataliwn wedi cymeryd rhan ym Mrwydr Langemarck ar Awst 16eg, 1917. Ail Frwydr Ypres oedd y brwydr hwn. Bu ymladd ffyrnig a dioddefodd bataliwn Arthur golledigion trwm, gan ddioddef llawer o farwoliaethau oherwydd bomio trwm ac ymosodiadau nwy gan yr Almaenwyr. Fe gofnodir Arthur yn marw wrth ymladd y dirwnod hwn, yn 28 blwydd oed. Mae llawer o ddynion y bataliwn heb fedd hysbys; fe gofnodir enw Arthur ar Gofeb Tyne Cot, Gwlad Belg. Parhaodd ei deulu i fyw yn yr un ardal, ac erbyn 1921 roedd ei dad wedi ymddeol, gyda fe a\u2019i wraig yn byw gyda\u2019u plant ieuengaf yn 3, Woodland Road, Castell Nedd. \r\nD.S. Rydym wedi anfon ffurflen newidiadau i\u2019r Commonwealth Graves Commision oherwydd camgymeriadau cop\u00efon yn enw Arthur (\u2018Archer\u2019) James Stevens (\u2018Stephens\u2019) ac yn disgwyl ymateb.\r\nPage 39     <\/div>\n                            <\/div>\n                        <\/div>\n                    <\/div>\n                                    <div class=\"col-sm-6 col-lg-4 mb-4 masonry-grid-item\">\n                        <div class=\"card\">\n                            <div class=\"card-img-top\">\n                                <img decoding=\"async\" width=\"700\" height=\"520\" src=\"https:\/\/burtonbontfestival.wales\/wp-content\/uploads\/2025\/11\/Morgan-Thomas.1-700x520.jpeg\" class=\"w-100\" alt=\"Lt. Morgan Thomas (1893\u20131919) South Wales Borderers\" \/>                            <\/div>\n                            <div class=\"card-body\">\n                                <h3 class=\"mt-3\">Lt. Morgan Thomas (1893\u20131919) South Wales Borderers <\/h3>\n                                <div class=\"\">Ganwyd Morgan ym Mhontrhydyfen, yn fab i Thomas a Mary. Roedd y teulu mawr yn byw yn Efail-fach i ddechrau cyn symud i 3 Horseshoe Cottage, Stryd Lewis. Gweithiodd ei dad fel gl\u00f6wr i ddechrau cyn dod yn Asiant Yswiriant. Yng Nghyfrifiad 1911, nid yw Morgan wedi\u2019i gofnodi ar aelwyd y teulu. Gweithiai ei chwaer Mary Hannah fel athrawes ysgol i\u2019r cyngor.     \r\nYm mis Mawrth 1918, mae sawl adroddiad papur newydd lleol yn nodi fod Morgan wedi\u2019i anafu a\u2019i drin yn Ysbyty Rhyfel Sgeti. Er gwaethaf chwilio, nid oes gennym unrhyw wybodaeth bellach am ei wasanaeth milwrol.  \r\nCofnodwyd yn ddiweddarach iddo farw yn Ysbyty Rhyfel yr Eglwys Newydd (Milwrol), Caerdydd o glwyfau a dderbyniodd yn ystod y gwrthdaro ar \u00f4l i\u2019r rhyfel ddod i ben ar 26 Gorffennaf 1919. Mae Morgan wedi\u2019i gladdu ym Mynwent Jerwsalem ym Mhontrhydyfen ochr yn ochr \u00e2\u2019i rieni a\u2019i frawd William. Mae ei garreg fedd yn nodi iddo gael ei anafu ar Ebrill 23ain, 1917. Ni allwn fod yn si\u0175r ble y cafodd ei anafiadau ond ar y pryd roedd rhai o luoedd Cyffinwyr y De yn rhan o Frwydr Arras. Ar \u00f4l ei farwolaeth, gweithredodd ei frawd Daniel Griffith Thomas fel ysgutor ei ewyllys. Parhaodd llawer o\u2019r brodyr a chwiorydd i fyw ym Mhontrhydyfen ac Oakwood ar \u00f4l y rhyfel. Aeth ei frawd David hefyd i\u2019r proffesiwn addysgu.       <\/div>\n                            <\/div>\n                        <\/div>\n                    <\/div>\n                                    <div class=\"col-sm-6 col-lg-4 mb-4 masonry-grid-item\">\n                        <div class=\"card\">\n                            <div class=\"card-img-top\">\n                                <img decoding=\"async\" width=\"226\" height=\"321\" src=\"https:\/\/burtonbontfestival.wales\/wp-content\/uploads\/2025\/11\/Capt.-Peyton-Tollemache-Warren-1889\u20131915-1st-_-3rd-Welsh-Field-Ambulance-Royal-Army-Medical-Corps_.png\" class=\"w-100\" alt=\"Capt. Peyton Tollemache Warren (1889\u20131915) 1st _ 3rd Welsh Field Ambulance, Royal Army Medical Corps_\" \/>                            <\/div>\n                            <div class=\"card-body\">\n                                <h3 class=\"mt-3\">Capt. Peyton Tollemache Warren (1889\u20131915) 1st \/ 3rd Welsh Field Ambulance, Royal Army Medical Corps <\/h3>\n                                <div class=\"\">Ganwyd Peyton yn Nulyn, mab hynaf Isaac Peyton Warren a Hannah. Erbyn 1901, roedd y teulu\u2019n byw yn Kilcorkey, Galway, yn Anglicaniaid, ac yn cyflogi dau was. Efallai bod Isaac wedi chwarae Rygbi\u2019r Undeb dros Iwerddon ym 1883 ac yn ddiweddarach wedi gweithio ym Mragdy Guinness yn Nulyn; arhosodd y teulu\u2019n gymharol gyfoethog.   \r\nHyfforddodd Peyton fel meddyg, gan ddod yn aelod o Goleg Brenhinol Meddygon Iwerddon (1904) a Llawfeddygon (1909). Bu\u2019n byw yn \u2018nh\u0177\u2019r Meddygon\u2019 yn Nhon-mawr am sawl blwyddyn ac mae wedi\u2019i gofnodi ar gyfrifiad 1911 fel Meddyg Glowyr. Roedd ar y gofrestr etholiadol yn Nhon-mawr tan 1913. Mae sawl adroddiad papur newydd yn dangos bod Peyton wedi cymryd rhan mewn digwyddiadau cymunedol a chwaraeon a hefyd wedi defnyddio ei sgiliau meddyg mewn sawl digwyddiad lleol, gan gynnwys mynd i gynorthwyo trigolion lleol a anafwyd (gweler ei ran mewn ymdrechion i adfywio gl\u00f6wr o Bontrhydyfen a foddwyd).    \r\nYn ddiweddarach symudodd i\u2019r Bryn gerllaw ac mae wedi\u2019i gofnodi fel y swyddog meddygol lleol a\u2019r brechliniwr cyhoeddus, gan gymryd rhan eto mewn sawl clwb cymunedol. Mae\u2019r London Gazette yn adrodd fod ganddo rheng Lefftenant ar 9 Mehefin 1913. Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, gwasanaethodd gyda\u2019r Ambiwlans Maes Cymreig 1af, 2il a 3ydd, rhan o\u2019r RAMC, gyda\u2019r 53ain (Adran Gymreig) yng Ngallipoli. Glaniasant ym Mae Sulva ddechrau mis Awst 1915. Ar Awst 14eg, roedd ymosodiad trychinebus Bae Sulva ar y gweill gyda\u2019r Gorchymyn Prydeinig yn adrodd am ddiffygion difrifol mewn magnelau a chyflenwadau. Mae sawl adroddiad o sut y lladdwyd Peyton, o fewn ychydig wythnosau i gyrraedd. Dywedir iddo farw ar Awst 14eg, o glwyfau a gafodd pan ffrwydrodd bom mewn gorsaf wisgo. Roedd yn 27 oed. Mae\u2019n un o dri dyn sy\u2019n cael eu coff\u00e1u ar y gofeb hon. Datgelwyd ffenestr wydr lliw gan bobl y Bryn, a gysegrwyd i Peyton, yn Eglwys Bryn ym 1918.          \r\nYmddengys i\u2019r teulu adael Iwerddon ar \u00f4l Rhyfel Annibyniaeth Iwerddon. Ar ddiwedd y 1920au cofnodwyd bod ei frawd Robert yn byw ym Mayfair, Llundain ac aeth ymlaen i wasanaethu fel Capten yng Nghorfflu Gwasanaeth y Fyddin Frenhinol, gan wasanaethu am gyfnod yn Bombay. Symudodd ei dad i Epsom, Surrey rywbryd yn y 1930au.   <\/div>\n                            <\/div>\n                        <\/div>\n                    <\/div>\n                                    <div class=\"col-sm-6 col-lg-4 mb-4 masonry-grid-item\">\n                        <div class=\"card\">\n                            <div class=\"card-img-top\">\n                                <img decoding=\"async\" width=\"190\" height=\"294\" src=\"https:\/\/burtonbontfestival.wales\/wp-content\/uploads\/2025\/11\/Lance-Corp.-Wilfred-Augustus-Wheeler-1893\u20131915-13036-Devonshire-Rgt-8th-Bn.-1.png\" class=\"w-100\" alt=\"\" \/>                            <\/div>\n                            <div class=\"card-body\">\n                                <h3 class=\"mt-3\">Lance Corp. Wilfred Augustus Wheeler (1893\u20131915) 13036, Devonshire Rgt, 8th Bn.  <\/h3>\n                                <div class=\"\">Ganwyd Wilfred ym Mhontnewydd, Sir Fynwy ynghyd \u00e2\u2019i frodyr a\u2019i chwiorydd niferus. Daeth ei rieni, William, gosodwr blociau (o dan ddaear) ac Elizabeth \u00e2\u2019r teulu mawr i\u2019r pentref a daethant i fyw yn Ardwyn, Twyn Pandy, Pontrhydyfen. Yng nghyfrifiad 1911, mae Wilfred yn byw gyda\u2019i naw brawd a chwaer yn y cyfeiriad hwn ac mae wedi\u2019i gofnodi fel Gyrrwr Injan Cludo Nwyddau, Tanddaearol.   \r\nDigwyddodd Brwydr Loos o 25 Medi i 8 Hydref 1915 ar y Ffrynt Orllewinol, Ffrainc. Hwn oedd ymosodiad mwyaf Prydain ym 1915 a\u2019r tro cyntaf i\u2019r Prydeinwyr ddefnyddio nwy gwenwynig. Cafodd llawer o\u2019r 8fed Bataliwn ei ddileu ym mis Medi 1915 gyda 21 wedi\u2019u hanafu ymhlith rhengoedd swyddogion a 580 o blith y rhengoedd cyffredin. Cofnodir bod Wilfred wedi marw yn Loos ar 5 Hydref 1915 yn 23 oed. Mae wedi\u2019i gladdu ym Mynwent St. Sever, Rouen, Ffrainc. Dioddefodd Byddin Prydain dros 50,000 o golledion, a thros 20,000 o filwyr Prydain a\u2019r Gymanwlad a syrthiodd yn y frwydr ac nad oes ganddynt fedd hysbys. Roedd mab Rudyard Kipling, Jack, yn un ohonynt. Fe\u2019u cofir ar Gofeb Loos. Priodolwyd tua 26,000 o\u2019r colledion Almaenig ar yr adeg hon i Frwydr Loos. Gorfododd methiannau\u2019r frwydr ymddiswyddiad y Cadlywydd Syr John French. Enwir tad Wilfred, William, ar ei gofnodion milwrol. Roedd y teulu\u2019n dal i fyw yn Twyn Pandy ym 1921, ond erbyn 1926, mae\u2019r rholiau etholiadol yn dangos bod Eliza yn weddw ac yn byw yn 12 Twyn Pandy (Ardwyn) gyda\u2019i phlant.            <\/div>\n                            <\/div>\n                        <\/div>\n                    <\/div>\n                                    <div class=\"col-sm-6 col-lg-4 mb-4 masonry-grid-item\">\n                        <div class=\"card\">\n                            <div class=\"card-img-top\">\n                                                            <\/div>\n                            <div class=\"card-body\">\n                                <h3 class=\"mt-3\">Gunner Lewis Daniel Davies (1918\u20131942) 965606, Royal Artillery, 124 Field Rgt. <\/h3>\n                                <div class=\"\">Cofrestrwyd genedigaeth Lewis Daniel Davies yng Nghastell Nedd ym 1918, ond ychydig iawn o wybodaeth amdano sydd gennym, ac eithrio am y ffaith mai Mary oedd enw ei fam. Mae cofnod y Commonwealth War Graves yn mynegi mai nai Mr. Bryn Davies o Fryn oedd ef. Mae ei gofnodion milwrol yn dangos fod ef wedi marw yn 24 blwydd oed ar Mehefin 28ain, 1942. Ar y pryd roedd ei gatrawd yng Ngogledd Affrica a fe goffeir ef ar Gofadail Alamein yn yr Aifft, lle cofnodir bron dueddeg mil o enwau.       \r\nCymerodd brwydrau El Alamein a Tobruk lle yn fuan ar \u00f4l Mehefin 21ain, yn erbyn rhanbarthau Panzer Rommel, gyda Tobruk yn syrthio ond ar \u00f4l i\u2019r Gurkhas derbyn yr orchymyn i \u2018sefyll i lawr\u2019. Cafodd dros 35,000 o filwyr yr Allies eu dal yn Tobruk. Mae cofnodion dyddiadur cyfoesol yn disgrifio\u2019r amodau caled yr oedd y milwyr yn eu dioddef tra yn ymladd, yn aml gyda phrinder d\u0175r, darpariaeth ac adnoddau saethu, a gyda phresenoldeb cyson cl\u00ear tywod. Nid oes gwybodaeth bellach gennym am Lewis nag am ei deulu.    <\/div>\n                            <\/div>\n                        <\/div>\n                    <\/div>\n                                    <div class=\"col-sm-6 col-lg-4 mb-4 masonry-grid-item\">\n                        <div class=\"card\">\n                            <div class=\"card-img-top\">\n                                <img decoding=\"async\" width=\"700\" height=\"520\" src=\"https:\/\/burtonbontfestival.wales\/wp-content\/uploads\/2025\/11\/Rees-Howell.1-700x520.jpeg\" class=\"w-100\" alt=\"Able Seaman Rees Howell (1913\u20131941) C\/ JX 249314. HMS President (SS Stonepool), Royal Navy\" \/>                            <\/div>\n                            <div class=\"card-body\">\n                                <h3 class=\"mt-3\">Able Seaman Rees Howell (1913\u20131941) C\/ JX 249314. HMS President (SS Stonepool), Royal Navy  <\/h3>\n                                <div class=\"\">Ganwyd Rees yn y Bryn. Ym 1921, roedd yn byw yn Meadow Row, Bryn gyda\u2019i rieni Thomas David Howells (Gl\u00f6wr) a Gwenllian (n\u00e9e Roblin) yn ogystal \u00e2\u2019i ddau frawd a chwaer. Roedd brawd Gwenllian, Thomas Roblin, hefyd yn byw gyda\u2019r teulu. Roedd dau riant Rees yn dod o Gwmafan ac roedd ei dad hefyd wedi gwasanaethu yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Erbyn 1939, roedd Rees yn byw gyda\u2019i rieni a\u2019i chwaer (Iris) yn 13 Baldwin St, Bryn. Roedd Rees yn gweithio fel cloddiwr glo.      \r\nYn gynnar yn 1941, priododd \u00e2 Gladys May. Mae ei gofnodion milwrol yn dangos bod Rees wedi ymuno \u00e2\u2019r Llynges Frenhinol a gwasanaethu ar yr SS Stonepool, llong fasnach st\u00eam.  \r\nYm mis Medi 1942, roedd yn rhan o\u2019r confoi OB-17 a oedd yn cludo dros 10,000 tunnell o lo a chargo cyffredinol o\u2019r Barri i St Vincent yn y Carib\u00ee. Ar Fedi\u2019r 11eg, ymosodwyd ar y Stonepool gan long danfor Almaenig (U-207), a suddodd i\u2019r de o Fae Bantry. Collwyd pedwar deg dau o fywydau gan gynnwys Rees. Roedd yn 27 oed. Anrhydeddir Rees ar Gofeb Lyngesol Chatham. Goroesodd saith o aelodau\u2019r criw a chawsant eu codi ar HMCS Kenogami, corvette o Ganada. Nid oes gennym unrhyw wybodaeth bellach am y teulu ar \u00f4l y rhyfel.       <\/div>\n                            <\/div>\n                        <\/div>\n                    <\/div>\n                                    <div class=\"col-sm-6 col-lg-4 mb-4 masonry-grid-item\">\n                        <div class=\"card\">\n                            <div class=\"card-img-top\">\n                                                            <\/div>\n                            <div class=\"card-body\">\n                                <h3 class=\"mt-3\">A.B. Seaman Edgar Thomas Jones (1914\u20131942) D\/ JX 255118, HMS President III (San Emiliano). RN  <\/h3>\n                                <div class=\"\">Cafodd Edgar ei eni yn Upper Boat, yn ymyl Pontypridd. Daeth ei dad, John, o ardal Pontypridd, ond roedd ei fam, Olwyn, yn wreiddiol o Gwmamman. Ym 1921 roedd Edgar yn byw gyda\u2019i ddwy chwaer iau a\u2019i rieni yn Baldwin Street, Bryn. Cafodd John, a oedd yn l\u04e7wr, ei gloi allan o Bryn Navigation Colliery oherwydd streic y glowyr. Yng Nghofrestr Lloegr a Chymru 1939, roedd Edgar yn gweithio fel Torrwr Glo, ac yn byw gyda\u2019i chwaer iau, Ceinwen, a\u2019i frawd, David, yn Brynteg Street, Bryn. Ni fu yn bosibl cadarnhau lle oedd eu rhieni yr adeg hon. Ar ddiwedd 1939, priododd Edgar Elizabeth Hannah Davies.       \r\nMae recordiau yn dangos bod Edgar yn \u2018Able Seaman\u2019 ar y llong olew Brydeinig San Emilio. Yn Awst 1942, roedd y llong yn rhan o gonfoi a oedd yn teithio o Curacao gan alw yn Trinidad, yn cludo tanwydd awyrennau; yn ystod oriau cynnar y 9fed, o gwmpas 450 milltir i\u2019r gorllewin o Tobago, cafodd ei tharo gan dorpido o\u2019r U-155, ac aeth y tanwydd ar d\u00e2n. Torrodd y llong yn ddau a suddodd mewn fflamau. Fe gollwyd ddeugain aelod o\u2019r criw, gan gynnwys y meistr a chech o\u2019r gynnwyr \u2013 gydag Edgar yn un ohonynt. Bu yn 28 blwydd oed. Caiff ei goff\u00e1u ar y Plymouth Naval Memorial.        \r\nAchubwyd wyth aelod o\u2019r criw gan \u2018U.S. Army Transport\u2019. Dyfarnwyd y George Cross i ddau o\u2019r criw ar \u00f4l eu marwolaeth \u2013 Prentis Donald Owen Clarke a\u2019r brif weithredydd radio, D.W. Dennis \u2013 am eu dewrder eithriadol. Fe wyddom o recordiau pensiwn rhyfel Edgar fod Elizabeth wedi byw yng Nghwmafan ar \u00f4l y rhyfel, ond bywiodd ei frawd yn Baldwin Street, Bryn am sawl flwyddyn.   <\/div>\n                            <\/div>\n                        <\/div>\n                    <\/div>\n                                    <div class=\"col-sm-6 col-lg-4 mb-4 masonry-grid-item\">\n                        <div class=\"card\">\n                            <div class=\"card-img-top\">\n                                                            <\/div>\n                            <div class=\"card-body\">\n                                <h3 class=\"mt-3\">Sub. Lt. (A.) Thomas Ivor Reynolds (1921\u20131943) RNVR, HMS Jackdaw  <\/h3>\n                                <div class=\"\">Ganwyd Thomas Ivor yng Nghaerdydd ym 1921. Ganwyd ei dad William yn Toronto, Canada, a phriododd \u00e2 mam Thomas, Annie Maud Cokeley, yng Nghaerdydd ym 1902. Ganwyd brodyr a chwiorydd hynaf Thomas yng Nghaerdydd hefyd, ond erbyn 1911, roedd y teulu\u2019n byw yn Stryd Bryngurnos, Bryn. Roedd William yn gweithio fel trydanwr mewn pwll glo. Ym 1921, roedd y teulu\u2019n dal i fyw yn 42 Stryd Bryngurnos, ac roedd ei chwaer hynaf Alma yn brentis i hetiwr yn Heol yr Orsaf, Port Talbot. Mae Cofrestr Cymru a Lloegr 1939 yn dangos bod ei fam oedrannus yn weddw ac yn dal i fyw yn Bryn. Roedd ei frodyr a chwiorydd h\u0177n wedi gadael ardal Bryn i raddau helaeth erbyn hyn. Nid yw Thomas yn y cyfeiriad hwn chwaith.        \r\nMae cofnodion yn dangos iddo symud o gwmpas yn ystod yr ychydig flynyddoedd nesaf, gan weithio fel ysgolfeistr yn Swydd Nottingham ac yna gwirfoddoli i Adran Gwirfoddolwyr Wrth Gefn Llu Awyr y Llynges Frenhinol. Aeth ei Gomisiwn a\u2019i hyfforddiant ag ef i Ganada.  \r\nGwasanaethodd yng Ngorsaf Awyr Frenhinol Crail (HMS Jackdaw), Fife. Ar 24 Mehefin 1943, wrth hedfan Supermarine Walrus, awyren amffibiaidd un injan, cofnodwyd bod yr awyren wedi pallu, a throelli allan o reolaeth gan ddisgyn i\u2019r ddaear wrth nes\u00e1u at Dunino, Crail, Fife. Ni oroesodd Thomas ei anafiadau, roedd yn 21 oed. Mae wedi\u2019i gladdu ym Mynwent Goetre ac roedd ei ysgrif goffa yn crynhoi ei ddiddordebau a\u2019i gyflawniadau niferus.Bu farw ei fam ym 1958 ac ymddengys bod ei frodyr a\u2019i chwiorydd niferus wedi symud ar draws Prydain.     <\/div>\n                            <\/div>\n                        <\/div>\n                    <\/div>\n                                    <div class=\"col-sm-6 col-lg-4 mb-4 masonry-grid-item\">\n                        <div class=\"card\">\n                            <div class=\"card-img-top\">\n                                                            <\/div>\n                            <div class=\"card-body\">\n                                <h3 class=\"mt-3\">L Thomas<\/h3>\n                                <div class=\"\">Nid yw wedi bod yn bosibl bod yn hollol sicr o hunaniaeth unrhyw L. Thomas, ond fe gawsom hyd i\u2019r canlynol: Sap. Lewis Thomas (1918-1940) 2068257 Royal Engineers \u2013 marwodd Mai 22ain 1940, yn 18 \u2013 lladdwyd wrth ymladd\/Marwodd o\u2019i glwyfau, a fe gladdwyd ef yn Bodo, Norwy.   \r\nBywiodd ei rieni, David ac Annie, ym Maesteg. \r\n*Os oes gennych wybodaeth sydd yn helpu profi os mai hyn yw\u2019r person, a wnewch chi adael sylw yn ein llyfr sylwadau, os gwelwch yn dda.<\/div>\n                            <\/div>\n                        <\/div>\n                    <\/div>\n                                    <div class=\"col-sm-6 col-lg-4 mb-4 masonry-grid-item\">\n                        <div class=\"card\">\n                            <div class=\"card-img-top\">\n                                <img decoding=\"async\" width=\"700\" height=\"520\" src=\"https:\/\/burtonbontfestival.wales\/wp-content\/uploads\/2025\/11\/Cliffird-Wanklyn.1-700x520.jpeg\" class=\"w-100\" alt=\"Sap. Cli\ufb00ord Wanklyn (1923\u20131945) 2073975, Royal Engineers, 79 Assault Sqn.\" \/>                            <\/div>\n                            <div class=\"card-body\">\n                                <h3 class=\"mt-3\">Sap. Cli\ufb00ord Wanklyn (1923\u20131945) 2073975, Royal Engineers, 79 Assault Sqn.  <\/h3>\n                                <div class=\"\">Ganwyd Clifford ym Mryn, yn fab i Price (gl\u00f6wr) ac Elizabeth. Daeth teulu tad Clifford yn wreiddiol o Swydd Henffordd ac roeddent wedi dod i Gwmafan rai degawdau ynghynt. Erbyn 1921, roedd y teulu a brodyr a chwiorydd h\u0177n Clifford yn byw yn 3 Bwthyn Penhyddwalod, Bryn. Erbyn 1939, credwn fod Elizabeth yn weddw yn byw gyda pherthnasau yn Stryd Brynteg, Bryn.    \r\nCredwn fod Clifford wedi priodi \u00e2 Maureen Russell, a allai fod wedi tarddu o Ogledd Iwerddon, ym Mhort Talbot ym 1941. Aeth y cwpl ymlaen i gael merch, Brenda, a fu farw yn ifanc.  \r\nRoedd Sgwadron Ymosod 79 y Peirianwyr Brenhinol yn rhan o\u2019r 79fed Adran Arfog a oedd yn arbenigo mewn datblygu a defnyddio cerbyd arfog wedi\u2019i addasu o\u2019r enw &#8220;Hobart\u2019s Funnies.&#8221; Roeddent yn allweddol wrth gefnogi milwyr traed yn ystod camau olaf y rhyfel yng Ngogledd-orllewin Ewrop. Eu gwaith oedd clirio bomiau tir, gosod pontydd Bailey a chlirio rwystrau i filwyr traed. Ym mis Chwefror 1945, roedd pocedi o ymladd trwm o hyd. Roedd yr 79fed Adran Arfog yn paratoi ar gyfer yr ymosodiad olaf ar yr Almaen. Mae rhestr y clwyfedig yn cofnodi y credwyd fod Clifford ar goll ar un adeg, ond oedd bellach wedi\u2019i ladd mewn brwydr ar Chwefror 14eg, 1945. Roedd yn 22 oed. Mae wedi\u2019i gladdu ym Mynwent Ryfel Jonkerbos, Nijmegan, yr Iseldiroedd.        \r\nMae ei gofnod Beddau Rhyfel y Gymanwlad yn nodi bod Maureen yn byw yn Banbridge, Co. Down, Gogledd Iwerddon. Arhosodd nifer o\u2019i frodyr a chwiorydd yn ardal Port Talbot.   <\/div>\n                            <\/div>\n                        <\/div>\n                    <\/div>\n                                    <div class=\"col-sm-6 col-lg-4 mb-4 masonry-grid-item\">\n                        <div class=\"card\">\n                            <div class=\"card-img-top\">\n                                <img decoding=\"async\" width=\"700\" height=\"520\" src=\"https:\/\/burtonbontfestival.wales\/wp-content\/uploads\/2025\/11\/Ronald-Wilks.1-700x520.jpeg\" class=\"w-100\" alt=\"Sgt. (Air Gunner) Ronald Wilks (1922\u20131943)\n1417280, RAF Volunteer Reserve, 75th Sqdn. Bomber Command\" \/>                            <\/div>\n                            <div class=\"card-body\">\n                                <h3 class=\"mt-3\">Sgt. (Air Gunner) Ronald Wilks (1922\u20131943) 1417280, RAF Volunteer Reserve, 75th Sqdn. Bomber Command  <\/h3>\n                                <div class=\"\">Fe ganwyd Ronald Wilks ym Mryn. Daeth ei dad, Wilfred Thomas, yn wreiddiol o Stourbridge, Worcestershire, a\u2019i fam, Jessie, o Alnwick, Northumberland. Bu Wilfred yn filwr yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf gyda\u2019r Machine Gun Corps, a symudodd i Fryn yn fuan ar \u00f4l iddo adael y fyddin. Nid yw yn hysbys sut cwrddodd rhieni Ronald. Ym 1921 roedd y teulu ifanc yn byw yn 16, Baldwin Street, gyda brawd hynaf, Ronald, \u00e2 Wilfred yn ddi-waith oherwydd parhad Streic y Glowyr. Fe gofnodir Ronald fel Taniwr Bwyler Pwll Glo.      \r\nMae cofnodion yr RAF yn dangos bod Ronald wedi cwblhau sawl cyrch dros Ffrainc a\u2019r Almaen yn ystod haf 1943. Ar Medi 23ain, 1943, hedfanodd ei sgwadron i Mannheim ar gyrch bomio; cwympodd ei awyren \u2013 sef Short Stirling, awyren fomio Prydeinig pedwar-peiriant \u2013 pedair milltir i\u2019r dwyrain o Gundstadt a marwodd y criw i gyd \u2013 gan gynnwys awyrennwyr o Ganada, Seland Newydd a\u2019r D.U.. Bu Ronald yn 21 blwydd oed. Fe gladdwyd ef ym Mynwent Rhyfel Rheinberg. Parhaodd ei deulu i fyw ym Mryn ar \u00f4l y rhyfel.      \r\nAddendum: Initially, the crash site of the plane was unknown. But in 1995, military archaeologist detectives discovered the crash site of the aircraft. The family were contacted following the identification of Ronald\u2019s remains. In 1996, a full military funeral took place and his sister and family travelled to Germany for the service. Ronald is buried in Rheinberg War Cemetery, Germany alongside the members of his crew.     <\/div>\n                            <\/div>\n                        <\/div>\n                    <\/div>\n                                    <div class=\"col-sm-6 col-lg-4 mb-4 masonry-grid-item\">\n                        <div class=\"card\">\n                            <div class=\"card-img-top\">\n                                <img decoding=\"async\" width=\"195\" height=\"289\" src=\"https:\/\/burtonbontfestival.wales\/wp-content\/uploads\/2025\/11\/Pte.-Eurwen-David-1916\u20131944-7516553-Royal-Army-Medical-Corps_.png\" class=\"w-100\" alt=\"Pte. Eurwen David (1916\u20131944) 7516553, Royal Army Medical Corps\" \/>                            <\/div>\n                            <div class=\"card-body\">\n                                <h3 class=\"mt-3\">Pte. Eurwen David (1916\u20131944) 7516553, Royal Army Medical Corps  <\/h3>\n                                <div class=\"\">Cafodd Eurwen ei eni yn ystod Gorffennaf, 1916 yn Oakwood. Bywiodd gyda\u2019i rieni, John a Jane a\u2019u plant eraill yn 18, Penhydd Street, er i\u2019r teulu fyw yn gyntaf yn Oakwood Row. Yng Nghyfrifiad 1911 bu John yn gweithio fel Asiant Yswiriant, ac yr amser yna yn lletya gyda nhw oedd gwneuthurwr basgedi dall, David Griffiths. Daeth rhieni Eurwen o Bontrhydyfen.    \r\nFfermwyr ar Ffarm Penrhysfach oedd y teulu David, gydag ochr y teulu mam Eurwen yn byw yn Nhwyn y Pandy.Ym 1921 a hefyd yng Nghofrestr 1939 roedd teulu Eurwyn yn dal i fyw yn Stryd Penhydd, gyda\u2019i chwaer, Gwyneth, yn gweithio fel athrawes, ond erbyn 1939 nid oedd Eurwyn yn byw yn y cartref teuluol.  \r\nMae recordiau yn dangos ei fod wedi ymuno \u00e2\u2019r Royal Army Medical Corps, ond ychydig iawn o wybodaeth sydd gennym am ei yrfa milwrol. Ym mis Rhagfyr, 1943, bu porthladd Bari, yr Eidal, yn llawn \u00e2 thorf o 30 o longau yr Allies. Bu\u2019r lleoliad ar gyfer trychineb bron yn anhysbys a enwir yn aml \u2018yr ail Pearl Harbour\u2019, gyda 17 o longau yn cael eu suddo.   \r\nYn gyfrinachol, roedd llong Americanaidd, The John Harvey, wedi cludo mewn i\u2019r harbwr bomiau a oedd yn cynnwys nwy mwstard. Ar Ragfyr 2il ymosododd y Luftwaffe Almaeneg ar y porthladd a chafodd y John Harvey ei daro, a rhyddhaodd y ffrwydrad y nwy a ledaenodd ar draws llawer o filwyr.   \r\nEr i Bari fod safle sawl ysbyty milwrol, fe gadawyd i\u2019r RAMC ddelio ag \u00f4l-effaith dinistriol y bomio hwn. Derbynodd y staff meddygol dioddefwyr y nwy heb wybod bod nhw yn delio ag effeithiau nwy gwenwynol, gyda llawer yn cael eu cofnodi yn swyddogol fel dioddef o \u2018losgiadau\u2019, a fe gredir bod nifer mawr wedi marw oherwydd y diffyg gwybodaeth hwn \u2013 gan gynnwys llawer o sifiliaid diniwed. Bu dros 1,000 o anafiadau milwrol a Morlu Masnachol, gyda 628 yn dioddef o effeithiau nwy mwstard. Cafodd recordiau Prydeinig eu sensro ar orchymyn Churchill ar sail cyfyngiadau amser rhyfel ar y cyfryngau.       \r\nCafodd y porthladd ei gau am dair wythnos, ac yr unig ddigwyddiad nwy gwenwynol sydd yn gysylltiedig \u00e2\u2019r Ail Ryfel Byd yw trychineb Bari. \r\nNid yw yn hysbys os oedd Eurwen yn rhan o\u2019r digwyddiadau hyn, ond fe gofnodir ef yn marw ar Chwefror 10fed, 1944, yn 28 blwydd oed.. Fe gladdwyd ef ym Mynwent Rhyfel Bari, yr Eidal. Ar \u00f4l y rhyfel, parhaodd ei deulu i fyw yn Oakwood; bu farw ei dad, John, ym1952, a\u2019i weddw, Jane, y flwyddyn nesaf, gyda Gwyneth, a oedd yn briod erbyn yr amser hwn, yn rheoli eu hystadau. Page      <\/div>\n                            <\/div>\n                        <\/div>\n                    <\/div>\n                                    <div class=\"col-sm-6 col-lg-4 mb-4 masonry-grid-item\">\n                        <div class=\"card\">\n                            <div class=\"card-img-top\">\n                                <img decoding=\"async\" width=\"700\" height=\"520\" src=\"https:\/\/burtonbontfestival.wales\/wp-content\/uploads\/2025\/11\/Isaac-Jenkins.1-700x520.jpeg\" class=\"w-100\" alt=\"Bmb. Isaac John Jenkins (1913\u20131942) 1605211, 3HAA Regt., Royal Horse Artillery\" \/>                            <\/div>\n                            <div class=\"card-body\">\n                                <h3 class=\"mt-3\">Bmb. Isaac John Jenkins (1913\u20131942) 1605211, 3HAA Regt., Royal Horse Artillery <\/h3>\n                                <div class=\"\">Cafodd Isaac John Jenkins ei eni ym Mhontrhydyfen, lle bywiodd gyda\u2019i bump chwaer h\u0177n a\u2019u rhieni, yr unig fab i David a Rachel. Gl\u04e7wr oedd ei dad, a mewn Cyfrifiadau a Chofrestrau Etholiadol fe gofrestrir y teulu yn byw yn 2 ac 16, Lewis Street. Erbyn 1939 mae Cofrestr Lloegr a Chymru yn dangos Rachel nawr yn weddw ac yn byw gydag Isaac a\u2019i chwaer, Ethel May. Roedd Isaac yn gweithio fel cynorthwywr siop groser a fe wyddom yr oedd yn yrrwr fan danfoniadau ar gyfer siop Gethin a oedd yn Lewis Street. Ei deulu estynedig oedd yn berchen ar y siop.      \r\nYm 1941 priododd Isaac ei wraig, Beryl, ond o fewn mis gadawodd ei briodferch i deithio tramor fel rhan o\u2019i wasanaeth milwrol. Fe sefydlwyd bataliwnau\u2019r Heavy Anti-Aircraft Artillery (HAA) i ymladd yn erbyn cyrchoedd awyr ar draws y D.U., gan gynnwys Cymru. Anfonwyd catrawd Isaac i Kranji Army Barracks, Singapore. Roedd Kranji wedi cael ei adeiladu yn y 1930au, ac yn ystod yr Ail Ryfel Byd fe ddefnyddiwyd ef fel ystorfa adnoddau saethu a chyflenwadau cyffredinol. Ymosododd lluoedd Japan ar Singapore ym mis Chwefror, 1942. Cafodd y barics ei gipio a sefydlwyd gwersyll carcharorion rhyfel. Bu amodau yn y gwersylloedd Japaniaid yn erchyll, ac yn ystod yr Ail Ryfel Byd marwodd miloedd o filwyr y D.U. a\u2019r Gymanwlad o lafur gorfodol, newyn a chlefydau. Marwodd Isaac ar Ebrill 24ain, 1942, rai wythnosau ar \u00f4l i Singapore ddisgyn, a fe gladdwyd ef ym Mynwent Rhyfel Kranji. Bu yn 29 blwydd oed. Mae dros 24,000 o enwau ar y gofeb yn Kranji, gyda llawer o gyrff y dynion hyn heb eu canfod erioed. Yn y pen draw cafodd Kranji ei ddymchwel.          \r\nAr \u00f4l y rhyfel ail-briododd gweddw Isaac a bywiodd yng Nghyne. Parhaodd y teulu Jenkins i fyw yn Lewis Street, a mae sawl perthnas yn dal i fyw yn y pentref.  <\/div>\n                            <\/div>\n                        <\/div>\n                    <\/div>\n                                    <div class=\"col-sm-6 col-lg-4 mb-4 masonry-grid-item\">\n                        <div class=\"card\">\n                            <div class=\"card-img-top\">\n                                                            <\/div>\n                            <div class=\"card-body\">\n                                <h3 class=\"mt-3\">AB. William Leonard Margetson (1924\u20131943) D\/JX288991, HMS Avondale Royal Navy <\/h3>\n                                <div class=\"\">Bywiodd William yn Tynywaun Cottages, yn ymyl Level Crossing House, gyda\u2019i dad, Arthur (gl\u04e7wr), ei fam, Annie, a\u2019i frodyr. Daeth y teulu Margetson yn wreiddiol o Norfolk *. Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf roedd ei dad yn yrrwr yn y Royal Field Artillery. Cafodd mam William, Annie Naish, ei geni yn Efrog Newydd; mae\u2019n ymddangos bod rhieni Annie wedi teithio o Gymru i fyw yn Efrog Newydd yn y 1880au canol, ond wedi dychwelyd i Efail Fach rhywbryd, y lle roedd tad-cu a mam-gu William (y Barwicks) wedi byw ar ryw adeg.      \r\nMae Cofrestr Lloegr a Chymru 1939 yn recordio\u2019r teulu yn dal i fyw yn Nhynywaun, ond mae\u2019n ymddangos nad oedd William yn byw yma. Ni does gennym fanylion am ei yrfa filwrol, ond fe wyddom ei fod wedi bod yn aelod o griw HMS Avon Vale, distrywlong hebrwng.  \r\nYn Ionawr 1943, roedd y llong yn rhan o 59ain Destroyer Division yng Ngorllewin Y M\u00f4r Canoldir, yn hebrwng sawl ddistrywlong yn Gibraltar. Ar Ionawr 29ain dioddefodd HMS Avon Vale ddifrod mawr ar \u00f4l iddi gael ei tharo gan dorpido awyrol a ddinistriodd strwythur blaen y llong. Marwodd dros 30 aelod o\u2019r criw, \u00e2 William yn un ohonynt. Bu yn 19 blwydd oed. Mae\u2019n cael ei goff\u00e1u ar y Plymouth Naval Memorial. Parhaodd rhieni William i fyw yn Tynywaun Cottages ar \u00f4l y rhyfel, a bywiodd rhai o\u2019i frodyr yn y pentref (The Uplands ac Efail Fach).      \r\n*Daeth y teulu Margetson yn wreiddiol o Tivetshall, Norfolk, a roedd tad William, Arthur, yn gefnder i Florence Margetson a briododd Merchant Seaman Hassan Alli, sydd hefyd yn cael ei goff\u00e1u ar ein cofeb rhyfel.<\/div>\n                            <\/div>\n                        <\/div>\n                    <\/div>\n                                    <div class=\"col-sm-6 col-lg-4 mb-4 masonry-grid-item\">\n                        <div class=\"card\">\n                            <div class=\"card-img-top\">\n                                                            <\/div>\n                            <div class=\"card-body\">\n                                <h3 class=\"mt-3\">Sgt. William Roy Pope, (1921\u20131940) 966654, Royal Air Force Volunteer Reserve, 149 Sqdn <\/h3>\n                                <div class=\"\">Ganwyd William Roy ym Mhontrhydyfen. Yng nghyfrifiad 1921 cofnodwyd bod ei rieni (William Aaron ac Olive) yn byw gyda\u2019i fam-gu a thad-cu ar ochr ei dad yn Rosewood, Efail-fach. Daeth teulu Pope yn wreiddiol o King\u2019s Nympton, Dyfnaint, tra bod teulu Olive wedi symud i Oakwood Row erbyn 1911. Roedd y ddau deulu\u2019n gweithio fel cloddwyr glo mewn pyllau glo lleol cyn dechrau\u2019r rhyfel. Erbyn 1939, roedd y teulu\u2019n byw yng Ngherrigllwydon, roedd tad William Roy yn Warden ARP (Rhagofalon Cyrch Awyr), roedd ei frawd yn gweithio fel cynorthwyydd siop. Ymunodd William Roy \u00e2\u2019r RAF fel gweithredwr radio.      \r\nAr noson 18 Medi 1940, hedfanodd ei sgwadron ar gyrch bomio hwyrol ar Le Havre. Collwyd ei awyren a\u2019i griw hedfan a chafodd corff William Roy ei olchi i\u2019r lan. Roedd yn 19 oed. Mae wedi\u2019i gladdu ym Mynwent Gymunedol Houlgate (Beuzeval), Calvados, Ffrainc. Parhaodd ei deulu i fyw yng Ngherrigllwydon ar \u00f4l y rhyfel.     <\/div>\n                            <\/div>\n                        <\/div>\n                    <\/div>\n                                    <div class=\"col-sm-6 col-lg-4 mb-4 masonry-grid-item\">\n                        <div class=\"card\">\n                            <div class=\"card-img-top\">\n                                <img decoding=\"async\" width=\"700\" height=\"520\" src=\"https:\/\/burtonbontfestival.wales\/wp-content\/uploads\/2025\/11\/William-David-Rosser.1-700x520.jpeg\" class=\"w-100\" alt=\"Pte. David William Rosser (1918\u20131944)\n3810543, Essex Regiment, 4th Bn.\" \/>                            <\/div>\n                            <div class=\"card-body\">\n                                <h3 class=\"mt-3\">Pte. David William Rosser (1918\u20131944) 3810543, Essex Regiment, 4th Bn.  <\/h3>\n                                <div class=\"\">Ganwyd David William Rosser yn Oakwood ac roedd yn byw gyda\u2019i rieni David ac Ann, a\u2019i frodyr a chwiorydd h\u0177n yn 18 Oakwood Row. Bu\u2019r teulu Rosser yn byw yn y pentref ers y 1840au. Mae\u2019r teulu wedi\u2019u cofnodi mewn sawl cyfeiriad yn y pentref, gan gynnwys Station Road, Pontrhydyfen yng nghyfrifiad 1911 ac yna yn Oakwood ym 1921. Roedd llawer o ddynion y teulu Rosser yn gweithio mewn pyllau glo lleol a chofnodwyd David yng nghofrestr 1939 yn dal i fyw yn Oakwood Row ac yn gweithio o dan y ddaear fel gyrrwr cludo nwyddau. Roedd yn byw gyda\u2019i fam weddw a\u2019i chwaer Olwen.     \r\nYmunodd David ym 1941 a gwasanaethodd fel troedfilwr yng Nghatrawd Essex, a oedd wedi ymladd yn yr Eidal am fisoedd lawer gan gynnwys ym Monte Cassino. Yn hydref 1944, ymunodd catrawd David \u00e2 lluoedd y cynghreiriaid a oedd yn ymladd i ennill tiriogaeth a thorri trwy\u2019r Llinell Gothig gaerog iawn ym Mynyddoedd yr Apennine. Roedd llawer o\u2019r amddiffynfeydd hyn wedi\u2019u hadeiladu gan lafur caethweision. Oherwydd tywydd ofnadwy, roedd cynnydd yn anodd ac anfonwyd adrannau tanciau i dorri trwy\u2019r llinell. Cymerodd Brwydr Cefn Coriano ei doll ar y ddwy ochr. Bu farw David ar 7 Hydref 1944 ac mae wedi\u2019i gladdu ym Mynwent Cefn Coriano. Mae\u2019r teulu\u2019n parhau i fyw yn y pentref hyd heddiw. Ymwelodd chwaer David \u00e2\u2019i fedd; hoffem ddiolch i\u2019r teulu am ddarparu copi o ffotograff sy\u2019n dal yr eiliad emosiynol hon.        <\/div>\n                            <\/div>\n                        <\/div>\n                    <\/div>\n                                    <div class=\"col-sm-6 col-lg-4 mb-4 masonry-grid-item\">\n                        <div class=\"card\">\n                            <div class=\"card-img-top\">\n                                                            <\/div>\n                            <div class=\"card-body\">\n                                <h3 class=\"mt-3\">Sap. Brinley Cli\ufb00ord Thomas (?1908\u20131940) 1927008, Roy Engineers, 154 Rly. Operating Convoy   <\/h3>\n                                <div class=\"\">Mae\u2019n debyg bod Brinley Clifford Thomas wedi cael ei eni ym 1908, yn blentyn hynaf Matthew a Sinah Ann, a oedd hefyd \u00e2 dau blentyn iau, gyda\u2019r teulu yn byw efo teulu estynedig Sinah yn Somerset Place, Cwmafan. Mae recordiau cyfrifiad (census) yn dangos bod ei dad, Matthew, yn gweithio yn y gwaith alcam fel Dyn Ffwrnais a hefyd fel llaethwr. Mae cyfrifiad 1921 yn dangos y teulu yn byw yn Church Square, Cwmafan. Erbyn 1926 mae\u2019r Cofrestr Etholiadol yn dangos Brinley yn byw yn Meadow Street, ond nid gyda\u2019r teulu. Ym 1938 fe briododd Doris May Davies; nid yw yn hysbys lle roedd y cwpl yn byw ym 1939, ond roedd ei rieni yn byw yn 16, Depot Road, Cwmafan. Erbyn 1940 roedd Brinley wedi ymuno \u00e2\u2019r Peirianwyr Brenhinol (Royal Engineers), a oedd yn ran o\u2019r B.E.F. (British Expeditionary Force). Pythefnos ar \u00f4l ymgiliad Dunkirk, tyrrodd yng Ngogledd ffrainc miloedd o filwyr a oedd dal tramor, a fe drefnwyd \u2018Operation Aeriel\u2019 i achub lluoedd milwrol yr \u2018Allies\u2019, aelodau\u2019r RAF a dinasyddion o borthladdoedd Gorllewin Ffrainc.          \r\nBu Brinley ar HMS Lancastria, teithlong Brydeinig a atafaelwyd gan lywodraeth y D.U.. Tra i\u2019r llong ddisgwyl yn aber y Loire, y tu allan i borthladd Saint Nazaire, i gael ei hebrwng yn \u00f4l i\u2019r U.D., ymosododd y Luftwaffe; suddodd y llong o fewn 20 munud, ac oherwydd gorlwytho marwodd miloedd. Mae amcangyfrifon yn amrywio rhwng 3,500 a 7,000 o farwolaethau. Cyhoeddodd Churcill orchymyn i atal y wybodaeth hon, a dywedwyd wrth oroeswyr i beidio byth s\u00f4n am y digwyddiad.           <\/div>\n                            <\/div>\n                        <\/div>\n                    <\/div>\n                                    <div class=\"col-sm-6 col-lg-4 mb-4 masonry-grid-item\">\n                        <div class=\"card\">\n                            <div class=\"card-img-top\">\n                                <img decoding=\"async\" width=\"700\" height=\"520\" src=\"https:\/\/burtonbontfestival.wales\/wp-content\/uploads\/2025\/11\/Ellis-Thomas.1-700x520.jpeg\" class=\"w-100\" alt=\"AB. Ellis Gwyn Thomas (1924\u20131945) D\/JX 559050 HMS Lapwing, Royal Navy\" \/>                            <\/div>\n                            <div class=\"card-body\">\n                                <h3 class=\"mt-3\">AB. Ellis Gwyn Thomas (1924\u20131945) D\/JX 559050 HMS Lapwing, Royal Navy  <\/h3>\n                                <div class=\"\">Cafodd Ellis Gwyn ei eni ym Mhontrhydyfen, yn fab i Edwin a Margaret Thomas, a oedd yn wreiddiol o Rock Row, Pwllyglaw. Trigodd y teulu yn 15, Penhydd Street, Oakwood gyda\u2019u plant. Torrwr Glo oedd Edwin. Ar Gofrestr Lloegr a Chymru 1939 fe nodir Ellis fel \u2018myfyriwr\u2019. Ar ryw adeg ymunodd Ellis \u00e2\u2019r llynges, yn aelod o griw HMS Lapwing, sl\u0175p dosbarth Alarch Ddu (Black Swan) a\u2019i lansiwyd ym 1943.     \r\nAr Fawrth 20fed, 1945, tra yn hebrwng y Cydymaith Rwsieg (Russian Convoy), i\u2019r gogledd o Murmansk cafodd y Lapwing ei churo gan dorpido o\u2019r llong danfor U-968. Tarodd y torpido yng nghanol y llong a fe suddodd o fewn 20 munud, gyda cholledd o 158 bywyd. Cofnodwyd Ellis fel \u2018Lost Overboard\u2019. Bu\u2019n 21 blwydd oed. Fe goffir Ellis ar y Plymouth Naval Monument. Parhaodd y teulu i fyw yn y cartref teuluol, a fe nodir ei frawd, Dewi, ar Restrau Etholiadol y 1960au.     <\/div>\n                            <\/div>\n                        <\/div>\n                    <\/div>\n                                    <div class=\"col-sm-6 col-lg-4 mb-4 masonry-grid-item\">\n                        <div class=\"card\">\n                            <div class=\"card-img-top\">\n                                <img decoding=\"async\" width=\"700\" height=\"520\" src=\"https:\/\/burtonbontfestival.wales\/wp-content\/uploads\/2025\/11\/Dennis-D-Callaghan.1-700x520.jpeg\" class=\"w-100\" alt=\"Pte. David Douglas Callaghan (1923\u20131943) 4206512, The Parachute Regiment Army Air Corps (ACC), 1st Bn\" \/>                            <\/div>\n                            <div class=\"card-body\">\n                                <h3 class=\"mt-3\">Pte. David Douglas Callaghan (1923\u20131943) 4206512, The Parachute Regiment Army Air Corps (ACC), 1st Bn  <\/h3>\n                                <div class=\"\">Ganwyd David yng Nglyncorrwg, yn fab i Reuben a Morfydd. Roedd Reuben yn gweithio fel torwr glo yng Nghofrestr Cymru a Lloegr 1939, tra bod David wedi\u2019i gofnodi fel gweithiwr wyneb glofa, roedd yn 16 oed.  \r\nYmgyrch Torch oedd yr enw a roddwyd i Ymosodiad y Cynghreiriaid ar Ogledd Affrica Ffrengig ym mis Tachwedd 1942 a dyma\u2019r tro cyntaf i luoedd yr Unol Daleithiau a\u2019r DU weithio ar gynllun goresgyniad gyda\u2019i gilydd. Os byddai\u2019n llwyddiannus, byddai\u2019n galluogi\u2019r Cynghreiriaid i glirio M\u00f4r y Canoldir a symud trwy Sisili a thrwy\u2019r Eidal.  \r\nRoedd Catrawd y Parasiwt yn rhan o Adran 1af Airbourne Prydain a oedd wedi\u2019i lleoli yn Nhiwnisia, Gogledd Affrica. Llwyddodd torwyr codau ym Mharc Bletchley i rybuddio\u2019r Cadfridog Montgomery am gynlluniau Rommel i ymosod ar Luoedd y Cynghreiriaid. Ym mis Mawrth 1943, ymrwymodd y Bataliwn 1af i ymladd mewn r\u00f4l troedfilwyr yn Nyffryn Tamara. Gyda chefnogaeth magnelau ac awyrennau, llwyddodd y Bataliwn 1af i ddal y llinell yn erbyn ymosodiad mawr gan yr Almaen a\u2019r Eidal mewn amodau gaeafol chwerw. Cofnodir bod David wedi\u2019i ladd mewn brwydr ar 8 Mawrth 1943. Roedd yn 20 oed. Mae wedi\u2019i goff\u00e1u ar Gofeb Medjez-El-Bab, Tiwnisia. Cafodd cannoedd o filwyr y gelyn eu dal, ac roedd yr ymgyrch yn llwyddiannus.        \r\nDavid\u2019s family came to live in Pontrhydyfen in the 1950s and several relatives still live in Tonmawr. He is memorialised on his mother\u2019s headstone in Jerusalem cemetery.  <\/div>\n                            <\/div>\n                        <\/div>\n                    <\/div>\n                                    <div class=\"col-sm-6 col-lg-4 mb-4 masonry-grid-item\">\n                        <div class=\"card\">\n                            <div class=\"card-img-top\">\n                                                            <\/div>\n                            <div class=\"card-body\">\n                                <h3 class=\"mt-3\">Pte. William Joseph Fielding (1912\u20131941) 397856, Welsh Rgt, 18th Bn  <\/h3>\n                                <div class=\"\">Ganwyd William Joseph ym Mhontrhydyfen ym 1912, plentyn ieuengaf Michael Fielding (glowr) ac Elizabeth Reynolds. Daeth teulu tadol William o\u2019r Fenni, ac mae\u2019n ail gefnder i Thomas Fielding sy\u2019n cael ei goff\u00e1u ar y gofeb hon o\u2019r Rhyfel Byd Cyntaf. Ganwyd rhai o frodyr a chwiorydd hynaf William ym Merthyr a daeth ei rieni i Bontrhydyfen ddiwedd y 1900au.   \r\nErbyn cyfrifiad 1921, roedd y teulu\u2019n byw yn \u2018The Huts\u2019 Pontrhydyfen, roedd William yn glaf erbyn hyn. Dim ond ei frawd yn ei arddegau oedd yn gweithio i gynnal y teulu. Credwn fod Michael wedi dychwelyd i Ferthyr lle bu farw ym 1936. Ym 1939, cofnodwyd bod William yn byw gyda\u2019i frawd h\u0177n Thomas, ei chwaer Emma a\u2019i theulu yn Stryd Hafod, Port Talbot. Roedd yn gweithio yn y gwaith dur fel llafurwr. Nid ydym wedi gallu olrhain ei fam yn bendant ar y gofrestr hon. Ond mae ei frawd hynaf Michael yn byw yng Ngherrigllwydon.       \r\nMae cofnod milwrol William yn nodi iddo farw ym Mhen-y-bont ar Ogwr ar 4ydd Ionawr 1941 yn 29 oed. Nid oes gennym unrhyw wybodaeth bellach, ond mae gan William Fedd Rhyfel y Gymanwlad ym Mynwent Macpelah, Pontrhydyfen. Parhaodd ei frodyr a\u2019i chwiorydd i fyw yn y pentref yn ogystal \u00e2 Phort Talbot.   <\/div>\n                            <\/div>\n                        <\/div>\n                    <\/div>\n                                    <div class=\"col-sm-6 col-lg-4 mb-4 masonry-grid-item\">\n                        <div class=\"card\">\n                            <div class=\"card-img-top\">\n                                <img decoding=\"async\" width=\"700\" height=\"520\" src=\"https:\/\/burtonbontfestival.wales\/wp-content\/uploads\/2025\/11\/Channon-copy.1-700x520.jpeg\" class=\"w-100\" alt=\"Air Fitter (A) Gordon Allan Channon (1916\u20131945)\nL\/FX79055 HMS Exeter, RN\" \/>                            <\/div>\n                            <div class=\"card-body\">\n                                <h3 class=\"mt-3\">Air Fitter (A) Gordon Allan Channon (1916\u20131945) L\/FX79055 HMS Exeter, RN <\/h3>\n                                <div class=\"\">Ganwyd Gordon ym Mhontrhydyfen, mab hynaf Ernest Channon a Christiana Evans. Mae Cyfrifiad 1911 yn dangos bod ei dad Ernest yn lletywr 20 oed ym Mlaengwynfi, cafodd ei eni yn Crewkerne, Gwlad yr Haf ac mae\u2019n debyg ei fod wedi dod i\u2019r ardal i chwilio am waith fel cloddiwr glo. Priododd y cwpl ym 1915 a dechrau teulu. Ym 1920, bu farw Ernest yn 29 oed, gan adael gwraig feichiog a dau fab ifanc ar ei \u00f4l. Erbyn cyfrifiad 1921, roedd Christiana, gweddw, yn byw yn 6 Parkers Row, Ton-mawr gyda\u2019i thri mab ifanc, yr ieuengaf, Davy, ond yn 9 mis oed oedd ar y pryd. Roedd y teulu\u2019n rhannu\u2019r t\u0177 gyda rhieni Christiana a\u2019i saith brawd a chwaer.     Ym 1938, roedd Gordon yn byw yn 11 Stryd Illtyd gyda\u2019i fam a\u2019i lysdad (John Kingdom). Ym 1939, mae\u2019r England and Register yn dangos bod Gordon yn dal i fyw yn Stryd Illtyd, Castell-nedd gyda dau Channon, ei frodyr yn \u00f4l pob tebyg, ac mae wedi\u2019i gofrestru fel ffitiwr awyrennau. Ym 1940, priododd ag Elizabeth (Betty) Louvain Bray, o Stryd Idwal, Castell-nedd. Roedd HMS Exeter yn llong ryfel drom dosbarth Efrog a adeiladwyd ar gyfer y Llynges Frenhinol yn ystod diwedd y 1920au. Cafodd y llong ei difrodi ym Mrwydr Afon Plate yn Ne\u2019r Iwerydd ym 1939. Ar \u00f4l gwaith atgyweirio, treuliodd y llong y rhan fwyaf o 1941 ar ddyletswyddau hebrwng confoi yn y Dwyrain Pell.    Ar 27 Chwefror 1942, cafodd Exeter ei difrodi gan dorpido Japaneaidd ym Mrwydr Gyntaf M\u00f4r Java a chafodd ei hebrwng i\u2019r de gan y llong ryfel Iseldiraidd Witte de With. Gwnaed atgyweiriadau dros dro, a\u2019r diwrnod canlynol gorchmynnwyd i Exeter anelu at Colombo, ond cafodd ei tharo eto a chollodd ei holl b\u0175er. Gan fod y llong bellach yn ddiamddiffyn, gorchmynnodd y Capten Gordon i\u2019r llong gael ei suddo, ac yn y cyfamser taniodd y Japaneaid fwy o dorpidos a suddodd y llong. Achubodd y Japaneaid 652 o ddynion, gan gynnwys y capten, a oedd bellach yn garcharorion rhyfel (POW) a\u2019u trosglwyddo i Wersyll Macassar (Makassar) yn y Celebes (Sulawesi). Anfonwyd yr uwch-swyddogion i Japan (Zentsuji). Wedi hynny, trosglwyddwyd dynion o Exeter i wahanol wersylloedd i weithio fel caethweision mewn mwynglawdd nicel yn Koyangi, neu i adeiladu maes awyr yn Java. Roedd yr amodau yng ngwersylloedd carcharorion rhyfel Japan yn ofnadwy, gyda dynion yn aml yn cael eu harteithio, eu curo a\u2019u llwgu. Mae dogfennau\u2019n dangos bod Gordon wedi aros ar Macassar am dros ddwy flynedd. Ar 20 Ebrill 1945, cofnodwyd bod Gordon wedi marw o Pellagra, clefyd a achosir gan ddeiet sy\u2019n brin o fitamin B3 yn ogystal \u00e2 Beriberi, diffyg fitamin B1. Roedd yn 28 oed. Mae wedi\u2019i gladdu ym Mynwent Ryfel Ambon, Indonesia. Credwn fod Betty wedi ailbriodi ym 1948 ac wedi symud i Abertawe; roedd Christiana yn parhau i fyw yng Nghastell-nedd a bu farw ym 1961.       His father Ernest,\r\ndied at a relatively young age of 29 following a seizure, leaving a pregnant widow and two young\r\nsons including Gordon. Ernest is buried in Jerusalem cemetery, Pontrhydyfen. <\/div>\n                            <\/div>\n                        <\/div>\n                    <\/div>\n                                    <div class=\"col-sm-6 col-lg-4 mb-4 masonry-grid-item\">\n                        <div class=\"card\">\n                            <div class=\"card-img-top\">\n                                <img decoding=\"async\" width=\"700\" height=\"520\" src=\"https:\/\/burtonbontfestival.wales\/wp-content\/uploads\/2025\/11\/Cyril-Howard.1-e1764516603513-700x520.jpeg\" class=\"w-100\" alt=\"Pte. Cyril George Howard (1920\u20131945)\n1796273, Argyll &amp; Sutherland Highlanders, 8th Bn\" \/>                            <\/div>\n                            <div class=\"card-body\">\n                                <h3 class=\"mt-3\">Pte. Cyril George Howard (1920\u20131945) 1796273, Argyll &amp; Sutherland Highlanders, 8th Bn <\/h3>\n                                <div class=\"\">Cyril oedd brawd iau Idris, sydd hefyd yn cael ei goff\u00e1u yn yr arddangosfa hon. Yng nghyfrifiad 1921, mae Cyril yn fabi 9 mis oed yn byw gyda\u2019i dri brawd h\u0177n a\u2019i rieni Evan a Lily yn Johns Terrace. Roedd Evan yn gweithio ym Mhwll Glo Tor y Banwen yn Nhon-mawr ond roedd allan o waith oherwydd streic y glowyr oedd yn digwydd ar yr adeg hon. Priododd Cyril ddiwedd 1939 \u00e2 merch o Don-mawr, Gwenda Arthur, yng Nghastell-nedd. Fodd bynnag, ni allwn ei olrhain yn bendant i gyfeiriad gan fod dau Cyril George Howard o\u2019r un oed yn byw yn yr ardal ar yr adeg hon. Gellir dod o hyd i\u2019w rieni yn dal i fyw yn 1 Johns Terrace. Ceir s\u00f4n amdano mewn adroddiad papur newydd ym mis Ebrill 1941 a nododd fod nifer o ddynion Ton-mawr wedi cael eu dal yn gamblo ar ddydd Sul ar fynydd Ton-mawr, ond aeth yr adroddiad ymlaen i ddatgan ei fod wedi ymuno \u00e2 Lluoedd Arfog EM ers hynny. Byddai Cyril a Gwenda yn mynd ymlaen i gael pedwar o blant gyda\u2019i gilydd.       Nid yw cofnod milwrol Cyril yn dangos pryd yn union, ond roedd yn debygol iddo ymuno tua adeg marwolaeth ei frawd ym mis Mai 1941. Roedd 8fed Bataliwn Ucheldirwyr Argyll a Sutherland eisoes wedi dioddef colledion trwm ym 1940 yn ystod yr enciliad i Dunkirk. Ond cafodd ei ailffurfio ar \u00f4l Dunkirk a gwelodd frwydro yn Nhiwnisia a Sisili. Erbyn mis Mawrth 1945, roedd y gatrawd yn ymladd yn yr Eidal, gan gymryd rhan yng nghyfnodau olaf ymgyrch yr Eidal. Cofnodir bod Cyril wedi marw ar 1 Ebrill, 1945. Roedd yn 25 oed ac mae wedi\u2019i gladdu ym Mynwent Ryfel Faenza yn yr Eidal. Ar \u00f4l y rhyfel, mae adroddiad papur newydd yn dangos bod Gwenda yn byw yn Nhon-mawr ym 1955. Byddai rhieni Cyril yn aros yn Nhon-mawr, bu farw Evan ym 1949. Bu farw Lily ym 1958, roedd hi\u2019n byw yn Llansawel gyda\u2019i merch. Mae ei chofnod marwolaeth yn nodi bod &#8220;Gwenda a\u2019i theulu&#8221; wedi mynychu. Page        <\/div>\n                            <\/div>\n                        <\/div>\n                    <\/div>\n                                    <div class=\"col-sm-6 col-lg-4 mb-4 masonry-grid-item\">\n                        <div class=\"card\">\n                            <div class=\"card-img-top\">\n                                <img decoding=\"async\" width=\"700\" height=\"520\" src=\"https:\/\/burtonbontfestival.wales\/wp-content\/uploads\/2025\/11\/Idris-Howard.1-700x520.jpeg\" class=\"w-100\" alt=\"Spr. Idris John Howard (1911\u20131941)\n2093830, Royal Engineers 10 Bomb Dis Coy\" \/>                            <\/div>\n                            <div class=\"card-body\">\n                                <h3 class=\"mt-3\">Spr. Idris John Howard (1911\u20131941) 2093830, Royal Engineers 10 Bomb Dis Coy <\/h3>\n                                <div class=\"\">Ganwyd Idris John yn Nhon-mawr i Evan John (Collier) a aned yn y Porth a Lily George a ddaeth yn wreiddiol o Donypandy. Ym 1911, roedd y cwpl yn byw gyda theulu Lily yn Nheras Blaenafon, Ton-mawr gyda\u2019u plentyn hynaf William. Erbyn 1921, roedd y teulu wedi tyfu. Roedd gan Idris dri o frodyr a chwiorydd ar yr adeg hon, ac roedd y teulu\u2019n byw yn 1 Teras Johns. Roedd Evan, fel llawer o ddynion ar y pryd, allan o waith oherwydd yr anghydfod diwydiannol parhaus. Ym 1937, priododd Idris \u00e2 Kathleen yng Nghastell-nedd. Ni allwn adnabod Idris yn bendant yng Nghofrestr Cymru a Lloegr 1939, ond credwn fod Kathleen yn byw ym Myngalo Whitworth, Ton-mawr. Ar ddechrau\u2019r Ail Ryfel Byd, penderfynodd y Swyddfa Ryfel y byddai\u2019r Peirianwyr Brenhinol yn darparu timau Gwaredu Bomiau (BD) dros dro nes y gallai\u2019r Swyddfa Gartref recriwtio a hyfforddi timau Gwaredu Bomiau Arbenigol i wneud hynny.      Roedd y timau cyntaf yn cynnwys NCO a dau sapper ac roedd yn ofynnol iddynt gloddio i lawr at y bomiau a\u2019u chwythu yn eu lle. Ym mis Hydref 1939, roedd y bomiau cyntaf i gael eu gollwng ar Brydain gan Lu Awyr yr Almaen (Luftwaffe) yn Ynysoedd Orkney. Er gwaethaf meddu ar y nesaf peth i ddim o offer a fawr ddim hyfforddiant, dysgodd y timau\u2019n gyflym. Erbyn dechrau 1940, dim ond 20 o fomiau heb ffrwydro a gafodd eu trin. Cododd hyn i 3,000 erbyn mis Medi 1940. Rhwng mis Medi 1940 an mis Gorffennaf 1941, gwnaed dros 24,000 o fomiau yn ddiogel a\u2019u symud. Nid oes gennym unrhyw wybodaeth am wasanaeth Idris, ond mae cofnod ei fod wedi\u2019i ladd mewn brwydr ar 13 Mai 1941, roedd yn 30 oed. Mae Idris wedi\u2019i gladdu ym Mynwent Macpelah ym Mhontrhydyfen. Roedd ei rieni\u2019n dal i fyw yn John\u2019s Terrace yn Nhon-mawr ar \u00f4l y rhyfel ac mae llawer o deulu estynedig Idris yn byw yn Nhon-mawr heddiw.       <\/div>\n                            <\/div>\n                        <\/div>\n                    <\/div>\n                                    <div class=\"col-sm-6 col-lg-4 mb-4 masonry-grid-item\">\n                        <div class=\"card\">\n                            <div class=\"card-img-top\">\n                                                            <\/div>\n                            <div class=\"card-body\">\n                                <h3 class=\"mt-3\">Pte. Enoch Jones (1918\u20131940) 7358107, RAMC, 11 Field Amb. <\/h3>\n                                <div class=\"\">Daeth Enoch o deulu mawr o frodyr a chwiorydd a hanner brodyr a chwiorydd h\u0177n; ganwyd y rhan fwyaf cyn i\u2019r teulu ddod i Don-mawr. Daeth ei rieni (Thomas ac Emily Jane) yn wreiddiol o Sir Fynwy ac roeddent wedi byw yn Clun a Resolfen cyn iddynt ddod i Fforchdwm. Dyma oedd ail briodas ei dad. Yng Nghyfrifiad 1921, mae\u2019r teulu\u2019n byw ym Mhontycymer, Ton-mawr Uchaf. Roedd ei dad yn ychwanegu at ei incwm, gan weithio fel coediwr. Roedd y rhan fwyaf o\u2019r glowyr ar streic yn ystod gwanwyn a haf 1921 oherwydd bod y Prif Weinidog Lloyd George a pherchnogion y pyllau glo wedi dewis preifateiddio\u2019r pyllau a gafodd eu gwladoli yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae cofnodion cyfrifiad 1921 yn dangos bod llawer o ddynion oed gweithio\u2019r ardal allan o waith oherwydd yr anghydfod hwn. Byddent yn dychwelyd yn fuan, gan weithio oriau hirach am lai o gyflog. Ym mis Medi 1939, dangosodd Cofrestr Cymru a Lloegr fod Thomas wedi ymddeol, a bod y cwpl a\u2019u mab Douglas yn byw yn 12, Fforchdwm, er nad oedd Enoch yn byw gartref ar yr adeg hon. \r\nRoedd llawer o ddynion sengl eisoes wedi ymuno erbyn hynny. Mae cofnodion yn dangos bod Enoch yn aelod o Gorfflu Meddygol y Fyddin Frenhinol. Erbyn mis Mai 1940, roedd ymosodiad gorllewinol Hitler wedi dechrau ac ar 19eg o Fai, gorchmynnodd Cadlywydd Llu Alldaith Prydain (CLlAP), y Cadfridog Arglwydd Gort, i filwyr dynnu\u2019n \u00f4l tuag at borthladdoedd Ffrainc gan gynnwys Dunkirk. Erbyn y diwrnod canlynol, roedd lluoedd yr Almaen yn cyrraedd arfordir Ffrainc yn Abbeville.            Ymddengys bod Enoch wedi\u2019i ddal yn y frwydr hon gan fod cofnodion yn dangos iddo gael ei ladd mewn brwydr ar y dyddiad hwn; roedd yn 21 oed. Mae wedi\u2019i gladdu ym Mynwent Ryfel Heverlee, Gwlad Belg. Dros y dyddiau a\u2019r wythnosau canlynol, gorchmynnodd Churchill baratoi llongau i adael y CLlAP a fyddai\u2019n dechrau o Dunkirk ar 3ydd o Fehefin.  <\/div>\n                            <\/div>\n                        <\/div>\n                    <\/div>\n                                    <div class=\"col-sm-6 col-lg-4 mb-4 masonry-grid-item\">\n                        <div class=\"card\">\n                            <div class=\"card-img-top\">\n                                <img decoding=\"async\" width=\"700\" height=\"520\" src=\"https:\/\/burtonbontfestival.wales\/wp-content\/uploads\/2025\/11\/David-Ivor-Richards.1-700x520.jpeg\" class=\"w-100\" alt=\"Sto. David Ivor Richards (1910\u20131942)\nD\/KX 117129, HMS Leda, RN\" \/>                            <\/div>\n                            <div class=\"card-body\">\n                                <h3 class=\"mt-3\">Sto. David Ivor Richards (1910\u20131942) D\/KX 117129, HMS Leda, RN <\/h3>\n                                <div class=\"\">Ganwyd David Ivor Richards yn Nhon-mawr. Roedd ei rieni David a Mary hefyd o Don-mawr ac yn byw yn 2 Tip Cottages gyda\u2019u teulu ifanc. Roedd David yn gweithio fel gyrrwr injan yn y lofa. Erbyn Cyfrifiad 1921, roedd Mary wedi marw ac roedd ei dad wedi ailbriodi \u00e2 Nellie, a\u2019r teulu bellach yn byw yn 5 Welsh Row, Ton-mawr. Mae Cofrestr Cymru a Lloegr 1939 yn dangos bod David wedi priodi ag Irene (hefyd o Don-mawr) ac yn byw ychydig ddrysau i lawr oddi wrth ei dad yn 2 Welsh Row. Roedd yn gweithio fel llafurwr yn y gwaith dur. Roedd David wedi\u2019i leoli ar HMS Leda, llong ysgubo mwyngloddiau Dosbarth Halcyon o Lynges Prydain. Wedi\u2019i lansio ym 1937, cymerodd y Leda ran yn Operation DYNAMO fel rhan o\u2019r broses o ddod \u00e2 milwyr adref o Dunkirk ym 1940. Erbyn mis Medi 1941, roedd hi wedi\u2019i defnyddio ar gyfer dyletswyddau confoi a dyletswyddau ysgubo ffrwydron yng Ngwlad yr I\u00e2 a Gogledd Rwsia.        Ar 20 Medi, 1942, trawyd y Leda gan ddau dorpido yn ystod tywydd gwael. Suddodd o fewn 90 munud gan golli 46 o fywydau. Roedd David yn un o\u2019r criw hynny, roedd yn 32 oed. Mae wedi\u2019i goff\u00e1u ar Gofeb Lyngesol Plymouth. Parhaodd Irene i fyw yn Nhon-mawr ac ailbriododd maes o law.    <\/div>\n                            <\/div>\n                        <\/div>\n                    <\/div>\n                            <\/div>\n                    \n<\/section>\n\n\n\n\n<div data-wp-interactive=\"core\/file\" class=\"wp-block-file\"><object data-wp-bind--hidden=\"!state.hasPdfPreview\" hidden class=\"wp-block-file__embed\" data=\"https:\/\/burtonbontfestival.wales\/wp-content\/uploads\/2025\/11\/Memorial-Book-Faces-of-the-fallen.pdf\" type=\"application\/pdf\" style=\"width:100%;height:600px\" aria-label=\"Embed of Memorial Book - Faces of the fallen.\"><\/object><a id=\"wp-block-file--media-98f16e88-7a20-4b43-81af-03cc5ea131b0\" href=\"https:\/\/burtonbontfestival.wales\/wp-content\/uploads\/2025\/11\/Memorial-Book-Faces-of-the-fallen.pdf\">Memorial Book &#8211; Faces of the fallen<\/a><a href=\"https:\/\/burtonbontfestival.wales\/wp-content\/uploads\/2025\/11\/Memorial-Book-Faces-of-the-fallen.pdf\" class=\"wp-block-file__button wp-element-button\" download aria-describedby=\"wp-block-file--media-98f16e88-7a20-4b43-81af-03cc5ea131b0\">Lawrlwytho<\/a><\/div>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Bywgraffiadau&#8217;r dynion a wasanaethodd o bentrefi Bryn, Pontrhydyfen a Thonmawr.<\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":959,"parent":0,"template":"","meta":{"_acf_changed":false,"inline_featured_image":false,"footnotes":""},"media-type":[],"topic":[47],"class_list":["post-975","story","type-story","status-publish","has-post-thumbnail","hentry","topic-cofeb-ryfel"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/burtonbontfestival.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/story\/975","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/burtonbontfestival.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/story"}],"about":[{"href":"https:\/\/burtonbontfestival.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/story"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/burtonbontfestival.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"version-history":[{"count":12,"href":"https:\/\/burtonbontfestival.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/story\/975\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":994,"href":"https:\/\/burtonbontfestival.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/story\/975\/revisions\/994"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/burtonbontfestival.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/959"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/burtonbontfestival.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=975"}],"wp:term":[{"taxonomy":"media-type","embeddable":true,"href":"https:\/\/burtonbontfestival.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media-type?post=975"},{"taxonomy":"topic","embeddable":true,"href":"https:\/\/burtonbontfestival.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/topic?post=975"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}