Grŵp Gŵyl Burton Bont

SEFYDLIAD CYMUNEDOL NID ER ELW YM MHONTRHYDYFEN YDYN NI, WEDI’I YMRWYMO I DDATHLU A CHADW TREFTADAETH LEOL.

Er ein bod ni’n gymharol newydd, rydyn ni wedi cyflwyno prosiectau seilwaith a diwylliannol effeithiol, gan gynnwys murlun Richard Burton, meinciau coffa, a chroglen wedi’i brodio gan y gymuned – sydd i gyd bellach yn rhan o Lwybr Man Geni estynedig Richard Burton.

Prosiectau Cymunedol a Mentrau Treftadaeth

Mae ein gwaith ni’n cwmpasu ymgysylltu creadigol a chadwraeth hanesyddol.

Mae’r uchafbwyntiau’n cynnwys cystadleuaeth gelf i blant, sef Pontrhydyfen Trwy Lygaid Plentyn, ein prosiectau Hanes Llafar ac Atgofion Digidol, a’r arddangosfa coffa’r rhyfel, sef Wynebau’r Rhai a Gollwyd. Cefnogir yr ymdrechion hyn gan gyllid CNPT a Threftadaeth y Loteri.

Rhannu Ein Stori

Mae ein tîm ni o wirfoddolwyr dwyieithog yn sicrhau cynhwysiant yr iaith Gymraeg ar draws y cyfryngau a’r gwaith allgymorth.

Diolch i’w hymroddiad, mae ein gwaith ni wedi cael ei gynnwys ar y BBC a Wales Online, gan ein helpu i gadw treftadaeth Pontrhydyfen yn fyw ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol..