Capeli, Eglwysi a Chrefydd

Mae hanes y capeli yng Nghymru wedi’i gysylltu’n agos â chynnydd anghydffurfiaeth a dyfodd yn sylweddol o’r 17eg ganrif ymlaen gan gyrraedd uchafbwynt yn

Jerusalem chapel Pontrhydyfen

Mae hanes y capeli yng Nghymru wedi’i gysylltu’n agos â chynnydd anghydffurfiaeth a dyfodd yn sylweddol o’r 17eg ganrif ymlaen gan gyrraedd uchafbwynt yn y 19eg ganrif gyda nifer fawr o gapeli’n cael eu hadeiladu. Doedd Pontrhydyfen ddim yn wahanol. Gellid dod o hyd i sawl capel o wahanol enwadau yn y pentref a’r cyffiniau ac roeddent yn darparu ymdeimlad cryf o gymuned, gan ddarparu digwyddiadau cymdeithasol ac addysgol. Fel rheol, cynhaliwyd y gwasanaethau yn y Gymraeg yn hytrach nag yn Saesneg.

Yn aml, roedd capeli’n rhoi cyfle i oedolion a phlant ddod yn llythrennog drwy gyfarfodydd y Beibl ac ysgolion Sul yn ogystal â’r cyfle i gymryd rhan mewn cystadlaethau canu a llythrennedd ac eisteddfodau.

Fel y gwelwch chi o sawl adroddiad papur newydd, roedd gan ddiaconiaid y capeli lawer o ddylanwad a phŵer yn y gymuned a gellid eu canfod yn gwneud sylwadau ar ymddygiad a thueddiadau gwleidyddol eu praidd, a oedd yn cael eu hadrodd yn y papur newydd yn aml! Dim ond amlinelliad byr o eglwysi a chapeli crefyddol y pentref a’r cyffiniau yw hwn.

Unwaith eto, os oes gennych chi ragor o wybodaeth, rhowch wybod i ni gan ddefnyddio’r ffurflen ‘cysylltu â ni’.

who lived in my house Efail Fach Mill and Sardis Chapel

Capel Annibynwyr Cymreig Sardis:

Dechreuwyd cynnal cyfarfodydd gweddi yn Efail Fach a’r cyffriniau gan nifer o aelodau Capel y Graig, Cwmafan a Fforchdwm, Tonmawr. Fodd bynnag, gan fod yr aelodau’n cwyno am y pellter yr oedd raid iddynt ei deithio i addoli, aethant ati i ddechrau cwblhau gwaith adeiladu eu hunain, gan ddefnyddio cerrig o afon Pelenna yn aml i adeiladu eu capel eu hunain. Dechreuwyd adeiladu y tu allan i ffin y plwyf yn 1856 a chwblhawyd y gwaith yn 1859. Agorodd y capel ar 3-4ydd Awst y flwyddyn honno. Credir iddo gael ei addasu neu ei newid yn 1896 ac yn 1905. Gyda lle i 400, mae Sardis bellach yn rhoi ei enw i’r bryn serth uwchben safle’r hen felin yn Efail Fach. Caeodd yn y 1980au a symudwyd llawer o’i du mewn a’i osod yng nghapel Macpelah.
Jerusalem chapel Pontrhydyfen

Capel Jerusalem:

Safle’r capel a’r fynwent hynaf ym mhentref Pontrhydyfen. Capel Methodistaidd Calfinaidd oedd Jerwsalem. Mae adeiladau olynol wedi’u hadeiladu ar y safle hwn (1845 a 1876). Mae’r adeilad presennol yn adeilad rhestredig Gradd II ac roedd 800 o bobl yn gallu eistedd ynddo. Cafodd ei gynllunio yn yr arddull glasurol gan y pensaer o’r Rhondda, W. Jones, ac fe’i adeiladwyd gan E. Evans, Llangynwyd. Caeodd yn y 1990au ac mae bellach yn breswylfa breifat.
Bethel chapel

Capel Bedyddwyr Bethel:

Adeiladwyd y capel cyntaf ar safle Capel Bethel yn 1850 ond gwnaed gwaith ailadeiladu ac addasiadau yn 1903. Credir bod rhywfaint o’r adeilad cynharach wedi’i ymgorffori mewn wal derfyn. Mae’n adeilad Rhestredig Gradd II a daeth i sylw byd-eang pan gynhaliwyd gwasanaeth coffa Richard Burton yno ym mis Awst 1984. Er bod y capel wedi cau ers hynny, mae wedi ailagor bellach ac yn gweithredu fel caffi a lleoliad cerddoriaeth. Mae llawer o’r tu mewn wedi cael ei gadw ac mae’r bedyddfaen wedi’i gadw a gellir dod o hyd iddo o dan y llwyfan.

Capel Gyfylchi:

Mae’n debyg bod capel neu eglwys wedi sefyll ar y safle hwn ers yr Oesoedd Canol, ond erbyn canol y 18fed ganrif roedd yn adfeilion. Dechreuodd clerigwr Methodistaidd, William Davies, ei ailadeiladu tua 1775. Daeth Gyfylchi yn ganolfan bwysig i’r mudiad Methodistaidd a Diwygiadol. Daeth llawer o bregethwyr i gyfarfodydd yng Ngyfylchi a gallai’r rhain ddenu torfeydd o gannoedd. Er mwyn darparu ar gyfer nifer mawr o bobl, dechreuwyd adeiladu capel Methodistaidd newydd (Jerwsalem) yn 1824 a chwblhawyd yr adeilad yn 1826.

Capel Macpelah (Sardis-Macpelah bellach):

Agorodd yn 1896 a defnyddiwyd ef fel festri ac ysgol Sul ar gyfer capel Annibynwyr Sardis. Wedi’i leoli wrth ymyl mynwent Macpelah, daeth hwn yn brif gapel yr Annibynwyr pan gaeodd Sardis yn y 1980au. Cymerodd Cyngor Cymuned Pelenna yr awenau i redeg y fynwent yn 2015. Dyma’r unig gapel sy’n cynnig gwasanaethau ym Mhontrhydyfen.
who lived in my house Oakwood Row and St Johns Church 1930s AM

Eglwys Sant Ioan yr Efengylwr, Oakwood:

Cynhaliwyd gwasanaethau Anglicanaidd yn wreiddiol yn yr hen ystafell ysgol yn Oakwood. Rhoddwyd y tir a’r arian i adeiladu’r eglwys a’r ysgol gan deulu Talbot. Agorwyd yr eglwys yn 1882 (edrychwch ar yr erthygl papur newydd) ac roedd yn fam-eglwys i drigolion Oakwood, Tonmawr, Bryn a Phontrhydyfen. Wedi’i chynllunio a’i hadeiladu gan Feistri Kent & Co, Llundain, gallai ddal tua 300 o bobl. Ar un adeg roedd yn gartref i gofeb ryfel y pentref a ddadorchuddiwyd yn 1924. Cynhaliwyd llawer o wasanaethau ysgol yn yr eglwys. Caewyd yr eglwys yn y 1990au a gwnaeth y plwyfolion lleol gais am ganiatâd cynllunio i adeiladu un yn ei lle, ond gwrthodwyd y cais.

Neuadd Genhadaeth Eglwys Sant Teilo, Tonmawr:

Codwyd yr adeilad presennol pan ddaeth y trigolion at ei gilydd a chodi arian i adeiladu Eglwys Sant Teilo newydd pan gaewyd eglwys Sant Ioan ym Mhontrhydyfen. Cafodd ei chysegru ym mis Awst 2003.

Capel Annibynnol Shiloh / Capel Annibynwyr Bryn Seion Tonmawr:

Mae cofnodion cynnar yn dangos bod cyfarfodydd annibynwyr yn cael eu cynnal mewn tŷ o’r enw Shiloh yn Nhonmawr. Nid yw’n sicr ai hwn oedd rhagflaenydd Capel Annibynwyr Bryn Seion, y cyfeiriwyd ato yn 1847 a bod yr adeilad wedi’i addasu yn 1883, 1895 ac eto yn 1910. Roedd y cofnodion yn nodi bod lle i 350 o bobl eistedd yn yr adeilad.