Ganwyd Richard Burton yn Richard Jenkins ar Dachwedd 10fed 1925.
Blynyddoedd ifanc Richard Burton
Ganwyd Richard Burton yn Richard Jenkins ar Dachwedd 10fed 1925.
Ef oedd deuddegfed plentyn Richard Walter Jenkins (Dic Bach) a’i wraig, Edith Jenkins. Cyfarfu Dic Bach, glöwr a oedd yn gweithio ym Mhwll Glo Oakwood, ag Edith, menyw fwy crefyddol nag ef ei hun, yn y Miner’s Arms, tafarn y byddai’n ei mynychu’n rheolaidd a lle roedd hi’n gweithio tu ôl i’r bar.
Er nad oedd ei rhieni hi’n cymeradwyo, priododd y ddau yn 1900.
Y Teulu Jenkins yn Ehangu
The family Ehangodd y teulu’n gyflym iawn:
Ganwyd Thomas Henry yn 1901, Cecelia (Cis) yn 1905, Ifor yn 1906, Margaret Hannah (a fu farw yn fabi), Margaret Hannah (a fu farw hefyd yn blentyn bach), William yn 1911, David yn 1914, Verdum yn 1916, Hilda yn 1918, Catherine yn 1921, Edith yn 1922 a Richard yn 1925. Bu farw Edith yn fuan ar ôl genedigaeth ei thrydydd plentyn ar ddeg, Graham, yn 42 oed.
Gan nad oedd yn gallu gofalu’n ddigonol am ei dri ar ddeg o blant, trefnodd Dic Bach i’w ddau fachgen ieuengaf (Richard a Graham) fynd i fyw gyda’u chwiorydd hŷn ac aeth Rich i fyw gyda’i chwaer hynaf, Cis, oedd yn 22 oed ac yn briod â glöwr, Elfed James, ac yn byw yn Nhaibach.
Roedd Rich yn ymweld yn rheolaidd â chartref y teulu Jenkins ym Mhontrhydyfen, a byddai ei frodyr a’i chwiorydd yn ymweld â Thaibach yn aml.
Yn bump oed, mynychodd Rich Ysgol Fabanod Eastern ac yn wyth oed, mynychodd adran bechgyn Ysgol Gynradd Eastern, lle gwnaeth ei athrawes, Meredith Jones, weld ei fod yn ddarllenydd brwd a’i hyfforddi drwy arholiad ysgoloriaeth Ysgol Uwchradd Port Talbot. Yn yr ysgol, rhagorodd mewn rygbi a daeth yn gapten y tîm criced.
Gadawodd Rich yr ysgol i weithio yn y Co-op lleol ond cafodd ei annog i ddychwelyd i’r ysgol gan Meredith Jones, oedd yn teimlo ei fod yn gwastraffu ei botensial. Dychwelodd Rich i’r ysgol yn 1942.
Jones wnaeth ofyn i Philip Burton, athro Saesneg yn Ysgol Uwchradd Port Talbot, gadw llygad ar Rich, a oedd yn 16 oed. Gwelodd Philip Burton, dyn diwylliedig a llenyddol oedd wedi cael addysg prifysgol, rywbeth yn Rich a daeth yn ffigur dylanwadol yn ei fywyd.
Yn 1943, pan ddaeth ystafell ar gael, awgrymodd y dylai Rich gymryd ystafell yn y tŷ lle’r oedd yn lletya ac ar ôl hynny cymerodd Rich i’w ofal personol.
Dod yn Richard Burton
Daeth Burton yn fentor i Rich a gyda’i gilydd buont yn gweithio ar ‘y llais’ a fyddai’n dod yn nod masnach i Rich. Anogodd Burton Rich i fynychu’r brifysgol a rhoddodd ei enw ymlaen ar gyfer cynllun oedd yn cael ei weithredu gan yr RAF a oedd yn cynnig cwrs prifysgol byr i recriwtiaid addas yn Rhydychen a Chaergrawnt.
Yr unig broblem oedd cefndir gwylaidd Rich fel mab i löwr dosbarth gweithiol. Am y rheswm yma gwnaeth Burton gais i fabwysiadu Rich, a daeth Richard Jenkins yn Richard Burton.