Croeso i Grŵp Gŵyl Bont Burton
Mae un lle rydych chi’n perthyn iddo, ac yn fy achos i, Pontrhydyfen ydyw.
Mae’r wefan yma wedi cael ei sefydlu i gofnodi hanes a threftadaeth pentref Pontrhydyfen, Oakwood ac Efail Fach. Sefydlwyd Grŵp Gŵyl Bont Burton (sefydliad cymunedol nid er elw) yn 2023 i ddarganfod sut roedd ein trigolion, ein grwpiau rhanddeiliaid a’n busnesau ni’n dymuno dathlu pen-blwyddi pwysig oedd i ddod yn 2025.
Mae llawer o’r wybodaeth welwch chi yma wedi’i rhannu gan drigolion hen a newydd, y Teulu Burton a Jenkins ac mae’n rhoi blas i chi ar ba mor arbennig yw’r pentref rydyn ni’n byw ynddo.
Gobeithio y byddwch chi’n mwynhau archwilio’r wefan yma.
Y Pwyllgor
Cadwch lygad ar yr holl bethau diweddaraf
Mae’r wefan hon yn dathlu hanes a threftadaeth gyfoethog ein pentref, Pontrhydyfen, ac ardal ehangach Castell-nedd Port Talbot. Rydym wedi casglu dros 500 o ffotograffau a phethau cofiadwy sy’n adlewyrchu bywydau, straeon a chyfraniadau pobl leol ar draws cenedlaethau. Mae’n lle i rannu gorffennol ein cymuned gyda chynulleidfa ehangach a’i gadw ar gyfer y dyfodol.
Ymhlith y casgliad mae eitemau prin sy’n gysylltiedig â Richard Burton, y mae ei wreiddiau yma yn ychwanegu diddordeb byd-eang. Ond calon y prosiect hwn yw’r gymuned ei hun. Drwy arddangos ein treftadaeth ar-lein, ein nod yw hyrwyddo digwyddiadau lleol, denu ymwelwyr, a chysylltu â’r rhai sy’n rhannu diddordeb yn ein tarddiad.
NewyddionSupported by







