Olrhain Strydoedd Anghofiedig: Pwy Oedd Yn Byw Yn Eich Tŷ Chi, Pontrhydyfen
Mae gan Bontrhydyfen a’i gymunedau cyfagos – Efail Fach, Oakwood a Thonmawr – hanes rhyfeddol ond anodd ei ddarganfod weithiau.
Enwau Strydoedd, Tai ac Adeiladau Anghofiedig
Adeiladwyd llawer o’r bythynnod, y siopau a’r adeiladau eraill yn yr ardal fesul tipyn, heb y cynllunio trefnus y byddem yn ei ddisgwyl heddiw efallai.
Pan rydyn ni’n edrych yn ôl drwy gofnodion y cyfrifiad, mae’r her yn dod yn glir: yn aml, nid oedd y strydoedd taclus, wedi’u rhifo sy’n gyfarwydd i ni nawr yn bodoli. Mewn gwirionedd, ni chafodd rhai strydoedd eu rhifo tan y 1930au.
Er enghraifft, dim ond degawdau ar ôl i’w gartrefi gael eu hadeiladu gyntaf y mabwysiadodd Twyn y Pandy rifau tai. Mae rhai strydoedd wedi diflannu’n llwyr – wedi’u dymchwel a’u colli. Cliriwyd eraill a chawsant eu disodli gan stoc o dai mwy newydd, gan ddileu olion y teuluoedd a’r busnesau oedd yno ar un adeg.
Plas y Gog
Yn cael ei adnabod bellach fel Stryd y Frenhines (rhif anhysbys)
Sunny Bank
29 Twynypandy Roedd llawer o’r tai yn Nhwynypandy yn cael eu hadnabod oddi wrth eu henwau unigol e.e. Ael-y-Bryn neu Gwendraith Villa. Y gred ydi na fabwysiadwyd rhifo tan y 1930au.
Hen Res y Swyddfa
Defnyddiwyd y tŷ yma’n wreiddiol fel swyddfeydd gan Waith Haearn Oakwood, cafodd ei drawsnewid yn ddiweddarach yn bedwar annedd ar wahân. Daeth yr adeilad yn ddiweddarach yn Ficerdy Oakwood, ond adeiladwyd ail ficerdy yn ei le yn ddiweddarach yn y 1970au. Mae’r ddau adeilad bellach yn gartrefi preifat.
pwy oedd yn byw yn fy nhŷ i Rhes Oakwood
Rhes Oakwood
Yn cael ei galw yn aml yn ‘Y Rhes’, cafodd ei dymchwel gan y Cyngor a daeth y tai a’r fflatiau sydd i’w gweld ar hyn o bryd ar hyd Rhodfa Oakwood i gymryd ei lle
Y Barics
Cafodd y bythynnod yma eu dymchwel a daeth sawl tŷ ar wahân i gymryd eu lle yn Nhanybont (rhifau 15 i 19)
Y Rhyslyn
I’w weld islaw Gorsaf Pontrhydyfen, y tu ôl i safle Glofa Oakwood sydd bellach yn Gae Rhyslyn. Cafodd y tai eu dymchwel ar ddiwedd y 1960au. Cafodd sawl teulu eu hailgartrefu yn Curwen Close
Dôl y Bont / Hen Ddôl y Bont / Waun y Bont
Ar un adeg roedd amryw o dai yn Nhanybont yn sefyll ar ochr y ffordd ar bob ochr a rhwng y Ddyfrbont a’r Draphont. Cafodd llawer eu dymchwel ar wahanol adegau ac maent wedi’u cofnodi mewn llawer o ffotograffau.
Pontycymmer
Mae’r rhain yn cyfeirio at y bythynnod a adeiladwyd ar bob ochr i draphont y rheilffordd. Gellir gweld y rhes o fythynnod ar ochr Cwmafan i’r draphont mewn rhai ffotograffau o’r ardal. Gwnaeth sawl adroddiad papur newydd hanesyddol sylwadau am y diffyg glanweithdra yn y tai hyn
Heol yr Orsaf
Roedd rhes o fythynnod teras yn rhedeg ar hyd y ffordd o fynwent Jeriwsalem. Cafodd y rhan fwyaf ohonynt eu dymchwel, dim ond rhai sydd ar ôl, wedi’u cyfuno yn aml neu eu hymestyn i ddarparu lle byw mwy.
Tafarn Heart of Oak
Mae’n debyg mai’r dafarn hon yw un o’r tafarndai hynaf yn y pentref ac mae wedi’i lleoli ym mhen draw Stryd y Frenhines islaw Capel Jeriwsalem. Rhoddodd y dafarn ei henw i’r bryn serth, ‘bryn Heart of Oak’ sy’n rhedeg i lawr i Danybont. Ar ôl iddi gau, agorodd siop losin a siocled ar y safle
Y Gangen
Roedd hwn yn addoldy Methodistaidd yn Efail fach. Cafodd ei ddymchwel a’i ddisodli gan dŷ ar ddiwedd y 1970au (rhif 4)
Y Byngalo
Efallai bod hyn yn cyfeirio at y stoc Byngalos hŷn sy’n sefyll o hyd yn Curwen Close heddiw. Nododd adroddiadau papur newydd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf fod ffoaduriaid o Wlad Belg wedi’u cartrefu yma
Y Kings Head
Tafarn a safai unwaith wrth ymyl mynwent Jeriwsalem, dyma’r unig adeilad sy’n weddill y pen hwn i Heol yr Orsaf ac roedd siop gigydd drws nesaf
Y Boars Head
Tafarn a safai unwaith wrth ymyl y Miners Arms ym mhen draw Stryd Lewis. Daeth y safle hwn yn siop groser yn ddiweddarach – Gethin
Pandy
Ar fap Arolwg Ordnans o 1875, roedd ‘Hen Ffatri’ wedi’i lleoli i lawr yr afon o’r Felin Wlân yng Ngherrig Llwydion, lle mae Twyn Pandy a Theras Morgan wedi’u lleoli nawr. Mae ‘Pandy’ yn air arall am Felin Ban, sef melin a ddefnyddir mewn proses orffen tecstilau sy’n glanhau ac yn tewhau brethyn gwlân wedi’i wehyddu. Mae hyn yn gwella ei wydnwch a’i allu i wrthsefyll dŵr. Mae mapiau degwm yr ardal hon yn cyfeirio at yr ardal fel un â Melin Ban. Roedd Siopa y Pandy wedi’i lleoli ar Deras Morgan am sawl degawd a chaeodd yn y 1960au.
Yn cael ei adnabod bellach fel 1-3 Cerrig Llwydion
Teras Roberts / Bythynnod Roberts
Yn cael ei adnabod bellach fel 8-11 Cerrig Llwydion
Rhes Mercantile
Enwyd y rhes hon yn wreiddiol ar ôl glofa Mercantile, oedd yn cael ei hadnabod yn ddiweddarach fel Glofa Garth Tonmawr. Rhes Fforchdwm / Tonmawr Uchaf bellach
Rhes Darren
14-17 Efail Fach
Siopau, Adeiladau a Masnachwyr Coll: Gellid dod o hyd i lawer o siopau bach yn y pentref a’r cyffiniau. Allwch chi gofio unrhyw un o’r rhain, neu allwch chi gofio mwy?
Dewi’s
Stryd Penhydd, Oakwood, oedd yn cael ei chadw gan Gwyn ac Eluned Llewellyn tan ganol y 1970au
Siop Trin Gwallt Betsan
Siop Groser Gethin
Stryd Lewis, yn gwerthu ystod eang o gynnyrch hyd at ddiwedd y 60au / dechrau’r 70au
Banc Midland
1 Teras Morgan, ble’r oedd Mr a Mrs Rees yn byw
Siop Pandy / siop Pope
7 Teras Morgan, groser yn cael ei rhedeg gan y teulu Pope
Olive Jane, Siop Frethyn
Busnes brethyn ar Stryd y Frenhines
Siop Sglodion Mrs Thomas
Stryd y Frenhines, a oedd ‘Jenny’s’ wedi’i leoli yma i ddechrau cyn symud i’r hen Co-op?
Siop Fetio
Wrth ochr yr hen Neuadd Les
Siop Sglodion / Trin Gwallt
Mewn adeilad bach, ar wahân ym mhen draw Teras Morgan (wedi’i ddymchwel bellach)
Neuadd yr Eglwys
Enugu Lodge. Lle’r oedd Eglwys Sant Ioan yn cynnal llawer o ffeiriau a chyngherddau
Y Genhadaeth / Gobeithlu
Strwythur ar wahân wedi’i wneud o haenau o dun wedi’i leoli rhwng Twyn y Pandy a Theras Bevan. Ai’r un adeilad yw hwn, a gollwyd yn y 1970au?
Cymdeithas Gydweithredol a Diwydiannol Pontrhydyfen
Siop ddeulawr yn wreiddiol gyda becws, siop groser, dillad a llawer, llawer mwy. Bellach dyma’r unig siop sydd ar ôl yn y pentref, mae wedi’i rhannu’n ddau gyda siop tecawê pizza
Harry Rees y Cigydd
Ar Deras Morgan, yn eiddo i ac yn cael ei redeg gan 3 cenhedlaeth o’r Teulu Rees. Yn anffodus, caeodd yn ystod y degawd diwethaf.
Meddygfeydd
Cynhaliodd mwy nag un meddyg feddygfeydd a chlinigau mewn gwahanol gyfeiriadau yn y pentref. Mae’r rhain yn cynnwys Bryn Elfed, 10 Teras Morgan a’r Ganolfan Gymunedol
Hoffem gael eich help chi gyda’r canlynol:
Siop ddillad menywod ar Deras Morgan (tua phen Teras Bevan)
Siop wedi’i lleoli ar gornel Heol Tonmawr Efail Fach
Y Prosiect: Pwy Oedd yn Byw yn Eich Tŷ Chi
I unrhyw un sy’n ceisio darganfod “Pwy Oedd yn Byw yn Eich Tŷ Chi”, gall y siwrnai deimlo fel gwaith ditectif. Mae ein prosiect parhaus ni, Pwy Oedd yn Byw yn Eich Tŷ Chi, eisoes wedi datgelu manylion diddorol am orffennol Pontrhydyfen. Ond rydyn ni’n gwybod bod mwy i’r stori.
Rydyn ni’n rhoi strydoedd coll neu anghofiedig at ei gilydd, gan ailddarganfod straeon am dai, siopau, a’r bobl wnaeth siapio ein tref ni. Mae pob cliw yn ychwanegu haen arall at y tapestri cyfoethog o hanes lleol.
Os oes gennych chi atgofion, ffotograffau neu wybodaeth am strydoedd ac adeiladau coll, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi. Gallai eich cyfraniadau chi helpu i warchod treftadaeth Pontrhydyfen ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
CYDNABYDDIAETH
Diolch o galon i Jason Jarvis am ei arbenigedd a’i wybodaeth aruthrol, sydd wedi bod yn amhrisiadwy wrth gefnogi’r prosiect hwn.
Oriel o strydoedd, tai a safleoedd eraill o amgylch Pontrhydyfen.
Y Barics a Phont y Rheilffordd
Y Barics a Dan Y Bont
Dan Y Bont gan Rufie Snell
Tai Rhyslyn ac Eglwys y Vine
Rheilffordd yn edrych tuag at Oakwood
Rhes Pontycymer, Dan Y Bont 1906
Neuadd Lles Pontrhydyfen
Gorsaf Pontrhydyfen a'r Barics, Dan Y Bont
Gorsaf Pontrhydyfen a Rhyslyn
Pontrhydyfen a Morgan’s Terrace
o Benhydd
Stryd Pontrhydyfen
Penrhys Fawr
Stryd Penhydd 1913
Hen felin gyda Cherrigllwydon a Bevans o'r 1930au
Filas Oakwood
Rhes Oakwood
Rhes Oakwood
yn edrych tuag at Foel gyda mwyngloddiau drifft a thomenni rwbel yn y cefndir
Oakwood Row and St Johns Church 1930s AM
Rhes Oakwood a'r ysgol
Rheilffordd Oakwood
damwain trên
Oakwood o Benrhys
Gweithfeydd Oakwood yn y cefndir
Glofa Oakwood a Rhyslyn
Glowyr ger melin Efail fach 1915
Millwright Arms a rheilffordd
Mikado
Cyfarfod â theulu Richard Burton
Liz Taylor gyda, o’r chwith, chwaer Mrs. Hilda Richard, Mrs. Hyrel Jenkins a Mrs. Betty Jenkins, dwy o’i chwiorydd.