Rydym wedi adolygu cofnodion y cyfrifiad yn fyr, ac rydym yn parhau i weithio i nodi tarddiad ac ethnigrwydd llawer o drigolion y pentref….
Mewnfudo ac amrywiaeth
Rydym wedi adolygu cofnodion y cyfrifiad yn fyr, ac rydym yn parhau i weithio i nodi tarddiad ac ethnigrwydd llawer o drigolion y pentref….
Cyn y Chwyldro Diwydiannol, roedd Cymru yn wledig i raddau helaeth. Ychydig o drefi mawr oedd gan y wlad ac ychydig o fewnfudo a welwyd. Denodd gweithfeydd mwynau’r 18fed ganrif, a ysgogwyd yn bennaf gan ddiwydianwyr a thirfeddianwyr Lloegr, fwy o bobl yn chwilio am waith.
Uchafbwyntiau’r cyfrifiad
1841–1851: Symudiad Cynnar
Nid yw cyfrifiad 1841 yn cofnodi man geni unigolyn, ond erbyn 1851, canfu ein hadolygiad fod llawer o bobl leol wedi’u geni mewn mannau eraill, yn bennaf o Sir Gaerfyrddin. Daeth eraill o Sir Benfro, Dyfnaint ac Iwerddon. Yn 1851, ganwyd mwyafrif y trigolion ym Morgannwg, gyda mewnlifiad mawr yn dod o Sir Gaerfyrddin.
1861: Mewnfudo Gwyddelig
Roedd sawl teulu wedi teithio o Ddyfnaint, Swydd Gaergrawnt a Swydd Stafford. Ond erbyn 1861, roedd sawl teulu wedi cyrraedd o Iwerddon, i ddianc rhag Newyn Iwerddon mae’n bur debyg. Cofnodwyd bod mwy na 30,000 o fewnfudwyr Gwyddelig wedi dod i Gymru erbyn 1861.
1871: Cysylltiadau Cyfandirol
Mae cofnodion cyfrifiad 1871 yn dangos bod dau breswylydd oedd wedi’u geni yn Ffrainc. Louisa Wallers o Strasbourg a David Thomas (nid yw’n enw Ffrengig iawn) o Baris.
Mae cofnodion cynyddol yn ystod y flwyddyn hon am drigolion yn dod o Swydd Gaerloyw a Swydd Wilt.
Amrywiaeth yn ehangu : 1891–1901
Yn 1891, cafodd Alexander Malichart (Milchard), masnachwr oriorau o’r Almaen, ei gofnodi fel preswylydd yn byw yn Lletty lwyd House (?Tonmawr).
Ni chafodd ei gofnodi fel ymwelydd. Mae cyfran uchel o’r trigolion a oedd yn byw yn Fforcdwm (Tonmawr) yn ystod y flwyddyn hon wedi’u cofnodi fel pobl a ddaeth o ‘Loegr’. Ym Mhontrhydyfen, roedd niferoedd mwy o drigolion oedd yn dod yn wreiddiol o ganolbarth a dwyrain Cymru, fel Sir Fynwy ac Aberhonddu.
1901: Mudo Diwydiannol
Yn 1901, ganwyd gwraig yr Ysgolfeistr (Sarah Forsythe Evans) yn Swydd Aberdeen, tra bod eu mab Edward (a anwyd yn Ninas Llundain) yn gweithio fel gorsaf-feistr y pentref.
Mae ein gwneuthurwr oriorau Almaenig, Alexander Milchard, yn dal i fyw yn Fforchdwm. Roedd y pentref a’r cyffiniau yn parhau i ddenu mudwyr o Swydd Efrog, Swydd Lincoln a chanolbarth Cymru i weithio yn y pyllau glo a’r rheilffyrdd lleol.
Am y tro cyntaf, yng nghyfrifiad 1911 gwelwyd ffurflenni’n cael eu hysgrifennu a’u cwblhau gan berchnogion tai unigol eu hunain. Mae edrych ar gymdogion uniongyrchol ychydig yn anoddach bellach.
Roedd mwyafrif helaeth y trigolion a anwyd yng Nghymru yn ddwyieithog. Roedd nifer cynyddol o drigolion a anwyd yn Lloegr yn byw yn y pentref (Llundain, Caint, Swydd Efrog i enwi dim ond rhai). Cofnodwyd Dr Farquhar William Matheson o Inverness yn byw gyda’i deulu yn Y Feddygfa, Twynypandy.
Roedd cyfran uchel o drigolion a anwyd yn Lloegr yn gweithio ar y rheilffyrdd. Efallai y gall rhywun ein helpu gyda hanes cefndir Benjamin a Florence Williams a’u teulu, oedd yn byw yn 2 Curwen Tce.
Ar ryw adeg roeddent wedi byw yn UDA, ganwyd eu dau blentyn hynaf yn Efrog Newydd cyn i’r teulu ddod i Donmawr lle ganwyd gweddill y plant. Ble mae’r rhes o dai o’r enw 1-9 Pontrhydyfen, mae’r cyfeiriadau cyfagos yn cynnwys Danybont a Chwm Ifan Bach ac maent wedi’u cofnodi ochr yn ochr â ffurflenni Oakwood.
Cyfrifiad 1921 yw’r cyfrifiad diweddaraf sydd ar gael i’r cyhoedd ac, yn dibynnu ar eich oedran, efallai y byddwch chi’n adnabod enwau neu berthnasau, a phobl y gallech chi fod wedi’u cyfarfod hyd yn oed.
Mae’r cysylltedd hwn hefyd wedi gweld dyfodiad sawl teulu o America, Affrica a’r Dwyrain Canol. Rydym wedi cynnwys y canlynol